Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rheolau cyflogaeth plant

Mae cyflogi unrhyw blentyn dan 13 oed yn anghyfreithlon, a bydd terfynau’n berthnasol nes eu bod yn cyrraedd oed gadael yr ysgol. Os bydd plentyn yn 16 oed erbyn diwedd gwyliau’r haf, eu hoedran gadael ysgol yw’r dydd Gwener olaf ym mis Mehefin.

Is-ddeddfau cyflogaeth plant

Rhaid i bob plentyn oed ysgol sy’n gweithio'n rhan-amser i gyflogwr fod wedi cofrestru â'r awdurdod lleol a bod â thrwydded weithio. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol os yw'r plentyn yn gyflogedig neu'n gwirfoddoli, ac mae'n cynnwys trefniadau lle nad oes taliad na thaliad mewn da'n cael ei roi, gan fod y plentyn hwnnw'n dal i fod mewn cyflogaeth. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw ymgeisio am drwydded waith er mwyn cyflogi’r plentyn hwnnw.

Rhaid i’r cyflogwr gyflawni asesiad risg person ifanc. Dylai drafod unrhyw beryglon, a bydd rhaid i gyflogwyr fod ag yswiriant priodol.

O fewn saith diwrnod o’r plentyn yn dechrau gweithio, rhaid i’r cyflogwr lenwi ffurflen gais cyflogaeth plentyn. Rhaid iddo gael ei lofnodi gan y cyflogwr, rhiant/gwarcheidwad y plentyn a’r pennaeth. Mae’r cais hwn yn nodi’r oriau, y gweithle a’r math o waith, ynghyd â manylion y plentyn.

Mae cyflogwyr yn gyfrifol am fod yn hollol ymwybodol am ddeddfwriaeth cyflogaeth plant, a dros sicrhau eu bod nhw'n cyflogi unrhyw blant mewn modd cyfreithlon.

 

Yr is-ddeddfau cyflogaeth plant

Ni fydd plentyn o unrhyw oedran yn cael ei gyflogi:

(a) mewn sinema, theatr, disco, neuadd ddawnsio neu glwb nos, oni bai bod hynny'n digwydd mewn perthynas â pherfformiad sy'n cael ei gynnal gan blant yn unig;

(b) gwerthu neu gludo alcohol, oni bai ei fod mewn cynwysyddion â chaead;

(c) cludo llefrith;

(d) cludo tanwyddau;

(e) mewn cegin fasnachol;

(f) casglu neu sortio gwastraff;

(g) mewn unrhyw waith sy’n uwch na thair metr uwchben y llawr gwaelod neu, yn achos gwaith mewnol, yn uwch na thair metr uwchben lefel y llawr;

(h) mewn gwaith sy’n ymwneud â bod yn agored i asiantau ffisegol, biolegol neu gemegol;

(i) casglu arian neu werthu neu ganfasio o ddrws i ddrws, oni bai am o dan oruchwyliaeth oedolyn;

(j) mewn gwaith sy’n ymwneud â bod yn agored i ddeunydd oedolion neu mewn sefyllfaoedd fyddai’n anaddas i blant oherwydd hyn;

(k) mewn gwaith sy’n ymwneud â gwerthu dros y ffôn;

(l) mewn unrhyw ladd-dy neu yn y rhan honno o siop cigydd neu unrhyw eiddo sy'n ymwneud â lladd byw da, bwtsiera, neu baratoi celanedd neu gig i'w werthu;

(m) fel gweithiwr neu gynorthwy-ydd mewn ffair neu arcêd adloniant neu mewn unrhyw eiddo arall a ddefnyddir at ddibenion adloniant yn cyhoedd drwy beiriannau awtomataidd, gemau lwc neu sgil neu ddyfeisiau tebyg;

(n) mewn gwaith sy’n cynnwys gofal personol am breswylwyr mewn unrhyw gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio oni bai bod hynny o dan oruchwyliaeth oedolyn cyfrifol.

Cyflogi plant 14 oed neu hŷn a ganiateir

Gall plentyn 14 oed neu hŷn gael ei gyflogi mewn gwaith ysgafn yn unig.

Cyflogi plant 13 oed a ganiateir

Ni ddylid cyflogi plentyn 13 oed oni bai bod hynny mewn gwaith ysgafn neu mewn un neu fwy o’r categorïau penodol canlynol:

(a) gwaith amaethyddol neu arddwriaethol;

(b) cludo papurau newydd, cylchgronau a deunydd print arall, a chasglu taliad am yr un peth, yn amodol ar ddarpariaethau'r is-ddeddfau;

(c) gwaith siop, gan gynnwys llenwi silffoedd;

(d) siopau torri gwallt;

(e) gwaith swyddfa;

(f) golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl preifat;

(g) mewn caffi neu fwyty;

(h) mewn stablau marchogaeth;

(i) gwaith domestig mewn gwestai a sefydliadau eraill sy’n cynnig llety.

Gwneud cais am drwyddedau cyflogaeth plant

Mae trwyddedau cyflogaeth yn benodol i’r plentyn, y cyflogwr, y gweithle, ynghyd â’r math ac oriau’r gwaith.  Os oes gan berson ifanc sawl swydd, bydd angen trwydded ar gyfer pob un.

I wneud cais am drwydded cyflogaeth plant, lawrlwythwch y ffurflen gais trwydded cyflogaeth plant. Yna, dylid ei dychwelyd ynghyd â llun maint pasbort o'r plentyn wedi'i lofnodi. 

I gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am y Rhwydwaith Cenedlaethol Cyflogaeth ac Adloniant Plant.

Chwilio A i Y