Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Toiledau cyhoeddus

Roedd gwybodaeth am doiledau sydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w gweld yn y Strategaeth Toiledau. Cymeradwywyd y Strategaeth hon gan Bwyllgor y Cabinet ym mis Mai 2019.

Cyfleusterau cyhoeddus sydd ar agor i’r cyhoedd
Enw Lleoliad Oriau agor
Yr Ancient Briton 1 Clevis Hill, Porthcawl, CF36 5NT Ar gau dros dro
Canolfan Gymunedol Awel Y Môr Teras Hutchwns, Porthcawl, CF36 5TP Ar gau dros dro
Canolfan Bywyd Betws Heol Betws, Betws, CF32 8TB Ar gau dros dro
Neuadd y Gweithwyr Blaengarw Blaengarw, CF32 8AW Ar gau dros dro
Gorsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1LJ Llun i Sul: 10am i 4pm
Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH Ar gau dros dro
Gorsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr Bryn yr Orsaf, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1BN Ar gau dros dro
Parc Gwledig Bryngarw Brynmenyn, CF32 8UU Llun i Sul: 9:30am i 5:30pm
Y Swyddfeydd Dinesig, Pen-y-bont ar Ogwr Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB Ar gau dros dro
Canolfan Bywyd Cwm Garw Hen Iard yr Orsaf, Pontycymer, CF32 8ES Ar gau dros dro
Pafiliwn y Grand Yr Esplanade, Porthcawl, CF36 3YW Ar gau dros dro
Toiledau Parc Griffin Heol Newydd, Porthcawl, CF36 5DN Ar gau dros dro
Stryd John Stryd John, Porthcawl, CF36 3AJ Ar gau dros dro
Tafarn y Jolly Sailor 1 Stryd yr Eglwys, Porthcawl, CF36 5PD Ar gau dros dro
Gwarchodfa Natur Cynffig Cynffig, CF33 4PT Ar gau dros dro
Canolfan Chwaraeon Maesteg Hen Safle Forge, Nant-y-Crynwydd, Maesteg, CF34 9EB Ar gau dros dro
Pwll Nofio Maesteg Stryd Alfred, Maesteg, CF34 9YW Ar gau dros dro
Gorsaf Fysiau Maesteg Maesteg, CF34 9BY Ar gau dros dro
Toiled Symudol, Parc Manwerthu Llynfi, Maesteg   Ar gau dros dro
Canolfan Bywyd Cwm Ogwr Heol Aber, Cwm Ogwr, CF32 7AJ Ar gau dros dro
Llyfrgell Pencoed 54 Heol Pen-y-bont, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5RA Ar gau dros dro
Cyfleusterau Cyhoeddus Pencoed Heol Pen-y-bont, Pencoed, CF35 6LY Ar gau dros dro
Pwll Nofio Pencoed Heol Felindre, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5PB Ar gau dros dro
Toiledau Rest Bay Maes Parcio Rest Bay, Porthcawl, CF36 3UW Llun i Sul: 9am i 5pm
Gwasanaethau Parc Sarn Parc Sarn, Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 9SY Ar gau dros dro
Pwll Nofio Ynysawdre Heol-Yr-Ysgol, Tondu, CF32 9ET Ar gau dros dro

Map toiledau cenedlaethol

Mae lleoliad y toiledau hyn i’w weld ar fap toiledau LLe Llywodraeth Cymru.

Cynllun cysur

Mae gennym gynllun cysur ar waith sy’n cynnig grant i fusnesau sy’n caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio eu toiledau, heb orfod prynu unrhyw nwyddau. Mae’r busnesau canlynol yn cymryd rhan yn y cynllun:

  • Gwesty’r Pier Hotel, Esplanade, Porthcawl
  • Jolly Sailor, Notais
  • Ancient Briton, Notais

Cynllun Allwedd Cenedlaethol

Mae’r Cynllun Allwedd Cenedlaethol (NKS) yn cynnig mynediad annibynnol i bobl anabl i doiledau cyhoeddus dan glo ym mhob cwr o’r wlad. Mae toiledau gyda chloeon RADAR ar gael mewn:

  • canolfannau siopa
  • tafarndai
  • caffis
  • siopau adrannol
  • gorsafoedd bysiau a threnau

 

Gellir prynu allweddi drwy’r cynllun NKS. Efallai y bydd angen i chi brofi eich anabledd.

Toiledau Changing Places

Datblygwyd y system map toiledau Lleoedd Newid gan Gymdeithas Toiledau Prydain mewn partneriaeth ag elusennau Mencap a Pamis. Mae’r system hon yn nodi cyfleusterau toiled mwy ar gyfer unigolion sy’n dioddef o Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog (ADDLl) a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r cyfleusterau hyn ar gael yn y mannau canlynol:

  • Canolfan Bywyd Pen-y-bont, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorsaf Draffordd Welcome Break Parc Sarn

Gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Lleoedd Newid. Gellir dod o hyd i’r toiledau hyn ar y Map Toiledau.

Chwilio A i Y