Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Polisi a Phrosesau CAT

Mae ein polisi CAT a phrosesau cysylltiedig yn seiliedig ar egwyddorion allweddol angen cymunedol, cefnogaeth i nodau ac amcanion ehangach y Cyngor, yr angen am sicrhau tryloywder, a chynaliadwyedd unrhyw gynigion.

Mae tri cham i'r broses – mynegi diddordeb, cynllun busnes llawn (neu ragolwg ariannol 5 mlynedd ar gyfer ceisiadau a all fod yn destun “llwybr cyflym” a phenderfyniad). Mae'r canllawiau’n nodi'r mathau o asedau a ystyrir yn addas ar gyfer CAT.

Crynodeb o'r Broses CAT

Mae dwy broses ar gael ar gyfer ceisiadau – safonol a llwybr cyflym. Bydd y dull sydd ei angen yn dibynnu ar raddfa a chymhlethdod y trosglwyddiad.

CAM

CAT SAFONOL

CAT LLWYBR CYFLYM

0

Trafodaeth cyn ymgeisio gyda Swyddog CAT, Guy Smith

Trafodaeth cyn ymgeisio gyda Swyddog CAT

1

Mynegi Diddordeb yn Ffurfiol i Swyddog CAT, Guy Smith

Mynegi Diddordeb yn Ffurfiol i Swyddog CAT

Ffurflen Mynegi Diddordeb

2

Diagnosteg Busnes a Chynllun Busnes 

Diagnosteg Busnes ac Amcanestyniadau Ariannol 

3

Asesiad Llawn o Gynnig a Chynllun Busnes CAT  

Asesu Cynnig ac Amcanestyniadau Ariannol 

4

Cymeradwyo trosglwyddo eiddo a chwblhau’r cytundeb                        

Cymeradwyo trosglwyddo eiddo a chwblhau’r cytundeb                        

Cyn cyflwyno cais anogir ymgeiswyr i drafod eu hopsiynau, eu haddasrwydd a chwmpas trosglwyddo asedau cymunedol gyda'r Swyddog CAT. Bydd y trafodaethau anffurfiol hyn yn helpu i baratoi ar gyfer y broses o wneud cais ffurfiol i drosglwyddo ased.

Chwilio A i Y