Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwestiynau Cyffredin Cymunedau Carbon Isel

Mae Cymunedau Carbon Isel yn fenter a lansiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i rymuso cymunedau lleol i gynhyrchu a rhannu trydan adnewyddadwy ymhlith aelwydydd sy'n cymryd rhan gan helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ar yr un pryd. Bydd y prosiect arddangos hwn yn treialu marchnad ynni yn y gymuned.

Efallai y bydd gan eich cartref baneli solar a batris wedi'u gosod i gynhyrchu a storio trydan, y gellid wedyn ei ryddhau i'r rhwydwaith pan fydd angen trydan.  Gallai eich cartref hefyd storio ynni mewn batri pan nad oes ei angen ar y rhwydwaith (fel canol dydd pan fydd yn heulog iawn neu'n gynnar yn y bore pan fo gweithgarwch yn isel).  Bydd hyn i gyd yn cael ei reoli gan feddalwedd – ni fydd yn rhaid i chi godi bys.  Wrth gwrs, byddwch yn gallu parhau i ddefnyddio trydan yn union fel rydych chi’n ei wneud heddiw. Ar ben hynny, efallai y bydd system SolarVenti wedi'i gosod yn eich cartref i wella’r broses awyru yn y tŷ.

Nac oes, nid oes ffioedd. Mae cymryd rhan am ddim.

Byddwch yn helpu i ddatgarboneiddio De Corneli yn y lle cyntaf ac os bydd yn llwyddiannus, rhannau eraill o Gymru hefyd. Bydd y manteision yn cynnwys

  • gosod offer yn rhad ac am ddim
  • defnyddio canran uwch o ynni adnewyddadwy
  • mwy o reolaeth dros eich cyflenwad trydan eich hun
  • Archwiliad iechyd misol
  • Mynediad at gymorth desg gymorth

Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth yn wahanol gan ein bod am i chi fyw eich bywyd yn ôl yr arfer. Mae eich profiadau a'ch barn yn bwysig a byddwn yn cysylltu â chi i gael adborth.

Tuag wythnos ar gyfer paneli solar a hanner diwrnod ar gyfer SolarVenti. Bydd arolwg cyn-ddethol cychwynnol hefyd ar gyfer systemau SolarVenti sy'n cymryd tua 2 awr.

Byddwn yn defnyddio gosodwyr proffesiynol a fydd yn tarfu cyn lleied â phosibl.

Y consortiwm Cymunedau Carbon Isel, sy'n cynnwys Nuvision Wales, Passiv UK, Challoch Energy, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ni chaiff ei rannu â thrydydd partïon. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol chwaith.

Elfen hanfodol o'r prosiect hwn yw rhoi cyhoeddusrwydd i'r hyn rydym yn ei wneud er mwyn rhannu'r hyn rydym yn ei ddysgu a'r datblygiadau. O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn gofyn am i chi gymryd rhan mewn cyfweliadau, lluniau a fideos. Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol neu luniau ohonoch heb eich caniatâd.

Ydy, dim ond ychydig o'r cartrefi fydd â phaneli solar ar eu toeau tra bydd eraill yn cael eu cysylltu â'r rhwydwaith cyffredinol.

Solar PV / Batris

Y consortiwm Cymunedau Carbon Isel fydd yn berchen ar y technolegau a osodir.

Bydd, bydd hyn yn cael ei ddarparu ar eich cyfer chi.

Os nad yw'r treial yn symud ymlaen i'r cam nesaf, bydd perchnogaeth yr offer yn cael ei throsglwyddo (yn rhad ac am ddim) i berchnogion tai.

Awyru solar

Defnyddio aer o'r amgylchedd naturiol ar gyfer awyru mewn cartref drwy ddefnyddio ynni'r haul.

System batentau ar gyfer echdynnu, cynhesu a sychu aer o'r amgylchedd naturiol i'w ddefnyddio mewn cartref at ddibenion awyru.

Prif elfen y system yw panel sy'n edrych yn debyg iawn i banel Ffotofoltaidd (PV). Mae’r dimensiynau tua 2000 *1000* 60mm o ddyfnder.

Bydd system SolarVenti yn gwella aer y cartref ac yn lleihau biliau ynni.

Ydy, a bydd cyfarwyddiadau llawn ar gyfer gwneud newidiadau i'r paramedrau, fel cyflymder y ffan, yn cael eu darparu a'u dangos i berchennog y cartref.

Na fydd, gan y bydd modd gwneud addasiadau i leihau unrhyw sŵn.

Bydd yr adnodd a roddir ar gyfer monitro yn darparu'r wybodaeth hon a fydd yn cael ei rhoi i berchennog y cartref.

Bydd, ond bydd hyn yn dibynnu ar y system a osodir, y math o eiddo ac ati.

Bydd, a bydd y dehongliad o'r canfyddiadau yn cael ei drafod gyda pherchnogion y cartref. Ni fydd unrhyw ddata'n cael ei roi i'r cyhoedd.

Chwilio A i Y