Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pontio’r UE

Mae llywodraeth y DU a'r UE bellach wedi cytuno ar fargen ar eu perthynas yn y dyfodol.

Mae newidiadau sy'n effeithio ar bob un ohonom. O'r ffordd rydym yn gwneud busnes i'r ffordd rydym yn teithio.

Ewch i wefan 'Paratoi Cymru' Llywodraeth Cymru i gael cyngor i drigolion a busnesau ledled Cymru am y camau sydd angen eu cymryd.

Newidiadau i fusnesau a dinasyddion

Mae rheolau newydd ar gyfer busnesau a dinasyddion o 1 Ionawr 2021 ymlaen.

Mae'r rheolau newydd yn effeithio ar ddinasyddion, busnesau a theithio i'r UE. Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer diwedd cyfnod pontio Brexit.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU am:

Beth sydd angen i chi ei wneud

Bydd eich busnes, eich teulu a'ch amgylchiadau personol yn cael eu heffeithio. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu holiadur gwirio ar-lein i gael rhestr bersonol o gamau gweithredu. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer negeseuon e-bost i gael diweddariadau am yr hyn mae angen i chi ei wneud.

Cwblhau’r holiadur Gwirio, Newid, Mynd

Canllawiau sector benodol

Dewch o hyd i wybodaeth am gamau gweithredu pwysig ar gyfer deg sector o'r economi:

Porthol Brexit

Mae Porthol Brexit Busnes Cymru yn darparu diweddariadau a dolenni at wybodaeth a chamau gweithredu i helpu busnesau i feddwl am yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i baratoi ar gyfer newidiadau yn y dyfodol.

Mae Busnes Cymru yn cynnig un pwynt cyswllt i fusnesau ac entrepreneuriaid i gynghori a rhoi cymorth o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Am ragor o wybodaeth ewch i Borthol Brexit neu ffoniwch 0300 060 3000.

Cronfa Cefnogaeth Brexit BBaChau

Mae grantiau ar gael i helpu busnesau bach a chanolig sy'n newydd i fewnforio neu allforio.

Gallai Cronfa Cefnogaeth Brexit BBaChau roi hyd at £2,000 i chi i helpu gyda hyfforddiant neu gyngor proffesiynol, os oes gan eich busnes hyd at 500 o gyflogeion a dim mwy na £100 miliwn o drosiant blynyddol.

Gallwch ddefnyddio'r grant ar gyfer hyfforddiant ar y canlynol:

  • sut i gwblhau datganiadau tollau
  • sut i reoli prosesau tollau a defnyddio meddalwedd a systemau tollau
  • agweddau penodol sy'n gysylltiedig â mewnforio ac allforio gan gynnwys TAW, tollau cartref a rheolau tarddiad

Gellir ei ddefnyddio i'ch helpu i gael cyngor proffesiynol fel bod eich busnes yn gallu bodloni ei ofynion o ran tollau tramor a chartref, TAW mewnforio neu ddiogelwch a gofynion datganiad diogelwch.

Bydd y ceisiadau ar gyfer Cronfa Cefnogaeth Brexit BBaChau yn agor yn fuan.

Mwy o wybodaeth a gwirio eich cymhwysedd ar gyfer Cronfa Cefnogaeth Brexit BBaChau.

Sefydliadau'r trydydd sector

Mae Fforwm Brexit Cymru yn cynnig y canllawiau ac adnoddau diweddaraf i helpu'ch sefydliad i ddeall a pharatoi ar gyfer effaith bosibl Brexit.

Data personol

Yn dilyn Brexit, mae'r rheolau ynglŷn â sut y bydd data personol yn cael ei drosglwyddo rhwng yr UE a'r DU yn newid.

Mae gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnig rhagor o fanylion am ddiogelu data a Brexit a sut y gallai'r newidiadau hyn effeithio arnoch chi neu eich sefydliad.

Chwilio A i Y