Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwestiynau Cyffredin ynghylch cludiant ysgolion (Medi 2023)

Gwiriwch y ddolen isod i gael mwy o fanylion am amseroedd a lleoliadau codi disgyblion.

Gwybodaeth am amseroedd casglu a lleoliadau cludiant ysgolion.

Bydd pob un o'r dechreuwyr newydd yn cael llythyr gyda manylion y trefniadau cludiant ar gyfer mis Medi.

Gydag adnoddau cyfyngedig o ran staff yn y Tîm Cludiant Ysgolion, peidiwch â ffonio'r awdurdod lleol oni bai ei fod yn fater brys.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch schooltransport@bridgend.gov.uk ac fe wnaiff y tîm eich ateb chi cyn gynted â phosib.

Os ydych chi wedi derbyn llythyr yn rhoi gwybod i chi am gymhwysedd eich plentyn i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol, ond nad ydych wedi derbyn tocyn bws cyn mis Medi 2023, ni fydd hyn yn effeithio ar allu eich plentyn i ddefnyddio cludiant.

Serch hynny, dim ond y dysgwyr hynny a oedd yn gymwys i gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol ym mlwyddyn ysgol 2023-2024 neu'r rhai a hysbyswyd yn ysgrifenedig o'u cymhwysedd o fis Medi 2023 ymlaen, ddylai geisio teithio.

Gall newidiadau i ganllawiau'r Llywodraeth effeithio ar y cwestiynau cyffredin hyn. Fe'ch cynghorir felly i'w darllen o bryd i'w gilydd.

Cynllun dim tocyn, dim teithio

Bydd yr awdurdod lleol yn ailddechrau'r cynllun 'dim tocyn, dim teithio' ar gyfer pob cludiant i ddisgyblion o oedran uwchradd o fis Medi 2023.  Dim ond disgyblion sy'n cyflwyno tocyn mynediad i gerbyd cludiant ysgol fydd yn cael teithio.

Fodd bynnag, bydd rhywfaint o hyblygrwydd i ganiatáu i ddisgyblion dderbyn eu tocynnau o'u hysgol yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref yn unig.

Cwestiynau Cyffredin ynghylch cludiant ysgolion (Medi 2023)

Bwriad yr awdurdod lleol yw gweithredu trefniadau cludiant ysgolion mor arferol â phosib o ddechrau tymor yr hydref 2023. 

Na fydd. Ni fydd unrhyw newid i gymhwysedd o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol.

Bydd pob dysgwr cymwys yn cael llythyr gan dîm cludiant ysgolion yr awdurdod lleol cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi 2023.

Nid yw'n ofynnol cynnal grwpiau cyswllt/’swigod’ ar gludiant i'r ysgol cyn belled â bod grŵp cyson o ddysgwyr yn teithio ar yr un bws bob dydd maen nhw’n mynychu.  Lle bynnag y bo capasiti'n caniatáu, bydd cadw pellter cymdeithasol yn cael ei weithredu rhwng dysgwyr, neu grwpiau o ddysgwyr, a rhwng gyrwyr/cynorthwywyr teithio, neu hebryngwyr, ar wasanaethau cludiant penodedig sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol o'r cartref i'r ysgol.

Efallai y bydd cerbyd arall yn cael ei ddarparu i rai plant e.e. bws mini neu dacsi yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol neu i ddiwallu anghenion unigol.

Mae ysgolion yn gyfrifol am weithredu cynlluniau eistedd ar bob cerbyd cludiant ysgol mawr e.e. bysiau mawr.  Felly, gall ysgolion ganiatáu i frodyr a chwiorydd neu ddisgyblion o'r un aelwyd (maen nhw’n byw gyda'i gilydd yn yr un eiddo) eistedd gyda'i gilydd.  

Siaradwch â'ch plentyn am gadw pellter cymdeithasol, hylendid ac ymddwyn yn dda wrth ddefnyddio cludiant i'r ysgol.  Mae'n bwysig iawn bod plant yn camu ar gludiant i’r ysgol ac oddi arno yn dawel ac yn ddiogel ac yn aros yn eu seddi bob amser.  

Dylid dilyn unrhyw gyfarwyddyd gan yrrwr y bws neu'r hebryngwr (os bydd un yn cael ei ddarparu). Ni chaiff unrhyw ymddygiad gwael ei oddef a gall unrhyw blentyn sy'n peryglu defnyddiwr arall golli ei hawl i gael cludiant am ddim.

Mae angen i oedolyn cyfrifol (o'r un cartref) fynd â dysgwyr ysgolion cynradd sy'n gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol i'w safle bws agosaf, oni bai bod ganddynt drefniant ymlaen llaw gyda'r awdurdod lleol i'w heithrio. 

Nid oes angen i ddysgwyr ysgol uwchradd gael rhywun i ddod gyda nhw i’r safle bws/man casglu.

Rhaid i oedolyn cyfrifol ddod i gwrdd â holl ddysgwyr ysgol gynradd yn eu safle bws/man casglu ar ddiwedd y diwrnod ysgol, oni bai bod ganddynt drefniant ymlaen llaw gyda'r awdurdod lleol i'w heithrio.

Nid oes gofyniad statudol i ddarparu hebryngwyr, er y bydd yr awdurdod lleol yn asesu anghenion dysgwyr ac yn pennu priodoldeb ac argaeledd hebryngwyr ym mhob achos.

Bydd tocynnau bws yn cael eu hanfon i bob ysgol uwchradd a gellir eu casglu o dderbynfa'r ysgol yn ystod wythnos gyntaf y tymor.

Bydd mynediad yn cael ei wrthod i ddisgyblion ysgol uwchradd nad ydynt yn cyflwyno eu tocyn wrth fynd i mewn i gerbyd cludiant ysgol.  Cyfrifoldeb rhieni/gofalwyr yw sicrhau bod gan eu plentyn ei docyn bws gyda nhw bob amser ac i drefnu teithio ymlaen i'r ysgol os bydd gyrrwr yn gwrthod i'w plentyn gael mynediad i gerbyd cludiant ysgol.

Ydy, mae'r awdurdod lleol yn gallu ystyried ceisiadau am gludiant dewisol. 

Mae'r cynllun 'lleoedd talu' wedi'i atal ar hyn o bryd nes bod eglurder pellach ynghylch eithrio cerbydau cludiant i'r ysgol o dan Reoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR).

Sicrhewch fod gan eich plentyn ei docyn bws cyn iddo adael cartref bob dydd. Mae'n hanfodol bod eich plentyn yn gwybod beth i'w wneud os yw wedi anghofio neu golli ei docyn ac os gwrthodir iddo deithio. Gallai hyn fod yn ddychwelyd adref, eich ffonio chi fel rhiant / gofalwr neu fynd i gartref perthynas. Os gwrthodir mynediad i ddisgybl i fws ysgol oherwydd nad oes ganddo docyn dilys, cyfrifoldeb rhiant yw sicrhau ei fod yn cyrraedd yr ysgol.

Cwestiynau Cyffredin ynghylch cludiant ysgolion

Bydd rhieni/gofalwyr disgyblion cymwys yn derbyn llythyr pan fydd cludiant wedi’i drefnu gan yr awdurdod lleol. Bydd y llythyr hwn yn esbonio pa ddarparwr cludiant fydd yn cludo eich plentyn, yn ogystal â’i fanylion cyswllt a rhif y contract.

Nid oes proses ymgeisio a byddwn yn rhoi gwybod i chi mewn llythyr os yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim.

Nac oes. Bydd y tocynnau bws yn cael eu hanfon i bob ysgol uwchradd a gellir eu casglu o dderbynfeydd yr ysgolion yn ystod wythnos gyntaf y tymor.

Fodd bynnag, ni ddylai eich plentyn geisio teithio ar fws ysgol oni bai fod ganddo hawl i wneud hynny.  Gall unrhyw ddisgybl sy'n ceisio mynd ar gerbyd cludiant i'r ysgol wynebu camau disgyblu oni bai ei fod yn gymwys i wneud hynny.

Bydd y tocynnau bws yn cael eu hanfon i bob ysgol uwchradd a gellir eu casglu o dderbynfeydd yr ysgolion yn ystod wythnos gyntaf y tymor.

Yn ystod pandemig Covid-19, mae’r cynllun ‘Dim Tocyn, Dim Teithio’ wedi cael ei ohirio hyd nes ceir rhybudd pellach er mwyn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gludiant ysgolion.

 

Rhaid i chi roi gwybod i'r ysgol a gofyn iddi roi gwybod i’r tîm Cludiant i’r Ysgol. Os ydych yn dal yn gymwys o dan y meini prawf cymhwysedd cyfredol, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau hyn.

Dim ond trefniadau byw pendant fydd yn cael eu hystyried mewn perthynas â disgyblion preswyliaeth ddeuol, a bydd rhaid dangos tystiolaeth o breswyliaeth ddeuol.

Os bydd plentyn yn aros mewn mwy nag un cyfeiriad am gyfnod o amser, efallai mai ysgol wahanol fydd eu hysgol addas agosaf. Os felly, ni fydd gan eich plentyn hawl i gludiant am ddim pan mae’n aros yn y cyfeiriad arall.

Os mai’r ysgol mae eich plentyn yn mynd iddi yw’r ysgol addas agosaf at y ddau gyfeiriad, bydd cludiant ysgol am ddim yn cael ei ddarparu. Mae hyn yn amodol ar fodloni gofyniad pellter perthnasol y polisi teithiau dysgwyr.

Os ydych yn anfon eich plentyn i ysgol heb fod yr ysgol ddalgylch addas agosaf ato, ni ddarperir cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol.

Gallwch fynd i dudalennau llwybrau bysiau cludiant i’r ysgol. Ni chaiff amseroedd gollwng i'r ysgol eu cyhoeddi, ond gallwch ofyn am amcangyfrif o'r amseroedd ar gyfer llwybr eich plentyn gan y cwmni bysiau yn uniongyrchol.

Ar gyfer disgyblion nad oes ganddynt hawl i gludiant i’r ysgol am ddim, mae manylion llwybrau cyhoeddus ar gael ar wefan Traveline Cymru.

Na. Rhaid i'r disgyblion gerdded i'w man casglu penodol ar gyfer bysiau. Fodd bynnag, gall rhai cerbydau llai e.e. tacsis, drefnu i godi eich plentyn yn eich cyfeiriad cartref. 

Cynghorir disgyblion i fod yn eu safle bws 10 munud cyn yr amser gadael sydd wedi'i drefnu. Os nad yw'r bws wedi cyrraedd ar ôl 20 munud, dylai'r disgyblion ddilyn y canllawiau ar gefn eu tocyn bws. Dylent ffonio'r rhif sydd wedi'i nodi ac aros am gyfarwyddiadau gan y tîm Cludiant i’r Ysgol.

Nac oes. Bydd y gwasanaeth cludiant i'r ysgol ond yn codi ac yn gollwng disgyblion yn eu safle bws dynodedig. Ni fydd gyrrwr y bws yn caniatáu nac yn awdurdodi unrhyw gyfeiriad neu fan gollwng arall.

Na. Mae gan bob llwybr ysgol rif contract unigol, a dim ond y disgyblion sydd wedi cael tocyn ar gyfer y llwybr hwnnw gaiff deithio. Bydd unrhyw blentyn sy’n ceisio mynd ar y bws anghywir yn cael ei wrthod.

Yn ystod pandemig Covid-19, mae’r cynllun ‘Dim Tocyn, Dim Teithio’ wedi cael ei ohirio hyd nes ceir rhybudd pellach er mwyn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gludiant ysgolion.

Mae'n rhaid i rieni a gofalwyr plant ysgol gynradd sicrhau bod eu plentyn yn mynd ar y bws a dod oddi arno yn ddiogel. Rhaid i oedolyn cyfrifol fod ar gael o leiaf 10 munud cyn yr amser casglu y cytunwyd arno fel y nodir ar amserlen y bws ysgol.

Os na fydd oedolyn cyfrifol yn aros yn y safle dynodedig i gwrdd â phlentyn oedran cynradd, bydd y plentyn yn aros ar y bws tra bydd yn cwblhau ei daith. Yna bydd yn dychwelyd i arhosfan y plentyn. Os nad oes oedolyn cyfrifol yno o hyd, bydd y plentyn yn mynd i'r orsaf heddlu agosaf.

Os bydd y tocyn bws hwn yn cael ei golli, ei ladrata neu ei ddifrodi bydd angen i chi gysylltu â derbynfa'r ysgol, a fydd yn rhoi cyngor pellach i chi ar beth i'w wneud. Efallai y codir tâl am docyn bws newydd, felly mae'n bwysig iawn bod y tocyn yn cael ei gadw'n ddiogel.

Yn ystod pandemig Covid-19, mae’r cynllun ‘Dim Tocyn, Dim Teithio’ wedi cael ei ohirio hyd nes ceir rhybudd pellach er mwyn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gludiant ysgolion.

 

Na chaiff. Dim ond disgyblion cymwys sy'n cael teithio ar wasanaethau cludiant i’r ysgol.

Cludiant i ysgol anghenion addysgol arbennig

Rhoi gwybod i'r ysgol a gofyn iddi roi gwybod i’r tîm Cludiant i’r Ysgol.

Cysylltu â'r tîm Cludiant i’r Ysgol i wirio statws trefniadau cludiant eich plentyn.

E: schooltransport@bridgend.gov.uk.

Rhaid i rieni a gofalwyr sicrhau bod cyfarpar yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol er mwyn sicrhau y gall eu plentyn deithio'n ddiogel. Dylai cadeiriau olwyn gael eu gosod gyda'r cynhaliwr pen priodol, ffrwynau a phwyntiau angori, teiars chwyddedig, breciau wedi'u haddasu a phecyn pŵer wedi'i wefru, lle bo hynny'n berthnasol.

Caiff. Caniateir mynd â meddyginiaeth ar gludiant i’r ysgol. Sicrhewch fod y feddyginiaeth mewn cynhwysydd diogel ym mag ysgol eich plentyn, lle nad yw plant eraill yn gallu mynd ato. Rhaid rhoi gwybod i'r gyrrwr neu'r hebryngwr fod meddyginiaeth yn cael ei chludo.

Ni all y gyrrwr na’r hebryngwr weinyddu meddyginiaeth o dan unrhyw amgylchiadau. Mewn argyfwng, byddant yn stopio, ac yn ffonio 999 am gymorth.

Cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol/coleg

Mae gan ddysgwyr hawl i gael cludiant am ddim ar yr amod:

  • eu bod yn astudio cwrs amser llawn am y tro cyntaf mewn coleg addysg bellach yn y flwyddyn academaidd pan fyddant yn 16, 17 neu 18 oed ar 1af Medi
  • eu bod yn byw y tu hwnt i'r maen prawf tair milltir
  • eu bod yn mynychu'r coleg agosaf i'w cartref sy'n darparu'r cwrs y maent yn ei ddewis

Am fwy o wybodaeth darllenwch y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol neu'r Coleg.

Bydd p’un ai a yw eich plentyn yn gymwys i gael tocyn am ddim yn cael ei asesu yn ystod y cyfnod cofrestru yng ngholegau Pen-y-bont ar Ogwr neu Bencoed.

Ar gyfer colegau y tu allan i’r sir, anfonwch e-bost i schooltransport@bridgend.gov.uk yn nodi’r cyrsiau, y coleg rydych yn dymuno ei fynychu, eich enw, manylion cyswllt a dyddiad geni.

Ymddygiad disgyblion

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Côd Ymddygiad wrth Deithio. Mae'n annog teithio diogel i'r ysgol, ac yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan ddisgyblion.

Os na fydd disgyblion yn dilyn y côd, gall ysgolion, colegau a'r awdurdod lleol gymryd camau yn eu herbyn er eu diogelwch eu hunain ac eraill. Gallai hyn olygu dileu eu hawl i gludiant i’r ysgol am gyfnod a hyd yn oed eu gwahardd o'r ysgol.

Os bydd disgybl yn cael ei wahardd oddi ar gludiant i'r ysgol, bydd rhieni neu ofalwyr y disgybl yn cael gwybod yn ysgrifenedig am ba hyd, yn ogystal â’r rheswm. Bydd angen i rieni a gofalwyr wneud trefniadau eraill ar gyfer y cyfnod fel bod y disgybl yn parhau i fynychu'r ysgol.

Gall difrod i gerbyd y cwmni gweithredu olygu bod y cwmni'n adennill cost y gwaith trwsio gan rieni neu ofalwyr y plentyn.

Cynllun Dim Tocyn, Dim Teithio

Mae’r cynllun ‘Dim Tocyn, Dim Teithio’ wedi cael ei ohirio hyd nes ceir rhybudd pellach er mwyn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gludiant ysgolion yn ystod pandemig Covid-19.

Mae’r cynllun ‘Dim Tocyn, Dim Teithio’ wedi cael ei ohirio hyd nes ceir rhybudd pellach er mwyn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gludiant ysgolion yn ystod pandemig Covid-19. 

Fodd bynnag, dim ond disgyblion cymwys i deithio ddylai wneud hynny.  Gall unrhyw ddisgybl sy'n ceisio mynd ar gerbyd cludiant i'r ysgol wynebu camau disgyblu oni bai ei fod yn gymwys i wneud hynny.

Mae’r cynllun ‘Dim Tocyn, Dim Teithio’ wedi cael ei ohirio hyd nes ceir rhybudd pellach er mwyn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gludiant ysgolion yn ystod pandemig Covid-19.

Mae’r cynllun ‘Dim Tocyn, Dim Teithio’ wedi cael ei ohirio hyd nes ceir rhybudd pellach er mwyn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gludiant ysgolion yn ystod pandemig Covid-19.

Os bydd y tocyn bws hwn yn cael ei golli, ei ladrata neu ei ddifrodi bydd angen i chi gysylltu â derbynfa'r ysgol, a fydd yn rhoi cyngor pellach i chi ar beth i'w wneud. Efallai y codir tâl am docyn bws newydd, felly mae'n bwysig iawn bod y tocyn yn cael ei gadw'n ddiogel.

Efallai y codir tâl am docyn bws newydd, felly mae'n bwysig iawn bod y tocyn yn cael ei gadw'n ddiogel.

Bydd staff yr awdurdod lleol yn cynnal archwiliadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

Cwyno neu wneud ymholiad

I gwyno am elfen o gludiant i'r ysgol, neu i ofyn am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni isod:

Cyswllt

Tîm Cludiant i’r Ysgol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y