Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swyddi gwag yn y gwasanaethau arlwyo

Mae ein gwasanaethau arlwyo yn ehangu - ymunwch â'n tîm!

Mae hi’n amser cyffrous i ddod yn aelod o’n gwasanaethau arlwyo, wrth i ni barhau i gyflwyno’r fenter Prydau Ysgol Gynradd Am Ddim i 51 ysgol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae plant ysgol gynradd ym Mlwyddyn 1, 2 3 a 4 yn ogystal â phlant meithrin llawn amser, eisoes wedi elwa o’r cynnig prydau ysgol am ddim, ac mae gennym gyfleoedd gwych ar gyfer cynorthwywyr cegincogyddion cynorthwyol, a cogyddion i ymuno a’n timau wrth i’r gwasanaeth ehangu i gynnwys Blwyddyn 4, 5 a 6, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

Mae ein staff yn allweddol i’n gwasanaethau, ac rydym yn falch eu bod wedi eu cydnabod am ddarparu gwasanaeth rhagorol i blant ledled y fwrdeistref sirol, gan gynnwys eu ceginau a raddwyd yn 5 seren o ran hylendid, ac ennill gwobrau ledled y wlad.

Pam ymuno â ni?

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i weithio, a gallwn gynnig cyfleoedd gwych i chi ddatblygu eich gyrfa; er enghraifft, pe byddwch yn dechrau gweithio i ni fel cynorthwyydd cegin, gallwn gynnig yr hyfforddiant angenrheidiol i chi ddatblygi i fod yn gogydd cynorthwyol, ac yna’n gogydd.

Mae ein buddion eraill yn cynnwys:

  • tâl cystadleuol
  • cynllun pensiwn staff hael
  • oriau gwaith amrywiol ar gael
  • oriau gwaith yn ystod y tymor ysgol yn unig
  • amgylchedd gwaith gefnogol
  • hyfforddiant yn y swydd

Cwrdd â’n tîm arlwyo ysgolion!

Mae Clare Squire, Cogydd yn Ysgol Gynradd Brynmenyn, Shan Price, Cogydd yn Ysgol Gynradd y Pîl a Katherine Underhill, Cogydd yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr, sydd rhyngddynt yn darparu prydau i dros 470 o blant bob dydd, a chanddynt dros 60 mlynedd o brofiad cyfunol mewn Gwasanaethau Arlwyo.

Mae gennych i gyd lawer o brofiad o fewn y Gwasanaethau Arlwyo, sut ddechreuodd eich gyrfa gyda’r cyngor?

Shan: Wel, rwyf wedi gweithio mewn ysgolion ledled y fwrdeistref sirol ers 22 mlynedd, rwyf wedi bod yn Ysgol Gynradd y Pîl ers blwyddyn bellach, ond mae’n rhaid mod i wedi gweithio mewn rhwng 30 i 40 o ysgolion dros y blynyddoedd. Roeddwn eisiau ymuno fel Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol ond fe wnaeth fy ngoruchwyliwr, yr oeddwn wedi gweithio â nhw o’r blaen, fy ngwneud yn Gogydd yn syth bin, ac rwyf wedi bod yma ers hynny!

Clare: Rwyf innau wedi bod gyda’r cyngor oddeutu 22 o flynyddoedd hefyd. Ymunais fel Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol pan ddechreuodd fy mab yn yr ysgol gynradd, gan fy mod yn chwilio am swydd a oedd yn ffitio o amgylch oriau ysgol fy mhlant ar y pryd, ac yna o fewn blwyddyn neu ddwy roeddwn wedi symud ymlaen i fod yn Gogydd.

Katherine: Ymunais ym mis Mawrth 2008, ac erbyn mis Medi 2008 dechreuais goginio yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr ac rwy’n dal yno!

Allwch chi ddisgrifio diwrnod mewn bywyd arferol Cogydd ysgol?

Shan: Rydym i fod i weithio 9am-2pm, ond rwyf bob amser yno’n gynnar gan fy mod yn hoffi sicrhau bod popeth yn iawn ar gyfer y clwb brecwast, ond mae hi i fyny i bob cogydd unigol â dweud y gwir. Rwyf bob amser wedi hoffi cyrraedd yn gynnar i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y diwrnod.

Clare: Finnau’r un fath, rwyf finnau’n cynnal y clwb brecwast yn Ysgol Gynradd Brynmelyn hefyd ac rwy’n dechrau am 8am. Rydym yn dod i mewn i wneud y tôst, grawnfwydydd, sudd a ffrwythau ac yna’n eu gweini i’r plant. Mae yna 130 o blant yn ein clwb brecwast, felly mae o’n un eithaf mawr!

Katherine: Rwyf finnau’n cynnal y clwb brecwast hefyd. Rwy’n dechrau am 8am ac yno tan 2pm. Efallai y bydd ychydig yn hwyrach na hynny, mae’n dibynnu ar faint o blant sydd wedi dod y diwrnod hwnnw, ond fel arfer rwy’n gorffen gweithio am 2pm.

Shan: Ar ôl y clwb brecwast, byddwn yn cael cadarnhad gan yr ysgrifenyddes faint sydd eisiau bwyd amser cinio. Ar ôl ychydig rydych yn dod i wybod faint o brydau’r dydd, ar gyfartaledd, y byddwch yn eu gweini. Rydym yn paratoi a gweini oddeutu 135 o brydau’r dydd, ac mae gen i Gogydd Cynorthwyol a dau Gynorthwyydd Cegin Cyffredinol yn fy nhîm. Mae pob ysgol yn gweithio gyda’r un bwydlenni ond mae’r plant ym mhob ysgol yn hoffi pethau gwahanol, felly rydym yn paratoi’r prydau a gweithio allan maint y dognau a dewisiadau llysieuol, a salad ffres, ffrwythau a phwdinau.

Katherine: Mae gen i ddau Gynorthwyydd Cegin Cyffredinol yn fy nhîm, ac rydym yn gweini oddeutu 85-95 pryd y dydd. Rydym i gyd yn coginio gan ddefnyddio bwydydd ffres, ond mae gennym rai eitemau sydd wedi’u rhewi, lle byddwn yn ychwanegu saws a llysiau ac ati, ar gyfer bolognese a chyri cyw iâr, er enghraifft, mae gennym gig wedi’i rewi, ond rydym yn paratoi ac ychwanegu’r holl bethau eraill. Rydym yn gwneud y dewisiadau llysieuol megis pastai’r bugail corbys yn ffres.

Clare: Mae gen i dîm o 8 yn cynnwys Cogyddion Cynorthwyol a Chynorthwywyr Cegin Cyffredinol, ac rydym yn gweini rhwng 240 a 280 o brydau’r dydd, mwy pan rydym yn gweini pizza! Felly, yn ogystal â pharatoi a gweini rydym hefyd yn defnyddio’r tiliau di-arian ar gyfer prydau’r plant, ac yna yn y swyddfa rydym yn archebu stoc, talu cyflogau a gwneud dyletswyddau gweinyddol eraill.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich swydd?

Clare: Rwyf wrth fy modd gyda fy swydd, byddaf yn dweud wrth bawb fy mod wrth fy modd gyda fy swydd, mae’n werth chweil. Mae fy nhîm fel teulu, ac rydym yn rhan o gymuned yr ysgol ac yn cymdeithasu gyda’r athrawon hefyd. Rydych yn dod yn agos at y plant hefyd oherwydd rydych yn eu gweld nhw’n cyrraedd yn y Meithrin ac yn mynd yr holl ffordd i Flwyddyn 6 cyn iddynt adael. Maent fel rhan o’ch teulu estynedig, ac rydych yn teimlo’n warchodol drostynt. Mae gan rai o’r plant a oedd yn yr ysgol pan ddechreuais i blant eu hunain yma bellach, felly rydych yn gweld gwahanol genedlaethau o’r un teulu.

Shan: Nid dim ond gweithio gyda’r plant sydd wrth fy modd, ond bod yn rhan o dîm hefyd. Os ydych yn gweithio gyda thîm da, maen nhw fel teulu, ac mae’n swydd gymdeithasol iawn, rydym i gyd yn cymdeithasu. Rwyf wrth fy modd yn gweithio fel rhan o dîm a thros y blynyddoedd rwyf wedi gweithio gyda chymaint ac mae pawb wedi bod yn wych ym mhob ysgol y bûm ynddi. Mae rhieni yn dod ataf ar y stryd yn gofyn i mi sut rwy’n coginio ambell i beth gan mai dim ond y ffordd honno mae eu plant yn bwyta prydau, ac mae’n werth chweil gweld sut rydych wedi helpu’r plant hyn i ddatblygu, gan eu hannog i drio bwydydd eraill. Rwyf wedi cofrestru ein hysgol ar gyfer y cystadlaethau ‘Eat them to defeat them’ lle rydym yn meddwl ffyrdd i annog y plant i fwyta mwy o lysiau, rwyf wedi creu arddangosfeydd ac fe gawsom yr ail wobr un flwyddyn, a chanmoliaeth uchel yn 2022, felly rwy’n gobeithio gwneud yn well eto eleni! 

Clare: Rydym wedi ennill cegin y flwyddyn cyn hyn, ac rwy’n cadw hwnnw ar gyfer pob blwyddyn!

Katherine: Fel mae’r lleill wedi dweud, mae’n swydd werth chweil, ac mae’n wych gweld bod y plant yn dal i’ch cofio pan maent yn hŷn, pan maen nhw o gwmpas y lle yn eu hugeiniau ac maen nhw’n dal i fy ngalw yn ddynes ginio, ar ôl yr holl flynyddoedd.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n meddwl dechrau eu gyrfa gyda’r Gwasanaethau Arlwyo?

Clare: Os ydych yn rhiant sy’n chwilio am swydd sy’n ffitio o amgylch oriau ysgol, does dim swydd well. Rydych yn cael y gwyliau cyfan ac yn cael treulio amser gyda’ch plant neu wyrion ac wyresau, heb boeni am ddod o hyd i ofal plant. Rydych yn cael bod yno ar gyfer cyngherddau a diwrnod mabolgampau, mae’n wych ar gyfer rhieni sy’n gweithio.

Katherine: Mae’n swydd sy’n talu’n dda hefyd, ac rydym yn parhau i gael ein talu yn ystod gwyliau’r ysgol hyd yn oed. Mae’r cyflog ar sail pro rata felly rydym yn cael yr un cyflog drwy gydol y flwyddyn, p’un a ydym yn y gwaith neu ar wyliau.

Shan: Mae’r hyfforddiant a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn wych. Mae yna ddilyniant cyflym a chlir ar gyfer Cynorthwywyr Cegin Cyffredinol i ddod yn Gogyddion, ac mae modd defnyddio’r sgiliau a ddysgwch yn unrhyw le. Gallwch hefyd hyfforddi wrth weithio hefyd, felly os ydych yn frwdfrydig ac yn dangos parodrwydd i symud ymlaen, mae modd i chi ddod yn Gogydd Cynorthwyol ymhen ychydig fisoedd.

Emma Bennett, Rheolwr Gweithrediadau Arlwyo.

“Dechreuais weithio yn y gwasanaethau arlwyo dros 22 o flynyddoedd yn ôl fel cynorthwyydd cegin cyffredinol. Roedd fy mhlant o oedran ysgol, ac roeddwn i’n gweithio fel cogydd, fodd bynnag nid oedd oriau gwaith y diwydiant lletygarwch yn gyfleus ar gyfer fy nheulu i.

Dechreuais weithio ar gyfer prydau ysgol fel mesur dros dro, nes bod fy mhlant yn hŷn. Ond, sylweddolais yn fuan iawn bod modd i mi ddatblygu i fod yn gogydd cynorthwyol neu gogydd, gan fod y gwasanaeth yn awyddus iawn i ddatblygu staff a oedd gyda photensial. Cefais swydd cogydd yn ysgol Heronsbridge, a mwynheais weithio yno am flynyddoedd, tan i mi gael swydd fel goruchwyliwr ardal ac yna rheolwr gweithrediadau.

Dros flynyddoedd fy nghyflogaeth, rwyf wedi derbyn llawer o hyfforddiant a datblygiad, ond yn bwysicaf oll, cefnogaeth ac anogaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r tîm rheoli arlwyo wedi datblygu drwy'r gwasanaeth, a rheiny oll wedi dechrau eu gyrfaoedd fel cynorthwywyr cegin cyffredinol.”

Ynglŷn â'r swyddi

Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol

£12 yr awr

  • Dyletswyddau yn cynnwys cynorthwyo wrth baratoi, cyflwyno a gweini prydau ysgol, wrth ddarparu amgylchedd diogel a glân i ddisgyblion a staff. Bydd gofyn i chi baratoi byrddau bwyd a chadeiriau, ac mewn rhai ysgolion, weithio ar orsaf â sgrin gyffwrdd

Cogydd Cynorthwyol

£12.59 yr awr

  • Dyletswyddau yn cynnwys cynorthwyo’r Cogydd i baratoi prydau ysgol a chynorthwyo wrth ddarparu hyfforddiant a threfn i staff y gegin

Cogydd Ysgol Gynradd / Ysgol Uwchradd

£13.69 - £14.17 yr awr / £15.17 - £15.70 yr awr

  • Dyletswyddau yn cynnwys rheoli a chydlynu gweithgareddau dydd i ddydd o fewn cegin newydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei darparu i bob cwsmer, gan fod yn gyfrifol dros gynllunio bwydlenni, rheoli maint prydau, paratoi a choginio o fewn y gegin.

Sut i wneud cais

Os hoffech ymuno â’n gwasanaeth uchelgeisiol, neu os ydych yn awyddus i ddarparu’r gwasanaeth orau bosib, yn frwdfrydig, yn hoff o weithio gyda phlant, neu’n chwilio am swydd sy’n bodloni eich sefyllfa deuluol, byddem yn falch iawn o gael cais gennych!

Ewch i Borth Swyddi'r Cyngor i weld swyddi gwag presennol, ac i wneud cais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, a bod gennych gwestiynau, rydym yn awyddus i'w hateb - cysylltwch ag Emma Bennett (Gwasanaeth Arlwyo) ar 01656 815964.

Os ydych yn cael trafferth cwblhau cais, cysylltwch â’n Desg Gymorth Trent ar 01656 643698.

Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wrth law i gefnogi preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda’r holl agweddau sy’n ymwneud â chyflogaeth, a gallent eich cynorthwyo i gyflwyno eich cais, a’ch cefnogi i ganfod swydd (yn cynnwys cynnig hyfforddiant, cyngor ac arweiniad).

Mae diogelu plant, pobl ifanc neu oedolion bregus yn un o gyfrifoldebau craidd holl weithwyr y cyngor.

Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Chwilio A i Y