Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Grant Hanfodion Ysgol

Os ydych chi'n riant neu'n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn grant i'ch helpu chi i dalu am eitemau hanfodol ar eu cyfer.

Enw swyddogol y grant yw Grant Hanfodion Ysgol.

Mae'r grant hefyd yn cael ei adnabod fel grant datblygu disgyblion, Grant Mynediad Datblygu Disgyblion (GDD) neu'r grant gwisg ysgol.

Faint sydd ar gael

Bydd y grant arferol ar gael ar gyfer 2023 i 2024, sef:

  • £200 ar gyfer disgyblion blwyddyn 7, a
  • £125 ar gyfer pob disgybl arall.

Sut y gallwch chi ei ddefnyddio

Gallwch ddefnyddio'r grant i dalu am:

  • gwisg ysgol ac esgidiau,
  • dillad ac offer chwaraeon,
  • gweithgareddau ysgol, yn cynnwys gwersi cerdd, tripiau ysgol a chlybiau ar ôl ysgol,
  • offer i'r ystafell ddosbarth yn cynnwys beiros, pensiliau a bag ysgol,
  • gliniadur neu dabled sydd ddim ar gael i'w llogi gan yr ysgol.

Meini prawf

Rydych yn gymwys os yw eich plentyn yn cael prydau ysgol am ddim.

Gallech fod yn gymwys os ydych yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal incwm
  • Lwfans ceisio gwaith (ar sail incwm)
  • Lwfans cymorth a chyflogaeth (ar sail incwm)
  • Credyd Treth Plentyn (gydag incwm trethadwy blynyddol ddim mwy na £16,190)
  • Credyd Pensiwn (Gwarant)
  • Credyd Cynhwysol ar yr amod bod gan yr aelwyd incwm a enillir net blynyddol o ddim mwy na £7,400
  • Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999

Mewn rhai achosion, efallai bydd rhaid i chi dderbyn un o'r budd-daliadau hyn, hyd yn oed os yw eich plentyn yn cael prydau ysgol am ddim.

Os nad ydych yn gymwys, gallwch weld pa help sydd ar gael yma.

Gwneud cais

I wneud cais, byddwch angen:

  • manylion cyswllt
  • ysgol eich plentyn,
  • rhif yswiriant gwladol,
  • manylion banc.

Gallwch wneud cais o fis Gorffennaf 2023 i fis Mehefin 2024.

Ar ôl cyflwyno'r cais

Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich cais, a byddwn yn gadael i chi wybod beth yw'r camau nesaf.

Chwilio A i Y