Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sut mae creu cyfeiriad e-bost

Mae’r canllaw hwn yn dangos i chi sut mae creu cyfeiriad e-bost am ddim trwy ddefnyddio Gmail. Mae creu cyfrif e-bost yn eich galluogi i gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif a gwefannau eraill.

Gallwch greu cyfrifon e-bost gyda darparwyr eraill, megis Outlook ac Yahoo, ac mae’r darparwyr hyn yn defnyddio prosesau tebyg i’r camau yn y canllaw hwn.

Camau cyntaf

  1. Teipiwch www.google.co.uk yn y bar cyfeiriad ar ben y dudalen we
  2. Cliciwch ar y ddolen Gmail sy’n agos at ben dudalen we i’r dde
  3. Cliciwch ar ‘Creu Cyfrif’

 

Dewis eich cyfeiriad e-bost

I greu cyfrif newydd, mae angen i Google gael rhywfaint o wybodaeth amdanoch. Teipiwch eich enwau cyntaf a’ch cyfenw.

I greu cyfeiriad e-bost mae angen i chi ddewis enw defnyddiwr. Eich cyfeiriad e-bost wedi’i ddilyn gan ‘@gmail.com fydd eich enw defnyddiwr. Yn ddelfrydol, dylai fod yn gyfuniad o'ch enw cyntaf a'ch cyfenw. Fodd bynnag, os yw eich enw'n gyffredin iawn megis John Smith, mae’n debygol bod eich dewis gyfeiriad e-bost eisoes yn cael ei ddefnyddio. Efallai y byddwch am gynnwys rhifau yn eich cyfeiriad e-bost megis eich dyddiad geni.

Dewis cyfrinair

Dewiswch gyfrinair sydd ag wyth cymeriad neu fwy. Sicrhewch fod eich cyfrinair yn ddiogel ac yn gofiadwy. Mae cyfrineiriau diogel yn cynnwys cyfuniadau o briflythrennau a llythrennau bach a rhifau fel News@10.

Dilysu eich cyfrif Gmail

Rhowch ddyddiad eich pen-blwydd a’ch rhyw. Yna, teipiwch eich rhif ffôn symudol, neu gyfeiriad e-bost arall os oes un gennych. Diben hwn yw fel y gallwch gadarnhau mai eich cyfrif e-bost chi yw ef os byddwch erioed yn cael trafferth cael mynediad at eich cyfrif yn y dyfodol.

Profi na ydych yn robot

Mesur diogelwch yw hwn. Teipiwch y llythrennau neu'r digidau fel y maent yn ymddangos ar y sgrin.

Nesaf, cytunwch i'r telerau gwasanaeth trwy roi tic yn y blwch. Efallai na fyddwch yn dewis ticio'r blwch wrth ymyl y frawddeg yn dweud bod Google yn gallu defnyddio gwybodaeth megis data Fy Nghyfrif ar gyfer preifatrwydd a diogelwch.

Ar ôl hynny, cliciwch ‘Cam nesaf’. Gallwch ychwanegu llun proffil nes ymlaen. Llongyfarchiadau! Rydych wedi creu cyfrif e-bost. I ddechrau defnyddio'ch cyfrif e-bost, cliciwch 'Parhau i Gmail'.

Chwilio A i Y