Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cofrestru a ffioedd

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer ein cyrsiau. Nid ydym yn cyfyngu ar fynediad yn seiliedig ar gyrhaeddiad addysgol blaenorol, oedran, cyflogaeth, lleoliad nac unrhyw sail arall. Er hynny ar gyfer cyrsiau ar-lein, bydd arnoch angen y canlynol:

  • mynediad i’r rhyngrwyd
  • dyfais i gysylltu â’r tiwtor a’r ystafell ddosbarth
  • cyfeiriad e-bost ar gyfer ei ddefnyddio i dderbyn deunyddiau gan y tiwtor ac i ddychwelyd gwaith ato

Ffioedd

Gweler y cyrsiau unigol i gael manylion ffioedd. Mae cyrsiau yn rhad ac am ddim ar gyfer pobl rhwng 16 ac 18 mlwydd oed.

Band 1 - Mae pobl sy'n gymwys i gael consesiwn band 1 yn talu £5 am bob cwrs yn unig.
Rydych yn perthyn i gonsesiwn band 1 os ydych yn hawlio neu'n ddibynnydd i rywun sy'n hawlio:

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, a alwyd yn Fudd-dal Analluogrwydd yn y gorffennol.
  • Credyd Pensiwn Gwarantedig

Tystiolaeth o hunaniaeth - Mae'n rhaid i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn derbyn y budd-daliadau uchod. Dewch â thystiolaeth gyfredol a diweddar o'ch cymhwysedd pan fyddwch yn cofrestru. Gall tystiolaeth o'r fath gynnwys cyfriflen neu lythyr gwobr diweddar sy'n cynnwys y dyddiad.

Cofrestru ar e-bost

Wrth ymrestru, nodwch yn glir yn eich e-bost y cwrs, y diwrnod a’r amser y mae gennych ddiddordeb ynddo. Dywedwch wrthym os hoffech gael eich cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth a ffurflen gofrestru, cysylltwch ar:

Nodyn pwysig ar gyfer cyrsiau Agored Cymru

Mae Agored Cymru yn achredu rhai o'n cyrsiau. Nid yw arholiadau yn rhan o'r cyrsiau, ond mae asesiad parhaus drwyddi draw, gan gynnwys creu portffolio. Drwy gofrestru ar gwrs Agored Cymru, mae dysgwyr yn cytuno i gwblhau'r gwaith papur cysylltiedig.

Chwilio A i Y