Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dewch yn aelod lleyg

Mae’r Cyngor, ynghyd ag awdurdodau lleol ar draws Cymru am benodi Lleygwyr i’w Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar hyn o bryd.

Gweld disgrifiad swydd yr aelod Lleyg

Mae’r pwyllgorau statudol hyn yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu a rhaglen cefnogi gwelliant Awdurdodau Lleol. Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw cynnig sicrwydd annibynnol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol, asesu perfformiad, ymdrin â chwynion a chywirdeb y dulliau adrodd ariannol a’r prosesau llywodraethu. Drwy oruchwylio’r gwaith archwilio mewnol ac allanol, gwneir cyfraniad pwysig tuag at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol yn eu lle.

Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i Leygwr gymryd rhan mewn Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio.

Mae’r pwyllgor yn cyfarfod tua chwech gwaith y flwyddyn a bydd Lleygwyr (Aelodau Annibynnol) yn derbyn tâl ariannol.

Rhoddir taliadau yn unol â’r cyfraddau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, (adran 9, tudalennau 30-31).

WG42164 Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (llyw.cymru)

Mae lleygwr yn golygu nad yw’r person:

  1. Yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol,
  2. Ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeng mis yn gorffen ar ddyddiad y penodiad wedi bod yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol, nac
  3. Yn briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol.

Yn ogystal â bodloni’r meini prawf hyn, bydd angen i ymgeiswyr addas fod yn anwleidyddol gyda dealltwriaeth ac ymroddiad i’r 7 Egwyddor o Fywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) a gallu dangos y rhinweddau a’r priodoleddau canlynol:

  • Diddordeb a gwybodaeth/profiad o reoli materion ariannol, risg a pherfformiad, archwilio, cysyniadau a safonau cyfrifeg, a’r drefn reoleiddio yng Nghymru;
  • Meddwl gwrthrychol ac annibynnol gydag agwedd ddiduedd a’r gallu i fod yn gynnil;
  • Cefnogi egwyddorion llywodraethu da a’u defnyddio'n ymarferol er mwyn cyflawni’r amcanion sefydliadol;
  • Meddwl yn strategol gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog;
  • Gallu deall a phwyso a mesur tystiolaeth a herio gyda pharch.

Nid yw gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol yn angenrheidiol, er y disgwylir i ymgeiswyr posibl fod â diddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus.  O fis Mai 2022 bydd Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio yn cael eu cadeirio gan Leygwr, felly byddai'r parodrwydd a'r gallu i ymgymryd â'r rôl hon yn ddymunol.

Os oes gennych ddiddordeb neu brofiad ym maes llywodraethu, archwilio, rheoli perfformiad neu reoli risg ac yn awyddus i helpu’r Cyngor i sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, cwblhewch y ffurflen gais isod.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Tachwedd 2021.

Cyswllt

Joan Davies

Chwilio A i Y