Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwynion am wasanaethau cymdeithasol

Cofiwch y gall y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles gymryd mwy o amser i ymateb i unrhyw ohebiaeth neu gwynion. Y rheswm am hyn yw oherwydd prinder staff ac ymateb y Cyngor i’r coronafeirws. Diolch i chi am eich dealltwriaeth.

Os ydych chi’n anfodlon ar y gwasanaeth rydych chi wedi’i gael neu os hoffech chi wneud cwyn ar ran rhywun arall, cysylltwch â’r gwasanaethau cymdeithasol.

Os oes angen cymorth arnoch i wneud cwyn, neu i gynrychioli rhywun i wneud hynny, cysylltwch â'r tîm cwynion.

Rhowch wybod ym mha iaith yr hoffech chi wneud y gŵyn.

Cyswllt

Y Tîm Cwynion, Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Ffôn: 01656 642253
Cyfeiriad: Lefel 2, Y Swyddfeydd Dinesig, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Os oes arnoch chi angen cymorth i fynegi pryder, gall “Llais – eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol” eich helpu i wneud hyn. Mae Llais yn gorff annibynnol sy’n darparu gwasanaeth Eiriolaeth rhad ac am ddim i gefnogi aelodau o’r cyhoedd sy'n dymuno codi pryder. Mae Llais hefyd yn darparu cyngor a gwybodaeth am y camau gweithredu mwyaf priodol. Gallwch gysylltu â’ch swyddfa Llais leol yn y cyfeiriad canlynol:

Llais Cwm Taf Morgannwg
Ffôn: 01443 403590
Cyfeiriad: Tŷ Antur, Parc Navigation, Abercynon, CF45 4SN.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Os oes modd, rhowch wybod i’r person rydych chi wedi bod mewn cysylltiad ag ef/hi am y gŵyn. Bydd yn ceisio ei datrys yn syth. Os nad oes modd, mae dau gam yn rhan o'r broses gwyno.

Cam un – datrysiad lleol

Byddwn ni’n cydnabod eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl iddi ddod i law. Bydd y person sy’n ymchwilio i’r gŵyn yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod ar ôl y dyddiad cydnabod. Bydd y person hwnnw’n cynnig cwrdd i drafod y gŵyn, neu ffonio i'w thrafod. Bydd y drafodaeth yn fodd i ni wneud yn siŵr ein bod wedi deall eich cwyn a’r canlyniad sydd gennych chi mewn golwg.

Pan fo’r gŵyn wedi’i datrys, byddwn ni’n ysgrifennu atoch chi o fewn pum diwrnod gwaith.

Cam dau – ymchwiliad ffurfiol

Os na fu modd datrys eich cais drwy gam un, gallwch chi ofyn am ymchwiliad i'ch cwyn gan berson sy'n annibynnol o'r Cyngor.

Os rhoddir eich cais, byddwn ni’n ysgrifennu atoch chi gyda chofnod ysgrifenedig ffurfiol o’ch cwyn o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y cais.

Cyn i’r ymchwiliad allu dechrau, gofynnir i chi gadarnhau'n bod ni wedi deall yn gywir y canlyniad sydd gennych chi mewn golwg. Y dyddiad y cytunir ar gynnwys y gŵyn fydd dyddiad dechrau’r ymchwiliad i’r gŵyn.

Dylai ymateb i’r ymchwiliad i’r gŵyn gael ei anfon atoch chi o fewn 25 diwrnod gwaith ar ôl y ‘dyddiad dechrau’. Os nad yw hynny’n bosibl, byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi i nodi'r rheswm, a byddwn ni'n rhoi gwybod i chi pryd y gallwch chi ddisgwyl ymateb. Bydd y dyddiad hwn cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad ymateb 25 diwrnod, ac o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth eich cwyn i law.

Bydd yr ymateb:

  • Yn crynhoi'ch cwyn
  • yn dweud wrthych ynghylch yr ymchwiliad
  • yn nodi bod y gŵyn wedi’i chadarnhau, wedi'i chadarnhau’n rhannol, neu nad yw wedi’i chadarnhau
  • yn esbonio’r camau a roddir ar waith, os bydd unrhyw gamau
  • yn ymddiheuro os yw'n briodol gwneud hynny
  • yn cynnwys copi o Adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol - os oes rheswm na allwn ni gynnwys hwn, caiff honno ei nodi
  • yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd i drafod yr ymateb ac Adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol
  • yn nodi sut mae cwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os nad ydych chi’n fodlon ar ganlyniad eich cwyn

 

Manylion cyswllt defnyddiol

Cyswllt

Arolygiaeth Gofal Cymru

Adeiladau’r Llywodraeth
Ffôn: 0300 7900 126
Cyfeiriad: Picton Terrace, Caerfyrddin, SA31 3BT.

Mae gan CIW ddiddordeb mewn derbyn adborth ar wasanaethau ond ni allant ymchwilio i gwynio.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Ffôn: 02920 786579
Cyfeiriad: Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Butetown, Caerdydd, CF10 5FL.

Comisiynydd Plant Cymru

Ffôn: 01792 765600
Cyfeiriad: Tŷ Oystermouth, Charter Court, Phoenix Way, Llansamlet, Abertawe, SA7 9FS.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ffôn: 01656 641150
Cyfeiriad: 1 Ffordd Yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5LJ.

Chwilio A i Y