Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Methu talu treth gyngor

Os byddwch yn methu talu erbyn y dyddiad dyledus, byddwn yn anfon neges atgoffa atoch chi. Rhaid i chi dalu’r swm gorddyledus ar y gweddill o fewn saith diwrnod, neu bydd balans y cyfrif yn dod yn daladwy. Os na chaiff y swm ei dalu yn llawn, byddwn yn cyflwyno gwŷs a chodir costau. Os byddwn yn cyflwyno rhybudd terfynol, bydd rhaid i chi dalu balans y cyfrif yn llawn o fewn saith diwrnod. Os na fyddwch yn talu yn llawn, byddwn yn cyflwyno gwŷs a chodir costau.

Wedyn, os na wneir taliad yn llawn gyda chostau’r wŷs, byddwn yn gwneud cais am Orchymyn Atebolrwydd mewn gwrandawiad yn y llys ynadon. Ni fydd angen i chi fod yn bresennol yn y gwrandawiad. Wedyn, byddwch yn derbyn llythyr yn rhoi gwybod i chi bod Gorchymyn Atebolrwydd wedi’i sicrhau.

Os na fyddwch yn talu’r swm yn llawn neu’n cysylltu â’r swyddfa dreth o fewn y 14 diwrnod canlynol, byddwn yn defnyddio asiantaeth orfodi. Wedyn byddwch yn mynd i gostau pellach am bob Gorchymyn Atebolrwydd gaiff ei anfon, yn unol â’r amserlen isod.

Y tabl o ffioedd gorfodi 
Cam y ffi Ffi sefydlog Canran ffioedd
£0 i £1,500 ˃£1,500
Cam gweinyddu/cydymffurfio (gweithredol pan fydd cwmni gorfodi’n derbyn cyfarwyddyd)   0% 0%
Cam gorfodi (gweithredol pan mae asiantaeth gorfodi’n ymweld am y tro cyntaf)   0% 7.5%
Gwerthu (gweithredol yn ystod yr ymweliad cyntaf at ddiben cludo nwyddau i’w gwerthu)   0% 7.5%

Rheoliadau Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau (Ffioedd) Ionawr 2014 Deddf Tribiwnlysoedd 2007 sydd wedi pennu’r ffioedd uchod. Felly, nid oes modd eu trafod.

Os cewch unrhyw anawsterau gyda gwneud taliadau, cysylltwch â ni ar unwaith i drafod y sefyllfa, gan ddefnyddio’r manylion isod.

Cyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643643. Dewiswch opsiwn tri.
Cyfnewid testun: Rhowch 18001 cyn bob un o’n rhifau ffôn.
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
Llun i Iau: 8:30am i 5pm
Gwener: 8:30am i 4:30pm

Chwilio A i Y