Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rôl Gofalwr Trosiannol

Y swydd

Rydym yn chwilio am unigolion amyneddgar a gofalgar sy'n teimlo'n gryf dros gefnogi plant a phobl ifanc i gydnabod eu gallu.

O fewn y swydd heriol ond gwerth chweil hon, fe fyddwch chi'n gyfrifol am ddarparu gofal diogel ac effeithiol plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol.

Byd

Y swydd

d yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a thrafod gwych, ac yn gallu cyfathrebu gyda phlentyn/person ifanc a'u rhwydwaith ehangach, a gwneud cysylltiadau perthnasol pan fo angen.

Wrth weithio fel Gofalwr Pontio, byddwch yn rhan o dîm gofal maeth ymrwymedig, ac yn gweithio gyfochr â dadansoddwr ymddygiad, gweithiwr cymdeithasol, staff canolfan gofal plant, gweithwyr cymorth lleoliad, gweithwyr ailuno a gweithwyr allgymorth.

Er mwyn gwneud y swydd hon, byddwch angen rhwydwaith cymdeithasol cefnogol a chryf sy'n deall yr angen i'r plant hyn gael eu diogelu rhag niwed a chamdriniaeth.

Mae gofalwyr pontio yn darparu cartref i blant a phobl ifanc saith diwrnod yr wythnos. Bydd gofyn i chi fod ar gael oherwydd hyn.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus angen bod yn wydn, a gallu cynnal lleoliad hyd yn oed o dan amgylchiadau anffafriol neu eithriadol, ac mewn sefyllfaoedd o argyfwng, gyda chymorth gan y tîm o'ch cwmpas chi. Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig a mwynhau hwyluso a galluogi plentyn i wella ar ôl profi trawma, i safon lle allan bontio i leoliad teuluol tymor hirach. 

Bydd disgwyl i chi greu cysylltiadau gwerthfawr a chadarn gyda phlentyn neu berson ifanc, a meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i gefnogi a gweithredu 'strategaethau rheoli ymddygiad wedi'u llywio gan drawma.'

Byddwch hefyd angen cartref sefydlog gyda man llety priodol sy'n bodloni'r safonau gofynnol.

Yn gyfnewid, gallwn gynnig y canlynol i chi:

  • ymgynghoriad gyda'r dadansoddwr ymddygiad
  • cyngor ymarferol ac emosiynol ac arweiniad gan weithwyr cymdeithasol goruchwyliol, a gofalwyr maeth profiadol eraill
  • ymweliadau personol rheolaidd gan weithwyr cymdeithasol goruchwyliol bob pythefnos o leiaf
  • taliad maethu uwch drwy'r flwyddyn
  • man seibiant wedi'i adeiladu'n fewnol
  • rhaglen hyfforddi gynhwysfawr, hyfforddiant arbenigol a chyfleoedd datblygu
  • grwpiau cefnogi rheolaidd a gweithdai ymarfer

Mae'r swydd hon yn addas i ymgeiswyr sydd â chymwysterau perthnasol, neu gefndir ym maes gofal plant, gofal cymdeithasol, addysgu, gwaith ieuenctid neu ofal maeth.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â:

Jo Lloyd-Jones, Rheolwr y Tîm Maethu.
Ffôn: 01443 425007

Chwilio A i Y