Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Fforwm cyllidebau ysgolion

Sefydlwyd Fforwm Cyllidebau Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Rhagfyr 2003, yn unol â ‘Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003’.

Mae’r fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr ysgolion a chynrychiolwyr eraill. Mae’r cynrychiolwyr ysgolion yn cynnwys:

  • penaethiaid
  • llywodraethwyr

Mae’r cynrychiolwyr eraill yn cynnwys:

  • swyddogion awdurdodau lleol
  • cynrychiolwyr undebau llafur
  • cynghorwyr

Ni ddylai cyfanswm y cynrychiolwyr heb fod o ysgolion fod yn fwy na 25% o gyfanswm aelodaeth y fforwm.

Mae Fforwm Cyllidebau Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn o leiaf, neu unwaith y tymor. Fel rheol mae’n cyfarfod yn unol â’r amserlen ar gyfer pennu cyllideb y cyngor a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Mae’r fforwm yn ystyried ac yn cyflwyno sylwadau ar ymgynghoriadau perthnasol i’r canlynol:

  • newidiadau arfaethedig i’r fformiwla cyllido ysgolion a’i heffaith ariannol
  • telerau contract arfaethedig ar gyfer cyflenwadau neu wasanaethau i ysgolion
  • trefniadau ar gyfer addysgu disgyblion sydd â datganiadau o anghenion addysgol arbennig
  • trefniadau ar gyfer defnyddio unedau cyfeirio disgyblion ac addysgu plant heb fod yn yr ysgol
  • trefniadau ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar
  • trefniadau ar gyfer yswiriant
  • newidiadau arfaethedig i gyllido cynlluniau ysgolion
  • trefniadau gweinyddol ar gyfer dyrannu grantiau’r llywodraeth ganolog
  • trefniadau ar gyfer prydau ysgol am ddim

Cysylltu

Hannah Castle

Cadeirydd y Fforwm Cyllidebau Ysgolion
Ffôn: 01656 740294
Cyfeiriad: Ysgol Gyfun Cynffig,

Jonathan Lewis

Is-Gadeirydd y Fforwm Cyllidebau Ysgolion
Ffôn: 01656 754990
Cyfeiriad: Ysgol Iau Coety,

Judith Tutssel

Ysgrifennydd y Fforwm Cyllidebau Ysgolion
Ffôn: 01656 642630

Chwilio A i Y