Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hwb Diogelu Aml Asiantaeth (MASH)

Mae Hwb Diogelu Amlasiantaeth Pen-y-bont ar Ogwr, neu MASH, yn darparu gwasanaethau diogelu gan y cyngor a’n partneriaid ledled y gymuned yn un lle.

MASH yw’r pwynt cyswllt unigol ar gyfer pob pryder diogelu newydd. Bydd MASH Pen-y-bont ar Ogwr yn galluogi rhannu gwybodaeth o ansawdd uwch yn gynharach, a dadansoddi a gwneud penderfyniadau. Derbynnir atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol ac aelodau’r cyhoedd.    

Mae MASH yn cynnig cyfle am safon uwch o ddiogelu drwy ddarparu i’r holl weithwyr proffesiynol fwy o wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau gwell a mwy gwybodus.

Mae’n galluogi gweithwyr proffesiynol i ddiogelu’r plant a’r oedolion mwyaf agored i niwed rhag niwed ar y cyfle cynharaf.

 

Cyswllt

Os oes gennych chi unrhyw bryderon diogelu, neu os ydych chi eisiau cysylltu â MASH Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â:

Gwasanaethau Plant MASH

Ffôn: 01656 642320

Tîm Diogelu Oedolion

Ffôn: 01656 642477

Cymorth Cynnar

Gwefan: Cymorth Cynnar
Ffôn: 01656 642796 / 815024 / 642795 / 815491/ 643582 / 643688 / 815420

MASH Heddlu De Cymru (Uned Diogelu’r Cyhoedd)

Ffôn: 01656 815808

Mae MASH Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys staff o’r meysydd canlynol:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Gwasanaethau plant ac oedolion, cymorth cynnar, addysg, tai, gwasanaethau iechyd meddwl, tîm cyffuriau ac alcohol ac eiriolwyr trais domestig annibynnol)
  • Uned Diogelu'r Cyhoedd Heddlu De Cymru (Uned ymchwilio i gam-drin plant, uned oedolion agored i niwed, uned cam-drin domestig, tîm personau coll a chamfanteisio ar blant)
  • Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Y gwasanaeth prawf ac adsefydlu cymunedol
  • Iechyd (Nyrsys diogelu’r cyhoedd a Gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, neu CAMHS, gweithiwr cyswllt)
  • Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, neu BAVO, llywiwr cymdeithasol
  • Eiriolwr camfanteisio'n rhywiol ar blant, neu CSE, Barnardos   

Mae nifer o staff o wahanol asiantaethau yn cyfarfod yn gorfforol ac i'r rhai sydd wedi'u lleoli oddi ar y safle mae cysylltiadau rhithwir.

Mae Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol, neu IDVAs, yn cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig sydd mewn perygl mawr o niwed gan:

  • partneriaid agos
  • cyn bartneriaid
  • aelodau o'r teulu

Hefyd, mae IDVAs yn rhoi sylw i ddiogelwch y dioddefwr a'i blant er mwyn lleihau'r risg o niwed difrifol neu ddynladdiad. Cyflogir y tîm IDVA gan yr awdurdod lleol ac mae'n rhan o strwythur y bartneriaeth diogelwch cymunedol. IDVA yw cyswllt cyntaf y dioddefwr. Mae’n gweithio gyda'r dioddefwr, o’r argyfwng i asesu:

  • lefel y risg
  • trafod amrywiaeth o opsiynau addas
  • datblygu cynlluniau diogelwch a chyfeirio at wasanaethau eraill

Mae cynlluniau diogelwch yn cynnwys camau ymarferol i'r dioddefwr eu cymryd i ddiogelu ei hun a'i blant. Mae IDVAs yn cefnogi ac yn gweithio yn y tymor byr i ganolig i sicrhau diogelwch a lleihau risg.

Mae IDVAs yn eirioli dros y dioddefwyr mewn gwahanol leoliadau, fel; system cyfiawnder troseddol a thai. Cynigir cefnogaeth ar ôl digwyddiad trais domestig nes bod y risg yn lleihau.

Wedyn, cyfeirir dioddefwyr am 'gefnogaeth yn y gymuned' at wasanaethau cefnogi priodol. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i ddynion a menywod sy'n dioddef cam-drin domestig a/neu drais rhywiol.

Mae'r tîm yn cynnwys y Tîm Cynadleddau Atgyfeirio a'r Tîm Asesu Cychwynnol.

Mae Tîm Cynadleddau Atgyfeirio De Cymru yn derbyn ac yn asesu risg yr holl Hysbysiadau Diogelu'r Cyhoedd, neu PPNs, sy’n ymwneud â phlant ac yn rhannu gwybodaeth gyda phartneriaid perthnasol. Mae'r tîm yn cyflawni swyddogaethau statudol, fel trafodaethau a chyfarfodydd strategaeth, o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru. Mae'r tîm hefyd yn trefnu ymchwiliadau pellach i droseddau.

Mae'r tîm yn mynychu ac yn cyflwyno gwybodaeth mewn Cynadleddau Amddiffyn Plant ar ran Heddlu De Cymru. Maent yn cynghori ar wahanol ofynion diogelu i gefnogi ymchwiliadau troseddol.

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, neu’r IAA, yn gweithio mewn partneriaeth â'r heddlu, iechyd, gwasanaethau oedolion a MASH. Tîm yr IAA yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac aelodau'r cyhoedd. Mae'r tîm yn ymateb i bob ymholiad cychwynnol mewn perthynas â phlant a theuluoedd.

Mae'r tîm yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae'r ymholiadau hyn yn amrywio o geisiadau am wybodaeth a gwasanaethau i bryderon am les neu ddiogelwch plentyn neu berson ifanc.

Rôl y tîm yw adnabod plant a phobl ifanc a allai fod yn gymwys i gael gwasanaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae gan y tîm ddyletswydd i asesu a oes angen gofal a chefnogaeth ar blentyn. Pan deimlir bod y plentyn yn bodloni meini prawf cymhwysedd, bydd asesiad gofal a chefnogaeth yn cael ei gynnal er mwyn nodi gwasanaethau.

Os teimlir bod plentyn mewn perygl o niwed, bydd y tîm IAA yn cysylltu ag asiantaethau partneriaeth ac yn cynnal ymchwiliad amddiffyn plant.

Mae'r cydlynydd gofalwyr ifanc hefyd yn rhan o dîm yr IAA a'i rôl yw asesu pa ddyletswyddau gofalu sydd gan blentyn. Wedyn, bydd y cydlynydd yn ystyried a oes unrhyw gefnogaeth y gellir ei rhoi ar waith i'r teulu cyfan. Mae'r cydlynydd yn cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol, cymorth cynnar, addysg a sefydliadau allanol.

Mae'r Tîm Sgrinio Cymorth Cynnar yn cynnwys un uwch ymarferydd a thri swyddog sgrinio. Gall y Tîm Cymorth Cynnar gynnig nifer o wasanaethau cymorth i blant a'u teuluoedd sydd ag ystod o anghenion cefnogi.

Mae gennym amrywiaeth o wasanaethau y gallwn eu cynnig i deuluoedd, fel y canlynol:

  • Cefnogaeth i deuluoedd
  • Cefnogaeth iechyd a lles i bobl ifanc
  • Cefnogaeth dechrau'n deg
  • Sgiliau sylfaenol
  • Gwasanaethau cefnogi ymddygiad
  • Cwnsela
  • Cyfeirio at grwpiau a sefydliadau eraill.

Mae'r tîm yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol ac unigolion. Mae'r tîm yn cynnal asesiad sgrinio gyda'r teulu i asesu eu hanghenion. Bydd y teulu'n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol.

Mae'r broses asesu’n cymryd 10 diwrnod. Gellir blaenoriaethu rhai atgyfeiriadau.

Mae nyrsys diogelu'r cyhoedd yn gweithio ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac maent wedi'u lleoli ym MASH Pen-y-bont ar Ogwr. Mae nyrsys diogelu'r cyhoedd yn gwneud y canlynol:-

  • Cynorthwyo a chynghori staff mewn perthynas â diogelu plant, oedolion mewn perygl, mesurau diogelu amddifadu o ryddid (DoLS) a cham-drin domestig.
  • Cefnogi staff i gynllunio, darparu a gwerthuso ymyriadau priodol.
  • Cynllunio a chyflwyno'r rhaglen hyfforddi sy'n ymwneud â diogelu plant, oedolion mewn perygl a cham-drin domestig i staff byrddau iechyd.
  • Helpu i ddarparu hyfforddiant diogelu amlasiantaeth gydag asiantaethau partner.
  • Cydweithio ag asiantaethau partner ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac eraill i ddiogelu plant ac oedolion.
  • Hyrwyddo lles plant ac oedolion yn lleol.
  • Darparu'r mewnbwn iechyd i MASH.

Mae'r tîm Diogelu Oedolion yn delio â'r holl atgyfeiriadau oedolion mewn perygl. Mae'r tîm yn ymdrin ag ymholiadau, cyfarfodydd strategaeth a chynadleddau achos.

Mae'r tîm yn derbyn ceisiadau Mesurau Diogelu Amddifadu o Ryddid, neu DoLS, gan gartrefi nyrsio a chartrefi gofal preswyl. Cynhelir chwe asesiad, ac os bodlonir pob un o'r chwe throthwy, cyhoeddir DoLS cyfreithiol. Awdurdodir y rhain gan reolwr y tîm diogelu oedolion ac maent yn para am uchafswm o flwyddyn.

Mae rheolwr y tîm hefyd yn gyfrifol am uwch ymarferydd, gweithiwr cymdeithasol a therapydd galwedigaethol yng Ngharchar y Parc. Mae'r tîm yn cynnal asesiadau, yn cytuno ar gynlluniau gofal, ac yn trefnu pecynnau gofal ac offer.

Prif rôl yr AARST fydd bod yn gyfrifol am ddiogelu Oedolion mewn perygl ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd hyn yn cynnwys adolygu a phrosesu'r holl Atgyfeiriadau Oedolion mewn Perygl a’r Addasiadau Diogelu'r Cyhoedd a mynychu pob cyfarfod Diogelu. Byddant yn gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill i ddiogelu oedolion agored i niwed, fel trafodaethau strategaeth, cyfarfodydd a darparu gwybodaeth gefndir berthnasol i gynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch ymchwiliad a rheoli risg.

Bydd yr AARST yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ym mhob adran fewnol arall lle mae'r ymchwiliad yn cynnwys oedolyn mewn perygl neu lle mae'r angen am gyfweliad ABE yn cael ei ystyried yn angenrheidiol gan y Swyddog mewn Gofal.

Mae'r Tîm Ymchwilio i Gam-drin Plant Difrifol, neu SCAIT, yn ymchwilio i honiadau o gam-drin lle mae'r dioddefwr yn blentyn o dan 18 oed ac o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Cam-drin sy’n digwydd o fewn y teulu neu deulu estynedig yn hytrach na dieithryn.
  • Cam-drin a gyflawnwyd gan ofalwr neu berson sydd â chyfrifoldeb gofal ar adeg y drosedd honedig, e.e. gwarchodwr plant neu athro.
  • Honiadau am gam-drin rhywiol lle mae'r dioddefwr o dan 13 oed.

Gall SCAIT gynorthwyo hefyd yn yr achosion canlynol:

  • Cyfweld plant dan 18 oed mewn achosion o droseddau difrifol a gyflawnwyd yn eu herbyn gan ddieithriaid.
  • Honiadau am gam-drin rhywiol lle mae'r dioddefwr a'r troseddwr dros 13 oed ond o dan 18 oed.
  • Honiadau am ddelweddau cam-drin plant ar gyfrifiadur lle mae gan y troseddwr honedig blant o fewn y teulu, neu deulu estynedig, neu mae ganddo fynediad at blant.
  • Os yw'n briodol, cynnal cyfweliadau byrion gyda phlant sydd wedi bod ar goll. Y nod yw sefydlu a oes unrhyw bryderon amddiffyn plant.
  • Darparu arbenigedd a chyngor i swyddogion sy'n ymchwilio i gam-drin domestig lle mae plant yn gysylltiedig.
  • Darparu arbenigedd a chyngor i'r SIO mewn achosion o ddynladdiad plant a marwolaethau plant yn sydyn ac yn annisgwyl.
  • Darparu cyngor mewn unrhyw ymchwiliad i droseddau yn erbyn plant neu ymchwiliadau i droseddau a gyflawnwyd gan blentyn lle mae pryderon lles yn codi am y plentyn hwnnw.

Mae'r tîm MPIT/CSE yn cefnogi ac yn helpu i reoli achosion o bobl sydd ar goll ac achosion o gamfanteisio ar blant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y brif rôl yw diogelu a fydd yn cynnwys elfen o ymchwilio wrth geisio meithrin cyfleoedd am wybodaeth a sefydlu perthynas ag unigolion sydd mewn perygl o fynd ar goll.

Nod y tîm yw lleihau nifer yr achosion drwy weithio gydag asiantaethau partner i ganfod gwraidd y broblem. Mae'r tîm hefyd yn mynychu cyfarfodydd strategaeth gydag asiantaethau partner i benderfynu ar y ffordd orau o gefnogi'r unigolion a sicrhau eu bod yn cael eu diogelu.

Mewn perthynas â Chamfanteisio'n Rhywiol ar Blant, neu CSE, bydd y tîm yn gweithio'n agos gyda dioddefwyr camfanteisio'n rhywiol ar blant i roi cefnogaeth iddynt.

Mae'r tîm yn cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau allanol eraill gyda dull tair elfen o atal camfanteisio'n rhywiol ar blant. Mae'r tîm yn rheoli'r achosion parhaus ac yn sicrhau mynediad at ôl-ofal angenrheidiol i ddioddefwyr a'u teuluoedd.

Mae'r Uned Cam-drin Domestig, neu DAU, yn diogelu dioddefwyr trais domestig a'u teuluoedd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r tîm yn derbyn 20 i 40 o adroddiadau am drais domestig bob 24 awr ar gyfartaledd. Mae hyn yn ychwanegol at atgyfeiriadau allanol gan asiantaethau eraill.

Mae'r DAU yn gweithredu mesurau diogelu ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig. Mae’r tîm yn asesu risg Hysbysiadau Diogelu'r Heddlu, neu PPNs, ac atgyfeiriadau allanol. Mae'r atgyfeiriadau'n cael eu categoreiddio fel lefel uchel, ganolig neu safonol.

Mae'r wybodaeth hon yn cael ei rhannu ag asiantaethau eraill a gweithredir mesurau diogelu priodol.

Mae’r dyletswyddau eraill yn cynnwys y canlynol:

  • Cyswllt dioddefwyr
  • Ymweliadau unigol ac ar y cyd ag asiantaethau partner
  • Sicrhau datganiadau ac annog gweithredu cadarnhaol
  • Cyngor diogelu a gweithredu ar bob lefel o ran risg trais domestig
  • Cysylltu â thimau ymchwilio'r heddlu a’r swyddogion sy’n mynychu
  • Sicrhau ansawdd y diogelu yn ystod ymchwiliadau'r heddlu a phresenoldeb mewn digwyddiadau
  • Gweithredu neu gynnal polisïau, gweithdrefnau a strategaethau cam-drin domestig a chynnig arweiniad i bobl nad ydynt yn arbenigwyr
  • Arbenigwyr mewn: trais ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu menywod, ymddygiad C&C, stelcian ac aflonyddu
  • Datgeliadau cyfraith Clare
  • Paratoi datgeliadau ar gyfer y gwasanaeth prawf
  • Rhannu larymau TecSOS
  • Gwyliadwraeth yr heddlu
  • Datgeliadau llys
  • Cynnal marcwyr a fflagiau cofrestr critigol
  • Adolygiad parhaus o risg pob dioddefwr a’r camau gweithredu sy'n deillio o unrhyw risg a ganfyddir
  • DS/DI yn cadeirio trafodaethau dyddiol a chynadleddau asesu risg amlasiantaeth

Chwilio A i Y