Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ceisiadau rhyddid gwybodaeth

Yn dilyn penderfyniad y Tribiwnlys Hawliau Gwybodaeth Haen Gyntaf EA/2018/0033, nid yw'r Awdurdod bellach yn cyhoeddi data ardrethi busnes ar ei dudalen we data agored. Ni fydd bellach yn datgelu gwybodaeth am gyfrifon ardrethi busnes mewn ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth.

Y gyfraith a’n hymrwymiad wedi’u hesbonio

Ein hymrwymiad i ddata agored

Er mwyn hyrwyddo bod yn agored ac yn dryloyw, rydym yn ymrwymedig i gyhoeddi symiau cynyddol o’n data.   Nid oes rhaid i chi ofyn i ni am ganiatâd i ailddefnyddio ein data, ond mae’n rhaid i chi dderbyn telerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.

Efallai y byddwch hefyd eisiau gweld dogfen ganllaw yr Archifau Cenedlaethol.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Rhyddid Gwybodaeth) yn caniatáu i unrhyw un ofyn am gofnodion a gedwir gan awdurdodau lleol yng Nghymru, yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, yn ogystal ag adrannau’r llywodraeth. Gall ddatgelu sut y mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau, yn ogystal â chynnal neu ffurfio gwasanaethau. I weld crynodeb o’r sefydliadau yr effeithir arnynt, ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gweithredu ochr yn ochr â’r Ddeddf Diogelu Data, sy’n galluogi pobl i gael gafael ar wybodaeth amdanynt eu hunain megis cofnodion personol, neu ddata a gedwir gan asiantaethau gwirio credyd. Mae hefyd yn cydweithio â’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, sy’n rhyddhau gwybodaeth am yr amgylchedd.

Chwilio A i Y