Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Amddiffyn plant

Dywedwch am achos brys

Cysylltwch â’r heddlu ar 999

Dywedwch am blentyn sydd mewn perygl

I wneud adroddiad llawn, defnyddiwch ein ffurflen yn Atodiad F y Polisi Diogelu Corfforaethol: Amddiffyn Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Perygl’.

Polisi Diogelu Corfforaethol, a Ffurflen Cais am Gymorth.

Anfonwch ffurflenni am gymorth cynnar at:

Cyswllt

Cymorth cynnar

Anfonwch atgyfeiriadau amddiffyn plant at:

Cyswllt

Amddifyn plant

I siarad â rhywun am les plentyn, defnyddiwch y wybodaeth gyswllt isod:

Cyswllt

Tîm Dyletswydd Brys

Ffôn: 01656 642320

Tîm Dyletswydd Brys (tu allan i oriau swyddfa)

Ffôn: 01443 425012

NSPCC

Ffôn: 0808 800 5000

Proses diogelu

Mae diogelu yn golygu amddiffyn iechyd, llesiant a hawliau dynol. Mae’n galluogi pobl i fyw yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Mae diogelu plant a’i lles yn cynnwys:

  • eu diogelu rhag cael eu cam-drin, neu bethau sydd yn wael i’w hiechyd neu ddatblygiad
  • sicrhau eu bod yn tyfu gyda gofal diogel ac effeithiol

Diffiniadau o gam-drin plant

Caiff plentyn ei gam-drin pan fo rhywun yn ei niweidio, neu’n methu ag atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin o fewn teulu, sefydliad neu gymuned gan bobl maen nhw’n eu hadnabod neu, yn fwy anarferol, gan ddieithryn. Gall camdriniaeth neu esgeulustod effeithio ar bobl ifanc hyd at 18 oed, y byddai gofyn iddynt gael eu hamddiffyn drwy gynllun amddiffyn plant rhyngasiantaeth.

Gall cam-drin fod yn:

  • gorfforol fel taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi, sgaldio, boddi, mogi, neu niwed corfforol arall gan gynnwys peri salwch
  • emosiynol fel cam-drin emosiynol parhaus ar blentyn a fyddai’n peri effeithiau niweidiol parhaus ar eu datblygiad
  • esgeulustod drwy fethiant parhaus i ateb gofynion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plentyn, sy’n debygol o amharu ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn
  • rhywiol drwy orfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, boed y plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio
  • cam-fanteisio’n rhywiol ar blant lle defnyddir plant yn rhywiol er mwyn arian, grym neu statws
  • ariannol, a allai gynnwys gamddefnyddio taliad uniongyrchol plentyn, neu lwfans cynhaliaeth addysg

Darllenwch fwy am gam-drin yn Atodiad B ein Strategaeth Ddiogelu Gorfforaethol.

Bwrdd Diogelu Cwm Taf

Ymgymerir â diogelu plant gan Gwm Taf. Mae’r sefydliad hwn yn bartneriaeth rhwng y canlynol:

  • Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Heddlu De Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
  • Ymddiriedolaeth y GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
  • Interlink Rhondda Cynon Taf
  • Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
  • Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru

Chwilio A i Y