Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cysylltu â Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Rydyn ni’n gweithio gydag oedolion i ddarparu’r gofal, y cymorth neu’r warchodaeth briodol ar eu cyfer. Dyma rai o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu:

  • gwybodaeth a chyngor
  • gwarchod oedolion diamddiffyn rhag niwed neu esgeulustod
  • cefnogi pobl sy’n gofalu am eraill

Mae pob ymholiad newydd yn dod drwy’r Pwynt Mynediad Cyffredin (PMC). Nid ydym yn derbyn galwadau am ofal cymdeithasol i blant. Ar gyfer hynny, edrychwch ar y dudalen ar gyfer gysylltu â gofal cymdeithasol plant.  

E-bost: contactassessmentreviewteam@bridgend.gov.uk
Rhif Ffôn: 01656 642279
Cyfnewid testun: 18001 01656 642279
Arwyddo
Cyfeiriad: Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB.
Oriau agor:
8:30am i 5:00pm Llun – Iau
8:30am i 4:30pm - Gwener
Ffacs: 01656 724457
SMS: 07581 157014 (ar gyfer cwsmeriaid byddar a thrwm eu clyw)
Argyfyngau tu allan i oriau swyddfa: 01443 743 665

 

 

Os yw un o’n timau rhwydwaith integredig ar gyfer oedolion yn darparu gofal neu gymorth ar hyn o bryd, mae’r manylion cyswllt ar gael isod.

Wardiau’r Dwyrain: ffoniwch 01656 643488.
Dyma wardiau’r dwyrain: Tref Pen-y-bont ar Ogwr, Bracla, Bryntirion, Cefn Glas, Coety, Llangrallo, Litchard, Hendre, Felindre, Llangewydd, Morfa, Pendre, Trelales a Merthyr Mawr.

Wardiau’r Gorllewin: ffoniwch 01656 643490.
Dyma wardiau’r gorllewin: Y Pîl, Mynydd Cynffig, Cefn Cribwr, Gogledd a De Corneli a Phorthcawl.

Wardiau’r Gogledd: ffoniwch 01656 643489.
Dyma wardiau’r gogledd: Abercynffig, Betws, Blackmill, Blaengarw, Bryncethin, Bryncoch, Caerau, Llangeinor, Maesteg, Nantymoel, Pontycymer, Cwm Ogwr, Llangynwyd, Penyfai, Sarn ac Ynysawdre.

Cynorthwyo gydag adfer yn y gymuned (ARC) yw ein gwasanaeth ni sy’n cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

E-bost: ARCInformationandAdvice@bridgend.gov.uk
Rhif Ffôn: 01656 763176

Chwilio A i Y