Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gostyngiad Nam Meddyliol Difrifol

Os bydd oedolyn sy'n aelod o'r cartref yn cael diagnosis o nam meddyliol difrifol, yn dibynnu ar nifer yr oedolion yn yr eiddo, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad yn eich treth gyngor.

I fod yn gymwys rhaid darparu'r wybodaeth ganlynol

  • Ffurflen gais wedi'i llenwi ac wedi'i llofnodi gan y meddyg
  • Tystiolaeth o dderbyniad neu hawl i'r budd-daliadau cymwys.

Maint y gostyngiad - Bydd hyn yn dibynnu ar nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo a gallai amrywio o 0% i 100%

Ymgeisiwch ar-lein

Gallwch wneud cais ar-lein. Yn gyntaf, bydd angen i chi fewngofnodi/cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif i gael mynediad at y porth Treth Gyngor. Pan fyddwch i mewn yn y porth cliciwch ar “Gweld gwasanaethau gostyngiadau’r Dreth Gyngor” a “Gwneud cais am ostyngiad os oes gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi nam meddyliol difrifol” i gwblhau’r ffurflen gais.

Chwilio A i Y