Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dechrau’n Deg

Rhaglen wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg sy’n targedu plant 0-3 oed a’u teuluoedd, sy’n byw mewn codau post a nodwyd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i blant a rhoi ‘Dechrau Teg’ iddynt erbyn yr adeg y byddant yn dechrau’r ysgol.

Mae’r rhaglen lawn yn cynnwys:​

  • gofal plant rhan amser o’r safon uchaf ar gyfer plant 2-3 oed
  • gwasanaeth ymweliadau iechyd dwys
  • mynediad at gymorth rhianta
  • datblygiad iaith cynnar

Darpariaeth Gofal Plant

Mae gan bob plentyn sy’n byw mewn Ardal Dechrau’n Deg yr hawl i le gofal plant wedi’i ariannu o’r tymor yn dilyn ei ail ben-blwydd hyd at ddiwedd y tymor y bydd yn troi’n dair oed ac yn gymwys i ddechrau’r ysgol.

Mae gan y plant hyn hawl i sesiwn 2.5 awr y diwrnod, 5 diwrnod yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig.

Profwyd bod mynychu lleoliad gofal plant o safon uchel yn rhan amser ac yn rheolaidd yn gwella canlyniadau’n sylweddol i blant. Os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, rydym yn eich annog i dderbyn eich lle gofal plant.

Gwiriwch a ydych yn byw mewn ardal gymwys

Rydym yn ddiweddar wedi ehangu’r ardaloedd sy’n gymwys i dderbyn Gofal Plant Dechrau’n Deg, felly os nad ydych wedi eisoes wedi gwneud hynny, nodwch eich cod post isod er mwyn gwirio a ydych yn gymwys:

Mae gan bob plentyn sy’n byw mewn Ardal Dechrau’n Deg yr hawl i le gofal plant wedi’i ariannu o’r tymor yn dilyn ei ail ben-blwydd hyd at ddiwedd y tymor y bydd yn troi’n dair oed ac yn gymwys i ddechrau’r ysgol.

Ateb. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu ein darpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol er mwyn cynnwys pob plentyn dwy oed. Lansiwyd Cam 1 o'r broses o ehangu'r cynllun Dechrau’n Deg ym mis Medi 2022, ac roedd hyn yn cynnwys pedair elfen y rhaglen Dechrau’n Deg, Ymweliadau Iechyd manylach, cefnogaeth lleferydd, iaith a chyfathrebu, cefnogaeth magu plant, a gofal plant o safon uchel.

Bydd Cam 2, o fis Ebrill 2023, yn canolbwyntio ar gyflwyno elfen gofal plant rhan amser o ansawdd uchel Dechrau’n Deg yn raddol i blant 2-3 blwydd oed. Bydd Cam 3 yn ystyried beth fydd ei angen, o bosib, er mwyn cyflwyno Dechrau’n Deg i bob plentyn ledled Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau hyd yma pa bryd y mae hyn yn debygol o ddechrau.

Mae Gofal Plant Dechrau’n Deg yn cynnig uchafswm o 12.5 awr yr wythnos, yn ystod y tymor ysgol yn unig.

Mae’r sesiynau gofal plant Dechrau’n Deg rhan amser o safon uchel yn canolbwyntio ar wella deilliannau plant a'u cefnogi drwy'r newid i addysg gynnar a thu hwnt. Er mwyn manteisio’n llawn ar hyn, dyliai'r sesiynau fod yn rhai 2½ awr y dydd, hyd at 5 diwrnod yr wythnos.

Er mwyn hawlio cyllid Dechrau’n Deg, mae angen i’ch plentyn fynychu o leiaf tair sesiwn yr wythnos. 

Dim ond lleoliadau Dechrau'n Deg cymeradwy sy’n bodloni’r meini prawf o ran ansawdd all gynnig y gofal plant wedi'i ariannu.

Os ydych yn defnyddio, neu’n dymuno defnyddio, darparwr gofal plant nad oes gennym gontract gyda nhw i ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg, bydd rhaid i chi ddewis a fyddwch yn parhau i ddefnyddio'r darparwr heb gael cyllid gan y rhaglen, neu’n symud at ddarparwr arall sydd â chontract i ddarparu gofal Dechrau’n Deg.

Pum rheswm i gofrestru eich plentyn

Mae arbenigwyr yn gytûn fod plant yn dechrau datblygu sgiliau cymdeithasol pwysig rhwng un a thair blwydd oed.

Mewn lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg, mae plant yn cael cwrdd a chwarae gyda ffrindiau o'r un oed, wrth gael eu cefnogi i ddysgu a thrafod ag eraill, aros eu tro, rhannu, a datrys gwrthdaro.

Pan fydd plentyn yn dechrau symud o gwmpas, gall fod yn waith caled ei ddiddori.

Mae gofal plant Dechrau’n Deg yn cynnig gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio'n dda, sy’n addas i oedran eich plentyn, ac sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau echddygol manwl a bras.

Mae’r defnydd o fannau dan do ac awyr agored yn cynnig cyfleoedd ar gyfer rhedeg, neidio a dringo, yn ogystal â thorri, gludo, paentio a mowldio.

Mae’r rhain yn sgiliau sy’n meithrin cryfder, ac yn gerrig camu pwysig ar daith eich plentyn at fod yn ysgrifennwr medrus pan fydd yn dechrau yn yr ysgol.

Mae 80% o holl ddatblygiad yr ymennydd yn digwydd yn ystod blynyddoedd cyntaf ein bywyd, ac mae cael profiadau amrywiol a chreadigol yn cyfoethogi datblygiad eich plentyn yn sylweddol.

Mae’r cyfle i chwarae gan ddefnyddio adnoddau penagored yn galluogi plant i feddwl yn greadigol, datblygu eu syniadau eu hunan, a datrys problemau - sydd oll yn sgiliau hanfodol o ran eu llwyddiant yn y dyfodol.

Mae rhyngweithio â staff yn ystod chwarae archwiliadol a chreadigol hefyd yn cefnogi datblygiad geirfa a lleferydd

Mae mynychu lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yn helpu eich plentyn i ymdopi â sefyllfaoedd newydd ac addasu i newid. Mae ymchwil yn dangos bod gwahanu oddi wrth riant neu brif ofalwr yn gallu achosi straen i blentyn.

Mewn lleoliad gofal plant, mae plant yn cael cyfle i gael blas ar fod ar wahân i'w rhieni dros amser, a hynny gyda chefnogaeth sy'n cynnig cymhareb oedolion i blant mwy ffafriol na'r hyn sy'n bosib mewn amgylchedd ysgol.

Bydd y datblygiad emosiynol hwn yn helpu eich plentyn i ymdopi’n well pan fydd yn symud ymlaen i'r ysgol gynradd.

Mae’r arferion a’r gweithgareddau a gynigir gan ofal plant Dechrau’n Deg wedi’u cynllunio'n benodol i annog annibyniaeth a helpu i feithrin hyder a hunan-barch

Mae treulio amser mewn lleoliad gofal plant yn cryfhau’r berthynas rhyngoch chi a’ch plentyn, gan ei fod yn creu profiad cyffredin.

Cewch fwynhau gwylio eich plentyn yn datblygu ac yn magu hyder wrth iddynt ddod yn fwy cyfarwydd â'r amgylchedd Dechrau’n Deg, a bydd cyfleoedd i chi gymryd rhan yn eu taith ddysgu.

Mae ein lleoliadau gofal plant hefyd yn lleoedd gwych i chi gwrdd â rhieni eraill. Mae deall nad ydych ar eich pen eich hun, a chael rhwydwaith o bobl i siarad â nhw, gofyn eu cyngor a gwneud ffrindiau â nhw yn gallu bod o gymorth mawr.

Ymweliadau Iechyd Dwys

Bydd tîm Iechyd Dechrau’n Deg yn gallu cynnig cymorth ychwanegol i chi a’ch babi drwy gydol beichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar. Gall hyn fod drwy’ch Bydwraig, Ymwelydd Iechyd neu’ch Cynghorydd Blynyddoedd Cynnar Dechrau’n Deg.

Bydd ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg yn gweithio’n agosach gyda theuluoedd Dechrau’n Deg i hyrwyddo iechyd a llesiant a chynnig cyngor a chefnogaeth.

Os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, gall y tîm ymweliadau iechyd gynnig cymorth a chefnogaeth gydag amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys:

  • Gofalu am eich babi newydd
  • Cyngor ar fwydo ar y fron
  • Diddyfniad a bwyta’n iach ar eich cyfer chi a’ch babi
  • Arferion cysgu
  • Hyfforddiant poti
  • Ymddygiad
  • Diogelwch cartref er mwyn sicrhau bod eich cartref yn ddiogel ar gyfer eich babi a’ch plentyn bach
  • Grwpiau babanod megis Tylino Babi a Hello Baby
  • Imiwneiddiadau a sgrinio iechyd

Cyngor Bwydo ar y Fron | Gwefan Pob Plentyn Cymru | Lullaby Trust

Cymorth Rhianta

Mae bod yn rhiant yn gallu dod â chymaint o bleser, ond gall hefyd fod yn heriol iawn.

Mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn elwa o dîm o Weithwyr Rhianta a Chefnogi Teuluoedd, sy’n rhan o’r Tîm Cymorth Cynnar ehangach.

Maent yn gweithio’n benodol mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac yn darparu cymorth a chyngor uniongyrchol i blant a’u teuluoedd. 

Maent yn cyflwyno rhaglenni rhianta ar sail tystiolaeth mewn grwpiau ac ar sail 1 i 1.  Gall y tîm helpu gyda sgiliau rhianta cadarnhaol, datblygu perthnasoedd a gwytnwch, llesiant teulu a chefnogi datblygiad plentyn.

Llywodraeth Cymru - Rhowch amser iddo

Datblygiad Iaith Cynnar

Bydd lleferydd, iaith a chyfathrebu yn helpu’ch plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd.  Bydd y tîm Lleferydd ac Iaith yn gweithio gyda’r tîm Dechrau’n Deg ehangach i’ch cefnogi chi a’ch plentyn.  Gallwn gynnig y canlynol i chi a’ch teulu:

  • cefnogaeth ar gyfer eich plentyn o fewn eu lleoliadau gofal plant drwy raglenni ymyrraeth
  • cymorth ar eich cyfer chi a’ch teulu i gefnogi’ch plentyn gartref gyda chyfathrebu
  • atgyfeirio a chefnogi plant gydag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu i wasanaethau ymyrraeth eraill.

Yn ogystal â hyn, mae tîm Iaith a Chwarae Dechrau’n Deg ar gael a all ddarparu sesiynau rhyngweithiol i deuluoedd.  Gwahoddir rhieni/gofalwyr a phlant ifanc i’r sesiynau aros a chwarae.  Mae’r sesiynau hyn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer chwarae mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.

Caiff y sesiynau eu cyflwyno gan staff cymwys a phrofiadol mewn lleoliadau Dechrau’n Deg neu’n gyfagos, ledled Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ein staff yn gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni i annog a chefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar drwy weithgareddau difyr, addas i oedran.​

Siarad Gyda Fi | Oedrannau a Chyfnodau MI FEDRAF | Chwarae a Dysgu y GIG | Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg | Tiny Happy People

Ehangu Rhaglen Gofal Plant yn unig Dechrau’n Deg

Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai darpariaeth raddol gofal plant a ariennir ar gael i bob plentyn dyflwydd oed yng Nghymru.  Ym mis Mawrth 2022, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r ddarpariaeth gofal plant hon a ariennir yn cael ei chyflwyno drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg. 

Mae’r rhaglen wedi ehangu’n llwyddiannus i ardaloedd a nodwyd fel rhan o gam un a cham dau y rhaglen ehangu. 

I fod yn gymwys am gyllid, rhaid i’ch plentyn fyw mewn cod post Dechrau’n Deg. Dylai hwn fod yn brif gyfeiriad cartref y plentyn, y cyfeiriad y telir ei Fudd-dal Plant iddo a’r cyfeiriad sydd wedi’i gofrestru gydag Ymwelydd Iechyd y plentyn.  

Sylwer mai ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant yn unig mae’r hawl yn yr ardaloedd ehangu Dechrau’n Deg. 

Cyswllt

Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol, gallwch gysylltu â ni drwy:

Chwilio A i Y