Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llythyr derbyn i ysgol uwchradd

Mae’r llythyr hwn yn cynnwys gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr y disgyblion sydd ym mlwyddyn 6 yr ysgol gynradd ar hyn o bryd.

Os yw eich plentyn i fod i drosglwyddo o ysgol gynradd i Flwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2021, mae’n rhaid i chi gwblhau cais.

Gellwch wneud cais ar-lein. Os ydych eisoes wedi ymuno â Fy Nghyfrif ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd angen i chi fewngofnodi ac wedyn gellwch gwblhau cais am le mewn ysgol uwchradd ar-lein.

Os nad ydych eisoes wedi llofnodi ar gyfer Fy Nghyfrif, gellwch greu eich cyfrif o wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y cyfan sydd arnoch ei angen yw cyfeiriad e-bost.

Mae’n gyflym ac yn hawdd gwneud cais am le ym Mlwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd drwy Fy Nghyfrif a gellwch gael tawelwch meddwl, gan wybod bod eich cais wedi dod i law oherwydd, unwaith y byddwch wedi cyflwyno’r cais, bydd hyn yn cael ei nodi yn y crynodeb o wybodaeth yn Fy Nghyfrif.

Mae’r cais ar-lein yn gweithio yr un mor dda ar gyfrifiadur, tabled neu ddyfeisiadau symudol. Cyn llenwi cais, plîs darllenwch y cyfarwyddyd ar y dudalen derbyniadau i ysgolion ar y we.

Mae’r ffurflen gais ar gael mewn copi caled hefyd os gofynnwch, naill ai gan eich ysgol leol neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ffôn 01656 643643.

Bydd y ffurflen gais ar-lein ar gael drwy Fy Nghyfrif o ddydd Llun, 19 Hydref 2020 am 10am. Nodwch, os gwelwch yn dda, mai’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi eu cwblhau yw dydd Gwener, 22 Ionawr 2021 am 4pm. Gall methu â chyflwyno cais erbyn y dyddiad ac amser hwn arwain at wrthod lle i’ch plentyn yn yr ysgol o’ch dewis chi.

Mae gan bob rhiant/gofalwr yr hawl i fynegi dewis o ran yr ysgol y mae’n dymuno i’w blentyn ei mynychu. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae rhieni/gofalwyr yn hapus i ddewis eu hysgol addas agosaf, a adwaenir hefyd fel ysgol y dalgylch.

Fodd bynnag, os byddwch yn llwyddiannus wrth wneud cais am le mewn ysgol nad yw yn ysgol eich dalgylch, ni fydd y Cyngor fel rheol yn darparu cludiant am ddim, waeth beth fo’r pellter o’r cartref i’r ysgol. Polisi Cludiant cartref i’r ysgol/coleg.

Os bydd ysgol yn derbyn gormod o geisiadau, h.y. os yw’r galw am leoedd yn fwy na’r nifer o leoedd sydd ar gael, bydd y Cyngor yn defnyddio ei feini prawf gormod o alw i ddyrannu’r lleoedd sydd ar gael. Argymhellir yn gryf eich bod yn enwi ysgol arall fel eich ail ddewis o ysgol.

Gall hon fod yn ysgol y dalgylch ar gyfer eich plentyn neu ysgol arall nad yw yn y dalgylch. Nid yw cyfyngu eich dewis i un ysgol yn unig yn gwella eich gobeithion o ennill lle i’ch plentyn yn yr ysgol honno.

Nodwch nad oes hawl awtomatig i ddisgyblion, sydd â brodyr a chwiorydd mewn ysgol, gael lle yn yr ysgol honno. Mae Polisi Derbyn i Ysgolion y Cyngor 2021-2022 yn nodi’r rhestr lawn o feini prawf ar gyfer gormod o alw, a ddefnyddir wrth ddyrannu lleoedd mewn ysgolion.

Corff llywodraethu Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath yw’r awdurdod derbyn sy’n gyfrifol am yr holl drefniadau derbyn ar gyfer yr ysgol honno. Felly, os ydych yn dymuno gwneud cais am le yn yr ysgol honno, bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol.

Mae’r meini prawf derbyn ar gyfer Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath yn wahanol i’r meini prawf ar gyfer yr ysgolion uwchradd eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae copi o lyfryn ‘Dechrau’r Ysgol’ y Cyngor 2021-2022, sy’n amlinellu’r polisi derbyn ac yn rhoi gwybodaeth arall ynglŷn â’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer plant a rhieni/gofalwyr, ar gael o www.bridgend.gov.uk/derbyniadauiysgolion neu, fel arall, ffoniwch 01656 643643, os gwelwch yn dda, i ofyn am gopi caled.

Os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth benodol ynghylch y broses dderbyn, anfonwch e-bost, os gwelwch yn dda, i pupilservices@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y