Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwybodaeth i ddarparwyr

Mae’r ddarpariaeth gofal plant yn cynnwys 30 awr yr wythnos o ofal plant a gyllidir ac addysg gynnar am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Gall rhieni sy’n gweithio sy’n gymwys ac sydd â phlant tair i bedair oed wneud defnydd o’r ddarpariaeth.

Mae’r ddarpariaeth ar gael o’r tymor ar ôl trydydd pen blwydd y plentyn tan y mis Medi ar ôl ei bedwerydd pen blwydd. Nid yw rhieni’n gymwys mwyach i gael y cynnig yn ystod y tymor ysgol pan mae’r plentyn yn cael cynnig lle llawn amser yn yr ysgol. Er hynny, gallant barhau i gael naw wythnos o ofal plant yn ystod y gwyliau.

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cynigir addysg feithrin lawn amser yn dair oed.

Nid oes raid i ddarparwyr gofal plant gyflwyno’r elfennau addysg gynnar a gofal plant o’r ddarpariaeth. Bydd rhai plant yn parhau i gael addysg gynnar mewn lleoliadau a gynhelir.

Bydd angen i unrhyw ddarparwr sy’n dymuno darparu’r Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru o fis Ionawr 2023 gofrestru ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol.

  • Nodi unigolyn arweiniol i gofrestru eich sefydliad
  • Dewch o hyd i’ch rhif cofrestru CIW a rhif SIN. Gellir dod o hyd i’r rhain ar unrhyw ohebiaeth gan CIW neu drwy fewngofnodi i’ch cyfrif CIW ar-lein.
  • Sicrhewch fod gennych y cod post cofrestredig a manylion banc eich sefydliad(au) wrth law.

Bydd darparwyr gofal plant yn derbyn £5 y plentyn yr awr. Os ydych yn gofyn am fwy na hyn fel rheol, ni chewch ofyn i rieni dalu cyfradd ychwanegol.

Cewch godi ffi am fwyd, cludiant a gweithgareddau oddi ar y safle sy’n costio i chi. Dywed canllawiau Llywodraeth Cymru na ddylai rhieni orfod talu mwy na £9 y dydd. Byddai hyn yn cynnwys tri phryd bwyd am £2.50 y pryd a 2 fyrbryd am bris o 75c y byrbryd.

Am sesiwn hanner diwrnod, ni ddylai rhieni orfod talu mwy na £5.75. Mae hyn yn cynnwys dau bryd bwyd am £2.50 y pryd a byrbryd am bris o 75c y byrbryd. Os nad oes pryd bwyd yn cael ei ddarparu ond bod y plentyn yn derbyn byrbryd, ni ddylid codi mwy na 75c ar rieni am hyn.

Llinell gymorth genedlaethol: 03000 628628

Am ragor o wybodaeth am wasanaeth digidol newydd Cynnig Gofal Plant Cymru, ewch i gov.wales/childcareofferdigitalservice neu cysylltwch â’ch tîm Cynnig Gofal Plant lleol drwy:  childcareoffer@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y