Etholiadau cyfredol
Ceir hysbysiadau a gwybodaeth am etholiadau cyfredol isod:
Lleoliad Gorsafoedd Pleidleisio
Hysbysiad o Asiantiaid Etholiadol
Hysbysiad o Is-Asiantiad Etholiadol
Darganfyddwch pwy sy'n sefyll ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar-lein, neu ffoniwch 0300 1311 323 i drefnu bod llyfryn yn cael ei bostio.
Darganfyddwch fwy am y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu (SCAH) a sut i sefyll mewn etholiad
Darganfyddwch fwy am bleidleisio ac etholiadau yng Pen-y-bont ar Ogwr.
Hysbysiad o etholiad - Cyngor Cymuned Bracla, Ward Dwyrain Bracla
Datganiad Canlyniad Y Bleidlais – Cyngor Tref Oen-Y-Bont ar Ogwr, Ward y Castell Newydd
Datganiad Canlyniad Y Bleidlais: Cyngor Tref Porthcawl, Ward Canol Dwyrain
Datganiad Canlyniad y Bleidlais – Cyngor Cymuned Corneli
Datganiad Canlyniad Y Bleidlais – Cyngor Cymuned Bracla – Ward Canol Gorllewin Bracla
Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio
Gallwch ddod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio drwy ddefnyddio’ch cod post. Os ydych yn gymwys i bleidleisio dylech hefyd dderbyn cerdyn pleidleisio gyda manylion eich gorsaf bleidleisio. Gall mynd â'ch cerdyn pleidleisio gyda chi helpu i gyflymu'r broses bleidleisio, ond nid oes angen hyn arnoch i bleidleisio.
Rhaid i chi bleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio, sydd fel arfer gerllaw. Ni allwch bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio os oes gennych bleidlais bost, ond gallwch roi eich pleidlais bost wedi'i chwblhau mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn yr ardal bleidleisio berthnasol.
Gall gorsafoedd pleidleisio newid o bryd i'w gilydd, felly mae'n bwysig eich bod yn gwirio ble mae angen i chi bleidleisio.
I gael mwy o wybodaeth am y broses etholiadol, ewch i wefan y Comisiynydd Etholiadol neu cysylltwch â nhw.
Dogfennau
- Datganiad Prosesu Teg Etholiadol (PDF 90Kb)