Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Transitional Carer transcript

Rydym yn chwilio am ofalwyr pontio arbenigol newydd i ddarparu cartref dros dro, ond diogel i blentyn neu berson ifanc sydd wedi profi trawma.

Gallai’r plant neu'r bobl ifanc yma fod wedi ei chael hi’n anodd ymgartrefu mewn amgylchedd teuluol o'r blaen.

Nod y lleoliad pontio tymor byr 24 wythnos yw helpu, cefnogi ac arwain plant neu bobl ifanc i gyrraedd eu potensial a'u galluogi i bontio'n esmwyth i'w cartref parhaol.

Gallai hyn olygu symud i leoliad maethu hirdymor, dychwelyd at deulu genedigol neu amgylchedd byw'n annibynnol.

I ddod yn ofalwr pontio, bydd angen i chi gael y sgiliau, y wybodaeth a’r llety priodol er mwyn cefnogi plentyn.

Bydd profiadau trawmatig wedi effeithio ar blant mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bydd bob plentyn yn dangos ymddygiadau sy'n adlewyrchu eu hamgylchiadau unigol:

  • bydd rhai wedi profi camdriniaeth ac esgeulustod
  • ymddygiad afiach neu amhriodol fel ffyrdd o ymdopi
  • lleoliadau wedi methu sawl gwaith
  • anawsterau emosiynol ac anawsterau perthynas
  • anawsterau gyda dysgu ac addysg
  • ymddygiad tramgwyddus
  • materion diffyg ymddiriedaeth ac ymlyniad

Bydd eich sgiliau cyfathrebu a thrafod rhagorol yn caniatáu i chi adeiladu ymddiriedaeth a pherthynas werthfawr gyda’r plentyn eu helpu i oresgyn rhwystrau a allai fod wedi arwain at fethiant lleoliadau yn y gorffennol.

Bydd gofalwyr yn cael eu cefnogi gan weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol, a fydd yn cynnwys:

  • Dadansoddwr ymddygiad
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • Hwb gofal plant
  • Gweithwyr cefnogi lleoliad
  • Gweithwyr ailuno ac allgymorth.

Mae’r swydd hon yn addas i ymgeiswyr sydd â chymwysterau perthnasol, neu gefndir ym maes gofal plant, gofal cymdeithasol, addysgu, gwaith ieuenctid neu ofal maeth.

Os ydych chi'n credu mai gofal pontio yw'r rôl i chi, dysgwch fwy am y gwasanaeth.

Cysylltwch â’n tîm neu ewch i’n gwefan:

E-bost: Joanna.Lloyd-Jones@bridgend.gov.uk

Ffôn: 01443 425007

Gwefan: www.bridgend.gov.uk/fostering

Chwilio A i Y