Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun rhiant a phlentyn

Mae lleoliadau rhiant a phlentyn mewn gofal maeth yn dod yn fwy cyffredin, yn bennaf oherwydd y manteision sy'n gysylltiedig â lleoli'r rhiant a'r plentyn mewn amgylchedd teuluol diogel.

Yn ei hanfod, mae mam, tad neu'r ddau riant yn byw gyda'u plant mewn cartref gofalwr maeth lle maent yn dysgu ymdopi â bod yn rhiant; mae'n helpu i roi'r cyfle gorau iddynt ddatblygu eu sgiliau magu plant mewn amgylchedd teuluol naturiol sy’n eu meithrin, a goresgyn unrhyw anawsterau maent yn eu hwynebu.

Mae'r rhiant yn derbyn y cymorth, y gefnogaeth a'r arweiniad i ddatblygu'r hyder i ymgymryd â'r cyfrifoldeb o ofalu am ei blentyn yn annibynnol a datblygu cysylltiadau â rhwydweithiau lleol. Mae'n cynnig y cyfle gorau i deuluoedd ifanc aros gyda'i gilydd.

Mae'r lleoliad fel arfer yn para 12 wythnos ac wrth fyw gyda theuluoedd maeth, bydd y rhieni'n cael asesiadau a chyfarfodydd gyda gweithwyr cymdeithasol a fydd yn monitro iechyd a lles y plentyn.

Gyda llawer o rieni angen cymorth ychwanegol i ofalu am eu plentyn, mae arnom angen mwy o bobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddod ymlaen i gefnogi teulu.

Er mwyn paratoi gofalwyr maeth ar gyfer lleoliadau rhiant a phlentyn, byddant yn cael hyfforddiant ychwanegol ac arbenigol a chymorth parhaus i sicrhau eu bod yn gwbl barod i gynnig lefel y cyfarwyddyd sy'n ofynnol fel rhan o'r gwasanaeth maethu hwn.

Mae'r cymorth a gynigir yn cynnwys:

  • Gweithiwr cymdeithasol cymwys wedi’i enwi o'r tîm maethu
  • Cymorth gan y tîm maethu
  • Hyfforddiant arbenigol
  • Mwy o ymweliadau gan eich gweithiwr cymdeithasol eich hun a/neu weithiwr cymorth
  • Cymorth anuniongyrchol gan y rhieni a/neu weithiwr cymdeithasol y babi
  • Grwpiau cefnogi rheolaidd
  • Cymorth gan weithwyr iechyd proffesiynol a gwasanaethau eraill sy'n ymwneud â'r rhiant a'r plentyn

Bydd gweithiwr cymdeithasol penodol yn monitro ac yn cefnogi'r lleoliad maeth, gan gadw cofnodion trylwyr am sut mae'r lleoliad yn mynd rhagddo.

Lwfans gofalwr maeth

Fel gofalwr rhiant a phlentyn byddwch yn cael eich gwobrwyo'n dda am natur gymhleth y gwaith a byddwch yn derbyn lwfansau ychwanegol i ofalwyr maeth cyffredinol.

Mae gofalwyr maeth wedi'u hyfforddi fel eu bod yn gallu helpu rhieni i ddatblygu sgiliau magu plant hanfodol a chyswllt cryf gyda'u plentyn.

Maent yn gweithio'n agos gyda gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ac yn darparu'r cymorth cyflawn sydd ei angen ar y rhieni ifanc hyn i ffynnu.

Pan fydd gofalwr maeth yn cefnogi lleoliad rhiant a phlentyn, mae ar yr un pryd yn sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu diwallu ac yn annog y rhiant i ddatblygu'r sgiliau i ofalu am ei fabi; fodd bynnag, nid yw'r gofalwr fel arfer yn darparu gofal llawn o'r babi.

Prif ddyletswyddau

  • Annog perthynas gadarnhaol rhwng y rhiant a'r babi
  • Rhoi cymorth emosiynol ac ymarferol i'r rhiant a'r babi
  • Darparu gofal cyson a ffiniau realistig o fewn lleoliad
  • Gwella hunan-barch a hyder y rhieni, sydd wedi profi gwrthod a cholled sylweddol efallai
  • Cynnig ymrwymiad i leihau’r tarfu a newid i'r rhiant a'r babi
  • Bod yn fodel rôl cadarnhaol
  • Bod yn gyson ac yn ddibynadwy gyda'ch arweiniad a'ch cefnogaeth
  • Rheoli a gweithio gyda'r rhieni i addasu ymddygiad sy'n cymryd risg
  • Helpu'r rhieni i ddysgu'r sgiliau i fyw'n annibynnol
  • Arsylwi a chofnodi sut mae'r rhiant yn gofalu am y plentyn, gan gadw cofnodion dyddiol am gynnydd y rhiant a'r plentyn
  • Darparu lefel uchel o oruchwyliaeth, er mwyn diogelu lles y babi
  • Y gallu i gadw cofnodion clir a chryno
  • Gweithio mewn ffordd wedi'i chynllunio tuag at derfynu’r lleoliad

Dyletswyddau ychwanegol

  • Bod yn hyblyg gyda'ch amser e.e. goruchwyliaeth, cyfarfodydd
  • Gweithio'n agos fel rhan o dîm, o fewn y cynllun a gyda'r rhwydweithiau proffesiynol ehangach sy'n gysylltiedig â'r rhiant a'r babi
  • Gweithio ar y cyd â'r gweithiwr cymdeithasol maethu yn ystod asesiad y rhiant a'r babi
  • Cyfrannu'n weithredol at gyfarfodydd cynllunio ac adolygiadau
  • Trwydded yrru ddilys a char ar gael ar gyfer cludiant
  • Bod yn barod i gyflwyno eich cofnodion i lys neu fynychu llys yn ôl yr angen

Gall maethu rhiant a babi fod yn gymhleth ac yn heriol ac mae’r gofalwr maeth angen sgiliau a rhinweddau fel y canlynol:

  • Y gallu i drin rhieni newydd gyda sensitifrwydd
  • Pendantrwydd a'r hyder i arwain drwy esiampl
  • Sgiliau arsylwi a'r parodrwydd i arsylwi a chofnodi sut mae'r rhiant yn gofalu am y plentyn, heb darfu gormod
  • Amynedd ac anogaeth wrth rannu cyngor a sgiliau magu plant
  • Cyfrinachedd
  • Hyder - Mae gofalwyr maeth yn parhau i gyfathrebu'n agos â'r gweithiwr cymdeithasol cefnogol a disgwylir iddynt gyfrannu at adolygiadau a chyfarfodydd i adrodd ar gynnydd y lleoliad

Gofynion

  • Sgiliau perthnasol a throsglwyddadwy o gyflogaeth, fel profiad o weithio gyda babanod, plant neu bobl ifanc.
  • Ystafell wely sbâr gyda digon o le i letya'r rhiant a'r plentyn.
  • O leiaf un aelod o'r aelwyd i fod gartref ac ar gael drwy gydol y dydd.
  • Digon o le yn yr ardal fyw i alluogi i deulu fyw ochr yn ochr â'ch teulu eich hun.
  • Sgiliau TG sylfaenol (Word, e-bost).
  • Cysylltiadau gweithredol o fewn y gymuned leol.

Cysylltwch â ni

Tîm gofal maeth Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01443 425007

Chwilio A i Y