Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trawsgrifiad fideo Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia

Mae gwasanaethau Cam-drin Domestig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn newid
Mae ein Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia newydd yma i gefnogi unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan Gam-drin Domestig.
Mae hyn os yw hynny'n uniongyrchol neu os ydych chi’n poeni am berthynas neu ffrind.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cam-drin domestig cyfrinachol i bobl o bob cefndir.

Mae ein tîm cyfeillgar a phrofiadol yma i gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i chi:
• cyngor a chyfarwyddyd
• lloches
• asesiad risg fel bod arbenigwyr yn gallu teilwra cefnogaeth i chi a’ch teulu
• cynllunio diogelwch
Sut i gael cefnogaeth:
Ffoniwch 01656 815919 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5.00pm neu e-bostiwch assia@bridgend.gov.uk

Gallwch hefyd lenwi ffurflen gyswllt ar ein gwefan a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi.


Mewn argyfwng dylech gysylltu â'r heddlu ar 999 neu 101 am ddim mewn argyfwng.

Am gymorth 24 awr gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, mae gan bawb hawl i fod yn ddiogel a byw heb ofn.

Chwilio A i Y