Premiymau Treth Gyngor ar Gyfer Eiddo Gwag Hirdymor ac ail Gartrefi.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cyflwyno Premiwm Treth Gyngor ar eiddo gwag hirdymor sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac ar ail gartrefi sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2024. Diffinnir annedd gwag hirdymor fel annedd sy'n wag a heb ei ddodrefnu fawr ddim am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf. Diffinnir ail gartref fel annedd nad yw'n unig gartref neu'n brif gartref person ac sydd wedi’i ddodrefnu'n sylweddol.
O 1 Ebrill 2023, bydd eiddo gwag hirdymor ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn destun tâl treth gyngor o 200% o’r tâl treth gyngor blynyddol am y 2 flynedd gyntaf a bydd y tâl yn cynyddu i 300% o'r tâl blynyddol wedi hynny.
O 1 Ebrill 2024 bydd pob ail gartref yn destun tâl treth gyngor o 200% o’r tâl blynyddol am y 2 flynedd gyntaf a bydd y tâl yn cynyddu i 300% o'r tâl blynyddol wedi hynny.
Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i godi premiwm a bwriad hynny yw bod adnodd ganddynt a fydd yn helpu Cynghorau i:
- sicrhau bod tai gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto er mwyn darparu cartrefi diogel a fforddiadwy
- cefnogi awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol
Mae rhai esemptiadau yn berthnasol ar gyfer eiddo gwag megis:
- pan fo’r preswylydd mewn gofal preswyl neu ysbyty yn yr hirdymor,
- pan fo mae annedd yn cael ei atgyweirio'n strwythurol (am hyd at flwyddyn),
- pan fo’r preswylydd wedi marw (am hyd at chwe mis ar ôl rhoi profiant neu lythyrau gweinyddu)
Oes unrhyw eithriadau i'r premiwm?
Mae rhai eithriadau i'r premiwm a all fod yn berthnasol o 1 Ebrill 2023 ac mae'r rhain wedi'u rhestru isod:
- Dosbarth 1 - anheddau sydd ar y farchnad i'w gwerthu neu lle mae cynnig i brynu'r annedd wedi cael ei dderbyn, gyda therfyn amser o flwyddyn
- Dosbarth 2 - anheddau sydd ar y farchnad i'w gosod neu lle mae cynnig i rentu'r annedd wedi cael ei dderbyn, gyda therfyn amser o flwyddyn
- Dosbarth 3 - anecsau sy'n rhan o'r brif annedd neu sy'n cael eu trin fel rhan o'r brif annedd
- Dosbarth 4 - anheddau a fyddai'n unig neu'n brif breswylfa i rywun pe na bai'n byw mewn llety i'r lluoedd arfog
- Dosbarth 5 – lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod a feddiennir (ail gartrefi yn unig)
- Dosbarth 6 - anheddau lle mae amod cynllunio yn nodi na ellir eu meddiannu drwy gydol y flwyddyn neu'n barhaol, neu'n nodi'n benodol mai dim ond fel llety gwyliau byrdymor y gellir eu defnyddio, neu'n atal person rhag eu defnyddio fel unig neu brif breswylfa (ail gartrefi yn unig)
- Dosbarth 7- anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi (ail gartrefi yn unig)
Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys ar gyfer eithriad a restrir uchod, anfonwch e-bost at premiums@bridgend.gov.uk gyda'r wybodaeth berthnasol.
Os hoffech weithio gyda'r cyngor er mwyn sicrhau y gellir defnyddio eich eiddo unwaith eto yn llawn amser, gallwn o bosib eich helpu. Gallwch ddod o hyd i fanylion yr help yma - https://www.bridgend.gov.uk/cy/preswylwyr/tai/eiddo-gwag/