Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Beth yw trawsgrifiad fideo cam-drin domestig

Ydych chi neu rywun rydych chi'n poeni amdano’n profi cam-drin domestig?

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac rydym yma i'ch cefnogi.


Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un, waeth beth fo'i oedran, cefndir, rhyw, crefydd, rhywioldeb neu ethnigrwydd.


Beth yw cam-drin domestig?

Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf ond mae bob amser yn ymwneud â chael pŵer a rheolaeth drosoch chi.


Mathau o gam-drin domestig:
Yn cynnwys galw enwau, bygythiadau a rheoli, eich beio chi am y cam-drin neu eich 'dibwyllo'.


Rheoli eich mynediad at arian neu adnoddau – cymryd neu reoli eich cyflog, eich atal rhag gweithio, neu eich rhoi mewn dyled.


Does dim rhaid iddo fod yn gorfforol - eich perswadio neu eich rheoli i wneud pethau nad ydych eisiau eu gwneud.


Pan fydd yr unigolyn sy’n cam-drin yn defnyddio patrwm o ymddygiad dros amser i sicrhau pŵer a rheolaeth. Mae'n drosedd.
Nid dim ond taro – eich atal yn gorfforol mewn rhyw ffordd neu daflu gwrthrychau.
Anfon negeseuon testun sy’n cam-drin, mynnu mynediad i'ch dyfeisiau, eich tracio gyda meddalwedd ysbïo, neu rannu delweddau ohonoch ar-lein.
Nid yw cam-drin domestig byth yn fai ar y sawl sy'n ei brofi.

Nid oes rhaid i chi aros nes bod argyfwng yn digwydd cyn gofyn am help.
Mae gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia yma i gefnogi unrhyw un y mae Cam-drin Domestig yn effeithio arno ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae hyn os yw hynny'n uniongyrchol neu os ydych chi’n poeni am berthynas neu ffrind.

Rydym yn gweithredu siop un stop gyfrinachol ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig i bobl o bob cefndir.
Sut i gael cefnogaeth:
Ffoniwch 01656 815919 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5.00pm neu e-bostiwch assia@bridgend.gov.uk

Gallwch hefyd lenwi ffurflen gyswllt ar ein gwefan a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi.

Mewn argyfwng dylech gysylltu â'r heddlu ar 999 neu 101 am ddim mewn argyfwng.

Am gymorth 24 awr gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, mae gan bawb hawl i fod yn ddiogel a byw heb ofn.

Chwilio A i Y