Help gyda Saesneg a mathemateg
Ewch ati i loywi eich Saesneg a'ch mathemateg er mwyn llwyddo ymhellach yn eich gwaith a’ch bywyd. Yn ein canolfan ddysgu gyfeillgar ac anffurfiol yn Swît Ton Pentre, Canolfan Bywyd y Pîl, gallech ddysgu sut i wneud y pethau canlynol:
- gwella eich ysgrifennu, eich sillafu a'ch atalnodi
- cyfrifo canrannau
- darllen mwy o bethau diddorol a defnyddiol
- defnyddio ffracsiynau
Yn wir, gallech ennill cymwysterau Lefel 2, sydd o'r un safon â chymwysterau TGAU. Fe wnawn ni eich helpu i gynllunio'r ffordd orau o ddysgu, a sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnoch.
Cyrsiau LearnDirect mewn mathemateg a Saesneg
Gallwch gael mynediad at gyrsiau LearnDirect am ddim mewn mathemateg sylfaenol, Saesneg neu TG. Mae'r cyrsiau hyblyg hyn yn caniatáu i chi astudio ar gyflymder sy'n addas i'ch ffordd o fyw, ac mae llawer ohonynt yn gadael i chi ddysgu yn unrhyw le sydd â mynediad i'r rhyngrwyd. Darllen mwy am gyrsiau learndirect ‘Mathemateg Lefel 2: Safonol’ a ‘Saesneg Lefel 2: Safonol’. Gallwch gofrestru drwy gysylltu ar adultlearning@bridgend.gov.uk.