Ailgylchu a Gwastraff dros y Pasg
Gwybodaeth ynghylch gwasanaethau ailgylchu a gwastraff yn ystod cyfnod gwyliau’r Pasg, gan gynnwys:
- Casgliadau gwastraff ac ailgylchu
- Canolfannau ailgylchu
- Pethau sy’n bosib eu hailgylchu a phethau nad yw’n bosib eu hailgylchu.
Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd rhai newidiadau i’r casgliadau ailgylchu a gwastraff dros gyfnod gwyliau’r Pasg:
- Bydd casgliadau’n digwydd yn ôl yr arfer ar ddydd Gwener 29 Mawrth 2024 (Dydd Gwener y Groglith).
- Bydd casgliadau'r wythnos yn dechrau dydd Llun 01 Ebrill 2024 yn digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer.
- Bydd y casgliadau’n dychwelyd i’r diwrnodau arferol ar ddydd Llun 8 Ebrill 2024.
Diwrnod Casglu Arferol |
Diwrnod Casglu yn y Gwyliau |
Dydd Llun 01 Ebrill |
Dydd Mawrth 02 Ebrill |
Dydd Mawrth 02 Ebrill |
Dydd Mercher 03 Ebrill |
Dydd Mercher 03 Ebrill |
Dydd Iau 04 Ebrill |
Dydd Iau 04 Ebrill |
Dydd Gwener 05 Ebrill |
Dydd Gwener 05 Ebrill |
Dydd Sadwrn 06 Ebrill |
Gofynnwn yn garedig ichi roi eich gwastraff ac ailgylchu ar ymyl eich eiddo erbyn 7am ar ddiwrnod eich casgliad.
Beth sy’n bosib/ddim yn bosib ei ailgylchu y Pasg hwn
Ddim yn siŵr beth sy’n bosib ei ailgylchu a beth sydd ddim yn bosib ei ailgylchu y Pasg hwn? Dyma ganllaw syml:
Ia, os gwelwch yn dda |
Dim diolch |
Plastig clir wy Pasg |
Papurau melysion neu siocled |
Ffoil wy Pasg |
Cardiau Pasg gyda glitter |
Cardbord, gan gynnwys cardbord wy Pasg |
Papur lapio |
Gwastraff bwyd |
Plastig du |
Cardiau Pasg plaen |
Papur seloffen |
Hambyrddau ffoil glân |
Papur swigod |
Jariau a photeli gwydr |
Rhubanau a chlymau bô |
Poteli plastig |
Polystyren |
Tuniau bwyd a chaniau diod |
|
Canolfannau Ailgylchu
Mae’r canolfannau ailgylchu ar agor yn ôl yr arfer ar ddydd Gwener y Groglith, Dydd Sul y Pasg a’r dydd Llun gŵyl banc.
Oriau agor
Dydd Llun - Dydd Gwener: 8.30am - 7pm
Dydd Sadwrn - Dydd Sul: 8.30am - 5pm
Am fwy o wybodaeth ynghylch canolfannau ailgylchu yn y fwrdeistref sirol, ewch i’n tudalen canolfannau ailgylchu: