Tîm Annibyniaeth a Lles Cymunedol
Cefnogwn bobl i gynnal neu adennill annibyniaeth a lles gystal ag y gallant. Hefyd, mae ein tîm yn cefnogi pobl i ddatblygu eu gallu i reoli eu hanabledd a/neu salwch.
Pobl rydym yn gweithio gyda nhw
Rydym yn gweithio gydag oedolion 18 oed a hŷn sydd â:
- salwch cymhleth a hirdymor sy’n eu cyfyngu
- cyflyrau iechyd cronig, cynyddol neu sy’n gwella
- nam sy’n digwydd yn gyflym yn sgil trawma
- anghenion corfforol
Mae hyn hefyd yn berthnasol os oes unrhyw un o’r uchod yn cael effaith sylweddol, andwyol ar unwaith ar fywyd bob dydd.
Enghreifftiau o'r bobl a gynorthwyir:
- pobl y mae eu cyflwr wedi gwaethygu a’u gallu i fyw yn y gymuned wedi lleihau, ond y gallent adennill sgiliau allweddol
- pobl sydd angen adsefydlu amlddisgyblaeth yn y gymuned
- pobl sydd â theulu neu ofalwyr sydd angen cyngor neu gymorth ar gyfer eu rôl ofalu
- pobl y mae eu gallu'n lleihau oherwydd cyflyrau sy’n gwaethygu a bod angen strategaethau ymdopi newydd arnynt i'w cadw allan o'r ysbyty
- pobl y mae eu gallu’n lleihau oherwydd cyflyrau sy’n gwaethygu a bod angen strategaethau ymdopi newydd arnynt fel y gallant symud yn ôl i’w cartrefi
- pobl sydd angen ymyriadau fel y gallant gynnal neu fanteisio ar eu dewis o waith, dysgu a hamdden
Ethos
Defnyddiwn y model cymdeithasol o anabledd, sy’n hyrwyddo dewis, rheolaeth, urddas, cydraddoldeb, cyfle a chyfranogiad mewn ffordd gadarnhaol.
Rydym yn dîm iechyd a gofal cymdeithasol amlddisgyblaeth yn y gymuned. Gan weithio mewn ffordd integredig, rydym yn defnyddio dull holistig sy’n ystyried:
- cyflyrau meddygol
- materion iechyd
- lles
- ffactorau personol a chymdeithasol megis ynysu, hyder a bywyd
- cymunedol
- gwasanaethau gofal teuluol a ffurfiol
Amcanion
Ein nod yw:
- meithrin annibyniaeth, lleihau dibyniaeth ar ymatebion acíwt
- rhoi ymateb amlddisgyblaeth a’r unigolyn yn ganolog iddo
- rhoi’r ymateb priodol a chydnabod bod anghenion pobl yn newid
Gwnaiff ein gwasanaeth hyn drwy:
- ymgysylltu â theuluoedd a gofalwyr i’w helpu wrth eu rolau
- galluogi pobl i fod yn bartneriaid mewn penderfyniadau ar eu hiechyd a’u lles
- gweithio gyda phartneriaid allweddol yn y gymuned a’r trydydd sector i sicrhau dull unigolyn-ganolog gan hefyd wneud y mwyaf o’r holl adnoddau sydd ar gael
Mae’r dull hwn yn sicrhau ffordd integredig, fwy cydlynol o weithio. Hefyd, mae’n adeiladu ar wasanaethau craidd sydd eisoes yn bodoli fel gofal sylfaenol, gofal cartref a nyrsio ardal.
Ein gwasanaeth
Galluogwn bobl, teuluoedd a gofalwyr i fyw cystal ag y gallant â’u cyflyrau drwy:
- ystyried y materion a’r problemau sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u lles bob dydd, gan ystyried y Fframwaith Canlyniadau Lles
- deall eu profiadau
- codi ymwybyddiaeth pobl o’u cyflwr
- datblygu sgiliau ymarferol pobl i reoli effaith eu cyflwr ar eu bywyd bob dydd
- annog hunanhyder a’r gallu i hunanreoli drwy gefnogi a rhoi mynediad i adnoddau a chyngor
Cyfansoddiad y tîm
- Rheolwr y Tîm (gweithiwr proffesiynol cofrestredig)
- Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol
- Gweithwyr Cymdeithasol Anableddau
- Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol Anableddau
- Therapydd Galwedigaethol
- Ffisiotherapydd
- Therapydd Iaith a Lleferydd
- Nyrs Arbenigol
- Cydlynwyr Byw’n Annibynnol