Ymgynghoriad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol
Rydym yn ymgynghori ar ddwy ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol:
- Cyfleusterau Hamdden a Datblygiadau Tai Newydd
- Cyfleusterau Addysg a Datblygiadau Preswyl.
Paratowyd y dogfennau hyn er mwyn rhoi rhagor o arweiniad i ddatblygwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar bolisïau amrywiol sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Datblygu Lleol y Cyngor.
Canllawiau cynllunio atodol cyfleusterau hamdden a datblygiadau tai newydd
Mae darparu Cyfleusterau Hamdden drwy’r system gynllunio yn un o nodau allweddol Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Prif nod y Canllawiau Cynllunio Atodol yw rhoi cyngor i ddatblygwyr ar yr amgylchiadau pan fyddai’r Cyngor yn disgwyl y byddai man hamdden yn cael ei ddarparu ar ddatblygiadau preswyl arfaethedig.
Canllawiau cynllunio atodol cyfleusterau addysg a datblygiadau preswyl
Er budd rhoi cyfle i blant y Fwrdeistref Sirol lwyddo a ffynnu, mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod cyfleusterau addysg o ansawdd da ar gael sy’n creu’r cyfle i ddysgu. Prif nod y Canllawiau Cynllunio Atodol yw rhoi cyngor i ddatblygwyr ar yr amgylchiadau pan allai’r Cyngor chwilio am gyfraniadau tuag at ddarparu cyfleusterau addysg ar gyfer datblygiadau preswyl newydd.
Dogfen yr ymgynghoriad
Canllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau Hamdden a Datblygiadau Tai Newydd
Canllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau Addysg a Datblygiadau Preswyl
Sylwadau ynglŷn â’r canllawiau cynllunio atodol drafft
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft yw 5pm ar Dydd Gwener Ebrill 3 2020. Ni dderbynnir unrhyw sylwadau a ddaw i law ar ôl hynny.
Ymateb i’r ymgynghoriad
Rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn cael eich barn ar y Canllawiau Cynllunio Atodol cyn iddynt fod yn derfynol a chael eu cyhoeddi. Gallwch fynd at y dogfennau a’r ffurflenni sylwadau ar-lein isod ac maent ar gael i chi eu gweld hefyd yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr.
Lawrlwytho ffurflen sylwadau'r Canllaw Cynllunio Atodol.
Anfonwch unrhyw ffurflenni sylwadau wedi'u llenwi i'r manylion cyswllt sydd wedi'u nodi isod.
Cyswllt
Camau nesaf
Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben adroddir pob ymateb/sylw i’r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau ynghyd ag ymateb gan swyddogion y Cyngor yn argymell unrhyw newidiadau arfaethedig yr ystyrir eu bod yn briodol yn sgil y sylwadau a ddaeth i law.
Yna, bydd y Cyngor yn mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol a byddant yn ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar geisiadau datblygu perthnasol.