Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dod yn Ofalwr Pontio

Mae tîm gofal maeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ail-lansio gwasanaeth gofal maeth mewnol, arbenigol newydd.

Pwrpas y gwasanaeth yw gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd i fyw mewn amgylched teuluol oherwydd y trawma maent wedi ei brofi. Rydym eisiau recriwtio gofalwyr sy'n deall yr effaith lawn mae trawma yn ei gael ar blentyn, neu ofalwyr sy'n barod i gwblhau hyfforddiant er mwyn iddynt allu deall hynny.

Bydd gofalwyr hefyd angen gweithio o fewn pecyn dwys o gefnogaeth i alluogi'r plentyn i reoli ei emosiynau, a phontio i leoliad tymor hir sefydlog. Gallai hyn olygu symud i leoliad maethu hirdymor, dychwelyd at deulu genedigol neu amgylchedd byw'n annibynnol.

Bydd gofyn i ofalwyr weithio gyda gweithwyr proffesiynol rhyngddisgyblaethol, a derbyn mentoriaeth ac arweiniad gan aelwyd brofiadol a gwybodus sy’n gofalu. Bydd profiadau trawmatig wedi effeithio ar blant mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bydd bob plentyn yn dangos ymddygiadau sy'n adlewyrchu eu hamgylchiadau unigol:

  • bydd rhai wedi profi camdriniaeth ac esgeulustod
  • bydd rhai wedi cael profiadau aflwyddiannus mewn nifer o wahanol leoliadau
  • bydd y rhan fwyaf wedi profi heriau emosiynol a heriau o fewn perthnasau
  • bydd rhai wedi mabwysiadu neu ddysgu ymddygiadau annerbyniol i ymdopi â'u poen a'u trawma
  • efallai y bydd trawma wedi effeithio ar eu dysgu a'u haddysg
  • bydd rhai ohonynt wedi cael eu tynnu i mewn i ymddygiad troseddol
  • bydd rhai yn amau oedolion, ac yn ei chael hi'n anodd i adeiladu cysylltiadau iach

Gwneir lleoliadau tymor byr am hyd at 24 wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwn bydd y gofalwr yn adeiladu perthynas un i un â'r person ifanc, gan ddangos ymrwymiad, amynedd ac ymroddiad i'w helpu nhw i oresgyn rhwystrau a all fod wedi arwain at leoliadau yn methu yn y gorffennol.

Cysylltwch â ni

Tîm gofal maeth Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01443 425007

Chwilio A i Y