Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Fforwm Derbyn Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Fforwm Derbyn Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu i sicrhau bod y system derbyn i ysgolion yn deg, syml a hawdd ei deall. Mae’r fforwm yn gyfrifol am fonitro ein cydymffurfiaeth â’r Cod Derbyn i Ysgolion, a gall ddangos ffyrdd i ni o wella ein trefniadau derbyn.

Mae'r Fforwm Pen-y-bont ar Ogwr yn ofynnol dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2002. Nodir rôl fforymau derbyn yn Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003.

Mae aelodau’r fforwm yn cynnwys aelodau o ysgolion (penaethiaid a llywodraethwyr) ac aelodau nad ydynt o ysgolion, fel swyddogion y cyngor, aelodau o awdurdodau crefyddol a chynrychiolwyr o’r gymuned leol. Mae’r rheoliadau’n nodi’r nifer fwyaf o gynrychiolwyr ar gyfer pob grŵp.

Mae’r fforwm yn cwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn, fel sy'n ofynnol dan y rheoliadau.

Chwilio A i Y