Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bywyd Gwyllt

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr amrywiaeth eang o fywyd gwyllt ac mae'n gartref i lawer o rywogaethau prin sy'n dirywio. Gyda choetiroedd hynafol, dyffrynnoedd afonydd, twyni tywod arfordirol, tir ffermydd, tiroedd comin a llawer o fannau gwyrdd eraill ledled y sir, mae digon o fywyd gwyllt i’w ddarganfod gan bawb.

Mae llawer o'n mannau gwyrdd yn cael eu rheoli er budd bywyd gwyllt yn ogystal ag i bobl. Mae rhai ardaloedd, fel gwarchodfeydd natur, wedi cael eu dynodi’n benodol oherwydd eu gwerth i fioamrywiaeth.

Gallwch ymweld â'r holl warchodfeydd natur ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r safleoedd hyn wedi’u diogelu gan y gyfraith ac yn cael eu rheoli i hyrwyddo eu bioamrywiaeth. Os byddwch yn ymweld â'r safleoedd hyn, neu unrhyw fannau gwyrdd eraill ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dilynwch y cod cefn gwlad:

Parchu pobl eraill

• parcio’n ofalus fel bod mynediad i giatiau’n glir
• gadael giatiau ac eiddo fel rydych yn dod o hyd iddynt

Diogelu’r amgylchedd naturiol

• cadw cŵn dan reolaeth fanwl ac effeithiol
• rhoi gwastraff cŵn mewn bag ac wedyn mewn bin, neu fynd ag ef gyda chi
• peidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad a mynd â’ch sbwriel gartref

Mwynhau’r awyr agored
• dilyn cyngor ac arwyddion lleol

Gall arolygon bywyd gwyllt ein helpu ni i ddarganfod mwy o wybodaeth am ecoleg ardal a gweld sut mae bioamrywiaeth yn newid dros amser. Gall pawb gymryd rhan a dweud wrthym am y bywyd gwyllt rydych yn ei weld.

Bydd eich mewnbwn yn ein helpu ni i gasglu gwybodaeth werthfawr am ddosbarthiad bywyd gwyllt pwysig yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
cymryd rhan yn ein harolwg bywyd gwyllt
• hefyd mae gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Coed Cadw (anifeiliaid, coed a phlanhigion a ffyngau) ac Yn Ôl o Ymyl y Dibyn amrywiaeth wych o ganllawiau adnabod bywyd gwyllt
• Edrychwch ar yr adran Cymryd Rhan am ddolenni at brosiectau gwyddoniaeth y dinesydd y gallwch gymryd rhan ynddynt

Mae bywyd gwyllt ac amgylcheddau naturiol yn cefnogi ac yn cyfoethogi ein bywydau. Mae gan bawb ran i'w chwarae mewn amddiffyn a dathlu ein bioamrywiaeth. Er bod gweithredu dynol wedi effeithio ar lawer o'n bywyd gwyllt, gallwn gymryd camau syml i helpu bywyd gwyllt i adfer.

Gallwn hefyd ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a gwella amodau ar gyfer ein bywyd gwyllt.

Edrychwch ar ein canllawiau ‘Sut i’ i ddod o hyd i wybodaeth am sut gallwch chi helpu i wella lleoedd ar gyfer bywyd gwyllt:

sut i greu gwesty trychfilod
sut i adeiladu pwll
sut i greu a rheoli dôl o flodau gwyllt
sut i blannu coed

Ein gerddi cefn ein hunain yw'r man lle rydyn ni'n dod ar draws bywyd gwyllt yn fwyaf rheolaidd yn aml. Darganfyddwch sut gallwch chi helpu natur gartref.

Mae gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru amrywiaeth eang o ganllawiau a fideos ar sut gallwch chi wella eich gardd ar gyfer bywyd gwyllt.

Yn ogystal â chreu llefydd newydd ar gyfer natur, mae hefyd yn bwysig cynnal y mannau presennol ar gyfer natur. Edrychwch ar wefan Coed Cadw am gyngor ar ofalu am goed a choetiroedd.

Mae sawl prosiect ar raddfa fawr sy'n gweithio i wella ansawdd cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae'n bwysig iawn gwneud cynefinoedd o ansawdd uchel er mwyn annog rhywogaethau i symud i ardal. Mae hyn yn ogystal â chaniatáu i'r poblogaethau presennol ddatblygu gwytnwch.

Mae rhai o'r prosiectau hyn yn cynnwys y canlynol:

Twyni Deinamig – prosiect sy’n gweithio i adfywio rhai o dwyni tywod pwysicaf Cymru a Lloegr ar gyfer pobl, cymunedau a bywyd gwyllt

Nid yw’r holl fywyd gwyllt ledled Pen-y-bont ar Ogwr yn frodorol i'r DU, ac mae rhai o'r rhywogaethau estron hyn hefyd yn ymledol (INNS). Rhywogaethau ymledol, estron yw unrhyw anifail neu blanhigyn a all ledaenu a niweidio'r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a'n ffordd o fyw.

Mae problemau a achosir gan rywogaethau ymledol yn effeithio ar bob un ohonom ni, ac ystyrir eu heffaith fel un o'r bygythiadau mwyaf i fioamrywiaeth ledled y byd.
cael gwared ar ffromlys

Cysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y