Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfleoedd Presennol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd amrywiol i gyflenwyr a chontractwyr dendro am ein contractau nwyddau a gwasanaethau angenrheidiol.

Hysbysebir pob cyfle gwerth dros £25,000 ar GwerthwchiGymru, os yw’n briodol gwneud hynny. Hysbysebir pob cyfle dros y trothwy ar GwerthwchiGymru a’r gwasanaeth Canfod Tendrau. Hysbysebir pob cyfle dros y trothwy yn y OJEU drwy GwerthwchiGymru.

DS: Rhaid i bob contractiwr sy’n chwilio am gyfleoedd gwaith gofrestru ar Constructionline cyn dechrau ymateb i unrhyw gyfleoedd.

Contractau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal Cofrestr o Gontractau Corfforaethol sy’n cadw rhestr o holl gontractau presennol y cyngor. Bwriad y gofrestr yw cynnig tryloywder ynglŷn â phryd mae contractau presennol yn dod i ben. Mae hefyd yn hysbysu cyflenwyr a chontractwyr presennol a phosib o’r ystod eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith y mae’r cyngor yn dymuno eu prynu.

Mae’r wybodaeth ar y gofrestr yn cynnwys:

  • Categori’r Contract
  • Dyddiad Dod i Ben
  • Dyddiad Estyniad (os yw'n berthnasol)
  • Rheolwr Contract
  • Dyddiad Dechrau
  • Cyfanswm Gwerth y Contract
  • Prif Gontractiwr

Pwrpas y rhestr yw arddangos contractau'r Cyngor. Nid yw’n gwarantu y bydd contractau o’r un fath yn cael eu cynnig yn y dyfodol.

Fframweithiau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio sawl fframwaith, yn lleol ac yn genedlaethol, gan gynnwys fframweithiau cynllun Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru (yn flaenorol, Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol).

Rydym yn cadw Calendr Fframweithiau sy’n arddangos y fframweithiau yr ydym yn eu defnyddio, eu dyddiad gorffen, a gwerthwyr llwyddiannus ar gyfer pob un.

Chwilio A i Y