Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Beth yw maethu?

​Trawsgrifiad fideo Sophie 10 oed Mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau

Er mwyn dod i wybod mwy am faethu yn Ynys Môn, ymweld â’ch gwefan Maethu Cymru leol.

Mae gofal maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn dîm maethu awdurdod lleol profiadol. Mae’r tîm yn darparu lleoliadau o safon i blant lleol pan nad yw eu teuluoedd yn gallu edrych ar eu hôl.  Gall hyn fod am resymau amrywiol gan gynnwys:

  • mae’r unig riant yn yr ysbyty
  • materion megis esgeulustod yn eu cartrefi
  • marwolaeth prif ofalwr
  • perthnasoedd teuluol yn chwalu
  • problemau iechyd rhieni gan gynnwys camddefnyddio alcohol neu gyffuriau
  • gofal seibiant i deuluoedd sy’n gofalu am blentyn gydag anabledd

Nid yw’r gofal a ddarperir yn hirdymor pob tro, ac yn aml gall fod yn drefn dros dro, gan roi cyfle i blant ddychwelyd i’w teuluoedd eu hunain.

Os na fydd plant yn gallu mynd adref, bydd angen gofal maeth hirdymor.

Bydd pob plentyn sy’n derbyn gofal wedi wynebu colled a chael eu gwahanu rhag eu teuluoedd biolegol, felly mae angen help arnynt i deimlo’n ddiogel ac fel eu bod yn derbyn gofal. Mae maethu’n cynnig cartref sefydlog a chariadus i blant, gan roi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu a datblygu.

Mae’r tîm gofal maeth yn arbenigwyr gofal plant sy’n gweithio ochr yn ochr â rhwydwaith o weithwyr proffesiynol sy’n sicrhau bod plant yn derbyn gofal, a bod y gofal hwnnw o’r radd flaenaf. Mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd plentyn, ac mae wir yn brofiad fydd yn talu ar ei ganfed.

Ydw i’n falch ein bod wedi penderfynu maethu? Yn bendant! Nid yw’n hawdd bob amser, yn enwedig os ydych chi’n maethu plant gydag anghenion mwy cymhleth.

Fodd bynnag, mae’r profiad yn talu ar ei ganfed – pan rydych yn gweld plentyn yn datblygu a magu hyder a newid o flaen eich llygaid – mae’n un o’r profiadau mwyaf boddhaus y gallwn fod wedi gobeithio ei gael.

gofalwr maeth, Kelly.

Cysylltwch â ni

Tîm gofal maeth Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01443 425007

Chwilio A i Y