Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Mae gan y cyngor gyfrifoldeb i'w breswylwyr, cyflenwyr a chontractwyr, i ddefnyddio ei brosesau caffael i “fodloni’r angen am nwyddau, gwasanaethau, gwaith a chyfleustodau mewn modd sy’n ennill gwerth am arian ar sail bywyd cyfan yn nhermau cynhyrchu buddion, nid yn unig i’r sefydliad, ond i’r gymdeithas a’r economi, tra hefyd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd”.

Drwy ddefnyddio ein Strategaeth Gaffael Gymdeithasol Gyfrifol fel canllaw, anelwn i osod sylfaen o bolisïau gwaith cadarn i’n cyflenwyr a chontractwyr eu dilyn.

Drwy arwain y ffordd fel cyflogwr sy’n talu Cyflog Byw Gwirioneddol, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr obeithion uchel y bydd ein cyflenwyr yn dilyn ein hesiampl ac yn galluogi i Ben-y-bont ar Ogwr ddod yn dref sy’n talu Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer y dyfodol.

Gan ein bod wedi ymrwymo i addewid Sero Net erbyn 2030 Llywodraeth Cymru, rydym wedi amlinellu ein hamcanion a’n cynlluniau ein hunain o fewn ein Strategaeth Sero Net. Gyda chefnogaeth ein contractwyr a’n cyflenwyr, gobeithiwn leihau ôl-troed carbon ein prosesau Caffael yn sylweddol, gyda’r bwriad o gyrraedd sero net erbyn 2030.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gael Datganiad Caethwasiaeth Modern gweladwy, ac i sicrhau tryloywder o fewn ein cadwyni cyflenwi. Mae’r Cyngor yn cydnabod ei gyfrifoldeb fel cyflogwr i fod yn ymwybodol o achosion posib o Gaethwasiaeth Modern, a’i gyfrifoldeb i adrodd yr achosion hyn i’r awdurdodau perthnasol.

Yn ddiweddar, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi mwynhau llwyddiant mawr gyda’i Gynllun Prentisiaeth. Mae cynnig ystod eang o brentisiaethau ar draws yr awdurdod yn creu cyfle i unigolion ddysgu sgiliau newydd wrth ennill cyflog. Mae hefyd yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu ei dalent ei hunan ac i ddyrchafu’n fewnol, wrth gynnig cyfleoedd cyflogaeth i breswylwyr lleol.

Chwilio A i Y