Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gofalwyr

Os ydych chi'n gofalu am rywun ag anghenion gofal a chymorth na allai ymdopi heb eich help, yna rydych chi'n ofalwr.

Efallai eich bod wedi bod yn darparu gofal ers amser maith neu efallai eich bod wedi dechrau cefnogi rhywun yn ddiweddar. Mae'r gyfraith yng Nghymru yn diffinio Gofalwr fel rhywun sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi'r un hawliau i Ofalwyr â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt ac o’r herwydd, cyfeirir atoch drwy gydol y Ddeddf i gydnabod y cyfraniad amhrisiadwy yr ydych yn ei wneud.

Efallai eich bod, er enghraifft yn darparu gofal a chymorth i rywun sydd:

  • Â Dementia
  • Anabledd Dysgu
  • Wedi goroesi strôc
  • Person sy’n derbyn triniaeth ar gyfer canser
  • Awtistiaeth
  • Person sydd â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol
  • Person sydd ag afiechyd meddwl
  • Bregusrwydd oherwydd bod y person yn hŷn

 

Nid yw'r enghreifftiau hyn yn rhestr holl-gynhwysol ac nid yw llawer o bobl yn sylweddoli eu bod wedi dod yn Ofalwr di-dâl.

Mae gofalu am rywun yn gallu bod yn brofiad hynod o werth chweil a phleserus. Fodd bynnag, mae adegau pan fydd darparu gofal a chymorth i ffrind neu aelod o'r teulu, er enghraifft, yn gallu bod yn flinedig ac yn ddryslyd. Gall ceisio llywio eich ffordd o gwmpas systemau iechyd neu ofal cymdeithasol sy'n ymddangos yn gymhleth deimlo'n llethol pan fyddwch chi'n ceisio cydbwyso gofalu â bywyd gwaith a theuluol.

Fel Gofalwr mae gennych hawl i gael Asesiad Anghenion Gofalwyr, a elwir weithiau'n sgwrs "beth sy'n bwysig." Mae gennych hawl i'r asesiad hwn hyd yn oed os yw'r person rydych yn gofalu amdano yn gwrthod ei asesiad ei hun. Nid asesiad mohono o'r gofal rydych chi'n ei ddarparu i berson mewn unrhyw ffordd ac nid yw ychwaith yn brawf o'ch gallu i ofalu. Nid yw'n asesiad ariannol chwaith (efallai y gofynnir i ofalwyr a ydynt am drafod sut mae eu rôl ofalu yn effeithio ar eu cyllid a gellir darparu gwybodaeth ar sut i wneud y mwyaf o'ch incwm), ond yn hytrach mae'n gyfle i drafod ac ymchwilio i sut y gellir eich cefnogi yn eich rôl ofalu.

Mae mor hawdd cael eich dal yn eich rôl ofalu o ddydd i ddydd fel bod eich anghenion eich hun yn dod yn ail. Mae'n hynod bwysig eich bod yn cael y cyfle i ofalu amdanoch eich hun hefyd, mae bod yn iach ac yn iawn yn bwysig i chi fedru parhau i ofalu. Dylech gael cynnig asesiad cyn gynted ag y daw i’r amlwg fod gennych angen cymorth cyfredol, neu y byddwch efallai angen cymorth yn y dyfodol.

Asesiad Anghenion Gofalwyr yw eich cyfle i drafod eich rôl ofalu a sut mae'n effeithio ar eich bywyd. Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal gan weithiwr cymdeithasol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, neu mewn rhai achosion, gan aseswr dibynadwy a fydd yn cynnal yr asesiad ar ran y cyngor lleol.

Gall fod yn anodd iawn gofyn am help ac efallai y byddwch yn teimlo’n euog neu’n teimlo eich bod yn cael trafferth gyda'ch rôl ofalu.  Mae hwn yn ymateb hollol normal a dealladwy.  Rydym yn deall bod llawer o Ofalwyr yn profi'r teimladau hyn ac nid ydym yma i'ch barnu chi. Gall siarad â rhywun am eich rôl ofalu fod yn hynod ddefnyddiol gan ei fod yn rhoi cyfle i chi archwilio eich teimladau a'ch helpu i wneud synnwyr o'r hyn a all fod yn sefyllfa heriol ac anodd.

Gellir cynnal eich asesiad mewn ffordd sy'n gweithio orau i chi, er enghraifft, gellir ei wneud gyda'r person rydych yn gofalu amdano fel rhan o asesiad ar y cyd. Neu gellir ei wneud i ffwrdd oddi wrth y person hwnnw, i ffwrdd o’ch cartref, neu dros y ffôn. Bydd y sawl sy'n cwblhau'r asesiad eisiau i chi fod mor gyfforddus â phosibl fel eich bod yn cael y gorau o'ch asesiad ac i helpu i nodi'r gefnogaeth gywir i chi fel Gofalwr.

Gallai rhai o'r pethau yr hoffech eu hystyried a'u trafod yn eich Asesiad Gofalwyr gynnwys

  • Pa gefnogaeth a chymorth y gallai fod eu hangen arnoch i edrych ar ôl y person rydych yn gofalu amdano
  • Faint o'ch amser sy'n cael ei dreulio yn gofalu
  • Sut mae eich rôl gofalu yn effeithio ar eich bywyd a'ch lles
  • Eich teimladau a'ch dewis ynghylch gofalu
  • A oes angen help arnoch i gael mwy o wybodaeth am gymorth ariannol
  • P'un a ydych yn dymuno gweithio, cael mynediad i hyfforddiant, addysg neu weithgareddau hamdden

Nid yw'r rhestr hon yn holl-gynhwysol o bell ffordd. Bwriad asesiad anghenion yw ymchwilio i’r gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch i gynnal eich lles eich hun.

Gellir cynnal yr asesiad gyda'r person rydych yn gofalu amdano neu ar wahân iddynt. Nid oes angen i'r person rydych yn gofalu amdano fod yn hysbys i'r Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn i chi allu cael Asesiad Anghenion Gofalwyr. Gellir ei wneud ar amser ac mewn lleoliad sy'n addas i chi. Byddwch yn derbyn copi o'ch asesiad a chyngor ar y gwasanaethau, y wybodaeth a'r cymorth a allai eich helpu. O ganlyniad i'ch asesiad, efallai y byddwn yn cytuno i ddarparu Cynllun Cefnogi Gofalwyr i chi.

Gwasanaeth Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr

Mae rhagor o wybodaeth am y math o gymorth sydd ar gael i chi fel Gofalwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gael drwy wasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

Dilynwch ‘Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr’ ar Facebook

Pe byddai'n well gennych, gallwch naill ai siarad yn uniongyrchol â'r gweithiwr cymdeithasol sy'n gweithio gyda'ch teulu neu gallwch gysylltu â'r Pwynt Mynediad Cyffredin.

Cysyllt

Ffôn: 01656 642279

Dolenni defnyddiol

Gofalwyr Cymru

www.carerswales.org 

Rhif ffôn: 02920811370

Cyngor ar Bopeth

citizensadvice.org.uk

Rhif ffôn: 01656 762800

Ymddiriedolaeth Gofalwyr

wales@carers.org

Rhif ffôn: 03307729702

Chwilio A i Y