Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn wasanaeth am ddim sy’n gyfrinachol ac yn ddiduedd ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar wasanaethau gwahanol ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae’n wasanaeth ar gyfer pob rhiant a gofalwr plant, gan gynnwys neiniau a theidiau a gweithwyr proffesiynol.
Gallwn helpu:
- i ddod o hyd i wasanaethau sy’n cynnig cefnogaeth i bobl sy’n dychwelyd i’r gwaith, gwirfoddoli neu ddysgu
- darparu gweithgareddau, lleoedd i ymweld â nhw a gweithgareddau hamdden
- dod o hyd i ofal plant o ansawdd uchel, gan gynnwys meithrinfeydd dydd, clybiau gwyliau a gwarchodwyr plant sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gwybodaeth i Deuluoedd
Gwybodaeth ar ofal plant, gweithgareddau a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Gwybodaeth am Ddarparwyr
Gwybodaeth am ddarparwyr gofal plant presennol a’r rhai sy’n dymuno dod yn ddarparwyr gofal plant.
Digwyddiadau ar y gorwel
Digwyddiadau a gweithgareddau ar y gorwel yn y fwrdeistref sirol:
Yr Athro Tony Attwood - Rhioli Egni a Gorflino Awtistig - Canllaw i Rieni
Dydd Llun, 15 Ebrill 2024, 9:30am - 11:30am
Cafodd Ystyried Lefelau Egni ei greu gan Maja Toudal a’i ddatblygu gan Tony Attwood fel strategaeth newydd y gellir ei defnyddio gan rieni, athrawon, gweithwyr proffesiynol ac oedolion awtistig.
Mae Ystyried Lefelau Egni wedi’i ddylunio i leihau straen a gostyngiad mewn egni a gwella bywyd bob dydd plentyn, person ifanc neu oedolyn awtistig.
Mae’r cyflwyniad yn cynnig cyfarwyddiadau cam wrth gam ar Ystyried Lefelau Egni y gellir eu defnyddio gan rieni gartref, athrawon yn yr ysgol a chyflogwyr yn y gwaith.
Sylwch: Mae’r sesiwn hon ar gyfer rhieni a gofalwyr yn unig.
Ceri Reed, Parents Voices in Wales -
Sut i Eirioli Ar Ran Eich Plentyn
Dydd Iau, 25 Ebrill 2024 10:00 – 12:00am
Bydd y sesiwn hwn yn rhoi cyflwyniad i eiriolaeth a’r ffordd orau o sicrhau fod eich plentyn yn cael y gefnogaeth maent ei angen.
Bydd y sesiwn yn ymdrin â: phwysigrwydd eiriolaeth a sut mae’n ymddangos yn
ymarferol; sut i ddatblygu disgwyliadau a rennir gyda darparwyr gwasanaeth (e.e. ysgol); sut mae hyn yn ymwneud â diwygio ADY a phwysigrwydd mabwysiadu ymagwedd a arweinir gan angen (yn hytrach nag un a arweinir gan label).
Sylwch: Mae’r sesiwn hon ar gyfer rhieni a gofalwyr yn unig.