Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trefn Torri Glaswellt

Mannau Gwyrdd sy’n gyfrifol am dorri glaswellt sy’n berchen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae sefydliadau eraill fel Cynghorau Cymuned a Chymdeithasau Tai hefyd yn torri glaswellt mewn mannau cyhoeddus o fewn y fwrdeistref.

Mae Mannau Gwyrdd yn gyfrifol am dorri glaswellt:

  • lleiniau canol
  • meysydd chwarae plant (nid yw’r holl gaeau chwarae yn y Fwrdeistref yn berchen i BCBC)
  • ymylon priffyrdd
  • parciau a chaeau chwaraeon
  • mannau agored cyhoeddus

Gan fod cynghorau’n ceisio cydbwyso bioamrywiaeth gyda materion fel gofynion diogelwch y briffordd, mae gofyn i ni dorri’r glaswellt mewn lleoliadau penodol o hyd er mwyn sicrhau nad yw’n rhwystro gyrwyr rhag gweld yn glir, neu er mwyn sicrhau bod llwybrau cerdded yn parhau’n hygyrch. Rydym yn cynnal mannau agored a phriffyrdd er mwyn cefnogi blodau gwyllt ac rydym wedi cyfyngu ar ein trefniadau torri glaswellt blynyddol yn sylweddol er mwyn mynd ati’n weithredol i reoli ein tir a hyrwyddo amrywiaeth ecolegol a blodeuog lle bynnag fo modd.

Nid ydym yn torri glaswellt:

  • ar eiddo neu ystadau sy’n berchen i gyrff ar wahân i’r cyngor, er enghraifft Cynghorau Cymuned neu Gymdeithasau Tai
  • eiddo preifat

Rydym yn torri glaswellt rhwng mis Ebrill a mis Hydref.

  • Cyhoeddir dyddiadau 2024 cyn bo hir.

Chwilio A i Y