Cynllun ‘Dim Tocyn, Dim Teithio’
Bydd yr awdurdod lleol yn ailddechrau'r cynllun 'dim tocyn, dim teithio' ar gyfer pob cludiant i ddisgyblion o oedran uwchradd o fis Medi 2021. Dim ond disgyblion sy'n cyflwyno tocyn mynediad i gerbyd cludiant ysgol fydd yn cael teithio.
Fodd bynnag, bydd rhywfaint o hyblygrwydd i ganiatáu i ddisgyblion dderbyn eu tocynnau o'u hysgol yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref yn unig.