Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trefnu gwasanaeth amlosgiad

Y cyfarwyddwr angladdau yr ydych wedi’i benodi fydd yn trefnu gwasanaeth amlosgiad. Gallent archebu i ddechrau dros y ffôn, ond ni fydd hyn yn cael ei gadarnhau nes bydd y ffurflen gais gychwynnol am amlosgiad yn cael ei derbyn yn swyddfa'r amlosgfa. Rhaid i swyddfa'r amlosgfa dderbyn cyfarwyddiadau amlosgi cyn 10am ar y diwrnod gwaith cyn y gwasanaeth. Cyflwynwch unrhyw newidiadau yn ysgrifenedig ar y ffurflen wreiddiol, neu ni fyddwn yn gallu eu derbyn.

Rhaid i’n canolwr meddygol archwilio a chymeradwyo’r dystysgrif marwolaeth, y ffurflenni meddygol a’r ffurflenni cais am amlosgiad. Os yw’r ymgeisydd yn dymuno gweld y dystysgrif feddygol, dylid cyflwyno’r dogfennau erbyn 10am tri diwrnod gwaith cyn dyddiad y gwasanaeth.

Rhowch wybod i Reolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a'r Cofrestrydd os yw'r person sydd wedi marw wedi marw oherwydd clefyd heintus. Mae rhestr ddiweddar o glefydau heintus ar gael gan y Gymdeithas Feddygol Brydeinig.

Amseroedd gwasanaeth

Mae gan yr Amlosgfa ddwy gapel, Capel Crallo a Chapel Coety. Mae Capel Crallo yn fwy gyda lle i 140 o bobl ac ystafell sefyll ychwanegol. Mae Capel Coety yn llai ac yn anenwadol. Mae lle ar gyfer 70 o bobl yno.

Gall gwasanaethau amlosgi ddigwydd:

  • Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 3.45pm
  • Dydd Gwener: 9am tan 3.15pm
  • Dydd Sadwrn: 9.30am tan 10.30am
  • Dydd Sul a gwyliau cyhoeddus: ar gau

Mae’r gwasanaethau amlosgi’n para tua 30 munud, sy’n cynnwys 10 munud i’r galarwyr ddod i mewn a gadael, ac ugain munud ar gyfer y gwasanaeth. Os rydych yn meddwl y bydd angen mwy o amser arnoch, gofynnwch am hyn wrth archebu. Gallwn ehangu hyn i slotiau hanner awr.

Opsiynau gwasanaeth

Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran y gwasanaeth amlosgi. Gall fod yn ffurfiol, yn anffurfiol, yn grefyddol neu’n anghrefyddol, ond cofiwch ni all fod yn dramgwyddus.

Mae croeso i deuluoedd ddarparu eu taflenni gwasanaeth eu hun y bydd y cyfarwyddwyr angladdau'n eu dosbarthu ger mynediad y capel.

Bydd gweinyddwr y gwasanaeth yn gyfrifol am weithredu switsh fydd yn dechrau gollwng neu orchuddio’r arch, yn unol â dewis y teulu. Pan fydd y galarwyr wedi gadael, bydd yr arch yn cael ei symud a’i roi yn y siambr amlosgi, yn union fel y’i derbyniwyd.

Bydd yr allanfa i'r cwrt blodau yn cael ei hagor ar ddiwedd y gwasanaeth. Dylai’r holl alarwyr adael drwy’r drysau hyn i osgoi tarfu ar y gwasanaeth canlynol. Mae’n rhaid i’r cyfarwyddwyr angladdau sicrhau bod galarwyr yn gadael erbyn diwedd y slot penodol fel y gall y gwasanaeth nesaf ddechrau'n brydlon.

Os yw grŵp yr angladd yn rhedeg yn ddigon hwyr i darfu ar wasanaethau eraill, efallai y bydd y gwasanaeth yn cael ei aildrefnu ar gyfer amser arall ar yr un diwrnod. Bydd hyn yn cael ei drafod â'r holl bartïon.

Nodwch unrhyw ofynion arbennig cyn diwrnod yr angladd, a byddwn yn falch o drafod y rhain gyda chi.

Cerddoriaeth ar gyfer gwasanaethau amlosgi

Byddwn yn darparu organ ac organydd i chwarae emynau ac unrhyw gerddoriaeth organ ychwanegol. Gallent hefyd chwarae cerddoriaeth ar yr organ pan fyddwch yn mynd i mewn ac yn gadael y gwasanaeth os na wnaed cais am gerddoriaeth wedi'i recordio. Bydd angen i’r cyfarwyddwr angladdau wneud cais am gerddoriaeth wedi’i recordio o leiaf ddau ddiwrnod gwaith ymlaen llaw, a chyflwyno’r ffurflen gais am gerddoriaeth erbyn 10am ar y diwrnod cais cyn y gwasanaeth.

Mae’n rhaid i’r gerddoriaeth fod ar gael yn fasnachol, gan y byddwn yn ei archebu drwy ein cyflenwr erbyn y gwasanaeth. Ni allwn dderbyn cryno ddisgiau ac mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod chwarae’r gerddoriaeth os ydyn yn credu ei fod yn amhriodol.

Rydym yn gallu recordio a gwe-ddarlledu gwasanaethau. Os oes gennych ddiddordeb, trafodwch gyda’ch cyfarwyddwr angladdau a gallent wneud cais ar ffurflen gais gerddoriaeth yr Amlosgfa.

Cwrt blodau

Bydd y cwrt blodau a’r ardal gyfagos yn arddangos unrhyw flodau ger enw’r person sydd wedi marw. Gellid gosod plethdorchau, tuswau neu flodau ger y plac enw. Yn anffodus, nid oes digon o le i gadw’r rhain am gyfnodau hir, felly bydd y blodau'n cael eu tynnu oddi yno. Mae arwyddion yn y cwrt blodau fydd yn dweud wrthoch pryd y bydd hyn yn digwydd. Os ydych am ymweld neu dynnu rhai o’r teyrngedau yn ystod y cyfnod hwnnw, cysylltwch â'r Amlosgfa.

Ni ddylech dynnu teyrngedau o’r cwrt blodau a’u rhoi yn rhywle arall ar y tiroedd, gan gynnwys plotiau coffáu a’r ardd rosod. Bydd angen i ni dynnu’r rhain.

 

Cyswllt

Amlosgfa Llangrallo

Ffôn: 01656 656605
Cyfeiriad: Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 6AB.

Chwilio A i Y