Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prydau ysgol

Menter prydau ysgol am ddim yn cael ei ehangu i ddisgyblion blwyddyn 3 mewn ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

O fis Medi 2023, bydd oddeutu 1600 o ddisgyblion ysgol gynradd sy'n dechrau ym Mlwyddyn 3 yn cael cynnig prydau ysgol am ddim.

Mae'r cynnig, sy'n cyd-fynd â dechrau'r flwyddyn ysgol academaidd newydd, yn dilyn y cyflwyno prydau ysgol am ddim blaenorol i ddisgyblion Derbyn ym mid Medi 2022, a disgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ym mis Ebrill eleni.

Mae dros 4600 o ddisgyblion y fwrdeistref sirol bellach yn gymwys i gael prydau ysgol gynradd am ddim cynhwysol, a gobeithir y bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i ddisgyblion ysgol Meithrin ym mis Ionawr 2024, disgyblion Blwyddyn 4 yn Ebrill 2024, a disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 ym mis Medi 2024.

Mae'r cynllun yn rhan o fenter Prydau Ysgol Gynradd am Ddim Cynhwysol Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2022 i gynorthwyo teuluoedd i leihau baich yr argyfwng costau byw.

Bydd disgyblion Blwyddyn 3 yn elwa’n awtomatig o'r ddarpariaeth, felly atgoffir nad oes angen i rieni a gofalwyr gwblhau proses ymgeisio.

Bwydlen Ysgol Gynradd – Tymor yr Haf

Calendr Bwydlen

Am £2.50 y diwrnod yn unig, mae disgyblion cynradd yn derbyn prif bryd, pwdin a diod oer.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion cynradd, caiff disgyblion ddewis rhwng dau bryd poeth a blasus, yn ogystal â dewisiadau salad. Mae disgyblion meithrin yn cael un dewis yn unig, a ddangosir ar y fwydlen i ysgolion cynradd gan seren.

Mae’r bwydlenni’n cylchdroi bob tair wythnos. Mae hyn yn sicrhau amrywiaeth sy’n canolbwyntio ar ffrwythau, llysiau a saladau ffres. Oherwydd ein hymrwymiad i fwyta’n iach, Mae ein cynhwysion yn cynnwys llai o fraster dirlawn, siwgr a halen. Mae’r holl fwydydd wedi’u pobi neu wedi’u stemio, heblaw am sglodion a weinir unwaith yr wythnos yn unig. Mae ffrwythau ffres, bara cyflawn, iogwrt, caws a bisgedi hufen iâ, llaeth hanner-sgim a dŵr hefyd ar gael bob dydd.

 

Ar lefel uwchradd bydd disgyblion yn prynu bwyd mewn caffeterias. Adwaenir y caffeterias fel ‘Trackers’ ac maent yn cynnig gwerth gwych am arian. Mae tair ardal bwyd neu ‘draciau’ i ddewis ohonynt:

  1. Y bar salad. Mae’r ardal hon yn gweini bwyd ffres, iachus megis salad, pasta, brechdanau, baguettes poeth neu oer, tortillas, tatws pob, ffrwythau ffres ac iogwrt, a gaiff eu paratoi bob dydd
  2. Prydau ysgafn. Mae gan yr adran hon fwyd cyflym, poeth a maethlon. Ceir baguettes poeth ac oer wedi’u llenwi, paninis, rholiau, pitsa, bagels, tatws pob, ffrwythau ffres ac iogwrt. Mae’n berffaith i fyfyrwyr sy'n mynychu gwersi neu glybiau amser cinio
  3. Prif brydau Bydd y fwydlen yn newid bob tair wythnos, ac mae’n cynnwys dewis llysieuol. Ceir diwrnodau rhost traddodiadol gyda phwdinau Swydd Efrog mewn grefi moethus, yn ogystal â seigiau rhyngwladol megis tikka cyw iâr. Caiff y prif bryd ei weini gyda phasta, reis neu ddewis o datws a llysiau tymhorol. Bydd sglodion ar gael ar ddydd Gwener yn unig.

Byrbrydau sydd ar gael:

Barrau Deffro yn y bore Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd ‘far deffro yn y bore’ Mae’r rhain yn gweini bwydydd megis tost, rholiau poeth wedi'u llenwi a phowlenni o rawnfwyd cyn bod y gwersi'n dechrau.

Egwyl ganol bore. Mae ffreuturau ysgolion cyfun yn gweini bwydydd a diodydd poeth ac oer yn ysgol amser egwyl. Mae’n gyfle delfrydol i gael byrbryd, oherwydd gall cinio fod mor hwyr â 1.30pm.

Peiriannau gwerthu Gallwch ddod o hyd i’r rhain ar y rhan fwyaf o safleoedd yn ystod yr ysgol ac ar ôl hynny. Maen nhw’n llawn bwydydd iachus a maethlon megis potiau pasta, brechdanau a diodydd.

Cynhelir diwrnodau arbennig â thema drwy gydol y flwyddyn. Mae’r diwrnodau hyn yn boblogaidd gyda phlant sy’n mwynhau rhoi cynnig ar seigiau gwahanol o ledled y byd, a bydd y fwydlen thema yn cymryd lle’r fwydlen arferol am y dydd.

Ysgol Gynradd Cinio Nadolig 2023

Ysgol Uwchradd Cinio Nadolig 2023

Gwiriwch ddyddiad cinio Nadolig gyda phob ysgol unigol

Sylwer y gall ein bwydlenni/bwyd gynnwys alergenau.

Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn lawrlwytho gwybodaeth am alergenau ar gyfer ein bwydlenni ysgolion cynradd:

Ysgolion Cynradd Newydd 2023-24 Wythnos 1 (.PDF, 1MB)

Ysgolion Cynradd Newydd 2023-24 Wythnos 2 (.PDF, 1MB)

Ysgolion Cynradd Newydd 2023-24 Wythnos 3 (.PDF, 1MB)

Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn lawrlwytho gwybodaeth am alergenau ar gyfer ein bwydlenni ysgolion cyfun:

Alergenau, bwydlen Nadolig ysgolion cyfun 2019

Alergenau, prif brydau bwyd ysgolion cyfun wythnos 1

Alergenau, prif brydau bwyd ysgolion cyfun wythnos 2

Alergenau, prif brydau bwyd ysgolion cyfun wythnos 3

Alergenau, brechdanau/baguettes/tortillas ysgolion cyfun

Alergenau, bar brecwast ysgolion cyfun

Alergenau, egwyl ganol bore ysgolion cyfun

Alergenau, bar brecwast ysgolion cyfun

Alergenau, pasta king ysgolion cyfun

Alergenau, hyrwyddiadau ysgolion cyfun

Alergenau, diodydd ysgolion cynradd

Alergeddau, Bwydlen Dydd Gŵyl Dewi 2022 (PDF. 923KB)

 

Bwydlenni arbennig ar gyfer plant sydd ag alergedd/ anofeddedd bwyd

Gellir creu cynllun bwydlen yn benodol ar gyfer eich plentyn. Bydd angen gwybodaeth feddygol/ddietegol, a bydd ein tîm rheoli sydd wedi’i hyfforddi ar faeth yn gweithio gyda chi i baratoi bwydlen addas. Byddwn yn rhoi gwybod i ysgol a thîm arlwyo eich plentyn a dywedir wrthynt am yr alergedd/anoddefedd ac yn derbyn y fwydlen yn ddyddiol.

Enghreifftiau o’n bwydlenni ar gyfer dietau arbennig:

Bwydlen heb gynnyrch llaeth

Bwydlen heb wyau

Bwydlen heb glwten

Bwydlen heb gnau

Bwydlen gyda chyfrif carbohydrad diabetig

 

I drafod anghenion eich plentyn, cysylltwch â Gwasanaethau Arlwyo ar 01656 815963, neu e-bostio catering@bridgend.gov.uk

Mae ‘Arlwyo heb arian parod’ yn rhoi dull amgen i rieni a gofalwr i dalu am brydau ysgol. Mae'n golygu nad oes rhaid i ddisgyblion fynd ag arian parod i’r ysgol. Yn lle hynny, mae’n bosibl talu trwy ein gwefan naill ai trwy’r adran ‘Talwch’ neu isod.

Ysgolion cynradd

Mae pob ysgol gynradd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont Ar Ogwr yn cymryd rhan, heblaw am:

  • Ysgol Gynradd Pen-y-bont

Ysgolion uwchradd

Mae bob ysgol uwchradd yn cynnig rhaglen Arlwyo Di-arian ac eithrio:

  • Ysgol Gyfun Cynffig
  • Ysgol Gyfun Porthcawl
  • Ysgol Pencoed

Er bod gan Ysgol Gyfun Maesteg raglen Arlwyo Di-arian, nid yw’n cael ei rhedeg trwy ein system ni.

Mae ysgolion yn cofrestru cymhwysedd disgyblion i brydau ysgol am ddim ar y system. Mae hyn yn galluogi plant i dderbyn cinio ysgol am ddim yn ddienw. Er mwyn ymgymryd â’r cynllun:

  1. Gwiriwch a yw eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  2. Cysylltwch ag ysgol eich plentyn yn uniongyrchol i drefnu arlwyo heb arian parod.
  3. Wedyn talwch am brydau ysgol drwy ein gwefan.

Cewch chi dalu am brydau ysgol yma.

Mae’r cynllun hwn yn darparu brecwastau iachus am ddim bob diwrnod ysgol. Mae clybiau brecwast yn cael eu cynnal mewn ysgolion cynradd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont.

Maent yn gweini grawnfwyd, tost, darnau o ffrwythau a dewis o laeth neu sudd ffrwythau.

Cysylltwch ach ysgol leol i gael gwybod rhagor.

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr, rhoddir llaeth ysgol am ddim i:

  • plant o dan bump oed mewn ysgolion y wladwriaeth, cyhyd â bod y plentyn yn yr ysgol am o leiaf dwy awr y dydd
  • plant hŷn mewn ysgolion y wladwriaeth hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 1, sef saith oed fel arfer

Llaeth wedi’i gymorthdalu

Cynigir llaeth wedi’i gymorthdalu i blant saith i unarddeg oed mewn nifer fach o ysgolion. Cysylltwch ach ysgol i gael rhagor o wybodaeth.

Gellir cynnig llaeth geifr, defaid a llaeth gyda llai o lactos yn ôl disgresiwn ysgol, ond ni ddarperir dewisiadau nad ydynt yn gynnyrch llaeth. Mae’r cynllun yn ddewisol ar gyfer ysgolion ac mae’n bosibl y bydd rhai ohonynt yn cynnig llaeth am ddim i’w disgyblion iau, ond nid i’r rhai hŷn.

Mae llawer o fuddion i blant yn cael cinio ysgol:

  1. Mae’r prydau'n ffres, yn iachus ac yn faethol gytbwys. Yn wir, mae'r holl fwyd yn bodloni Rheoliadau Llywodraeth Cymru ar Fwyta’n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Rheoliadau Maethol) (Cymru).
  2. Mae ein bwydlenni’n llawn ffrwythau a llysiau. Mae’r Llywodraeth yn argymell ein bod i gyd yn bwyta o leiaf pum darn o ffrwythau neu lysiau bob dydd, ac felly gall pryd ysgol helpu i gael eich plant yn iach.
  3. Cyfleustra. Nid oes angen paratoi cinio pecyn.
  4. Hybu grym ymennydd plant. Mae astudiaethau wedi dangos bod plant yn fwy parod i dderbyn eu haddysg yn y dosbarth os byddant wedi cael pryd o fwyd sylweddol amser cinio.
  5. Gall plant ddysgu sut i wneud dewisiadau iachus o ran prydau bwyd.
  6. Mae caffeterias yn galluogi plant i ymlacio mewn amgylchedd diogel dan oruchwyliaeth gyda ffrindiau.

Mae bwydlenni ysgolion cynradd yn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion, safonau bwyd, diodydd a maetholion Llywodraeth Cymru. Hefyd, mae arlwyo ysgol yn meddu ar enw rhagorol am lanweithdra a hylendid. Rydym yn bodloni’r holl reoliadau iechyd, diogelwch a hylendid. Mae gweithdrefnau prynu yn dod o hyd i gynhwysion diogel ac yn sicrhau dulliau dosbarthu a storio priodol er mwyn cynnal a chadw’r lefelau uchaf o ran diogelwch bwyd.

Rydym:

  • wedi addasu ein ryseitiau er mwyn lleihau’r cynnwys siwgr, halen a braster, yn ogystal â chynyddu ffibr.
  • yn osgoi ychwanegion a lliwiau artiffisial, ac nid ydym yn ymwybodol o ddefnyddio bwyd sy’n cynnwys cynhwysion a'u genynnau wedi'u haddasu (GM)
  • yn gweld eich plentyn fel cwsmer gwerthfawr, ac yn gweini’r holl blant mewn ffordd gyfeillgar a chefnogol

Gallech weithio i Wasanaethau Arlwyo Pen-y-bont Ar Ogwr. Rydym yn cynnig cyfraddau cyflog ardderchog ac mae oriau gweithio'n dechrau o un awr y dydd. Mae buddiannau eraill yn cynnwys llwybrau tuag at gymwysterau a chynllun pensiwn cyfrannol.

Nid oes angen profiad blaenorol. Rydym yn darparu hyfforddiant llawn yn y swydd a chefnogaeth barhaus gan y tîm rheoli. Mae angen i chi fod yn frwdfrydig, yn hoffi gweithio mewn tîm, ac yn mwynhau ymdrin â phlant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.

Y rôl yw paratoi a gweini ein disgyblion ac mae enghreifftiau o gyfrifoldebau’n cynnwys:

  • paratoi a gweini prydau bwyd
  • paratoi’r cownter a'r ystafell fwyta bob dydd
  • glanhau yn y gegin ac yn yr ardaloedd bwyta

Mae’n rhaid i bob darpar gyflogai ymgymryd â sgrinio meddygol cyn cyflogi, a gwiriadau tystlythyr a'r swyddfa droseddau.

Chwiliwch yn ein tudalennau swyddi am swyddi gwag.

Os oes gennych chi gwestiwn am arian sydd wedi’i dalu eisoes, holwch yr ysgol yn uniogyrchol gan ddefnyddio manylion cyswllt yr ysgol.

Swyddi gwag yn y gwasanaethau arlwyo

Mae ein gwasanaethau arlwyo yn ehangu, ac rydym yn recriwtio staff arlwyo i gefnogi wrth i ni barhau i gyflwyno’r fenter Prydau Ysgol Gynradd Am Ddim i ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol #Pen-y-bont ar Ogwr.

  • Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol - £11.79 yr awr
  • Cogydd Cynorthwyol - £12.59 yr awr
  • Cogyddion - Rhwng £13.69 - £14.17 yr awr

O 1 Hydref 2021 daeth deddfwriaeth newydd a elwir yn Gyfraith Natasha i rym.  Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd a fyddai'n darparu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw ar gyfer ei werthu’n uniongyrchol (PPDS) gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, prifysgolion a meithrinfeydd sy'n darparu bwyd.

Ar gyfer bwyd a ddarperir mewn lleoliad ysgol, golygai hyn newidiadau i labelu brechdanau a bagéts yn unig, gan fod y rhain yn cael eu gwneud a'u pecynnu ymlaen llaw ar y safle cyn i'r cwsmer eu harchebu.  Rhaid pwysleisio cynhwysion alergenaidd ar y rhestr labelu.

Nid yw PPDS yn cynnwys bwyd na chaiff ei roi mewn deunydd pecynnu.  Nid yw bwyd a roddir mewn deunydd pecynnu neu ei roi ar blât ar gais y pobl fydd yn ei fwyta yn PPDS.

Nid yw pecynnau bwyd sy'n cael eu gwneud ar safle'r ysgol ac sy'n cael eu pecynnu ar gais, cyn digwyddiad fel trip ysgol, yn PPDS.

Mae pecynnau bwyd yn cynnwys nifer o eitemau ac mae angen i gwsmeriaid allu cael gafael ar wybodaeth am alergenau ar gyfer pob eitem ar y wefan hon neu gael gafael ar yr wybodaeth am alergenau drwy'r ysgol.

Chwilio A i Y