Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymlusgiaid ac amffibiaid

Cyngor datblygu

Mae amffibiaid ac ymlusgiaid yn ddau grŵp hynafol o anifeiliaid. Cyfeirir at y ddau grŵp o anifeiliaid fel herpetoffawna neu herptilau.

Mae chwe rhywogaeth o amffibiaid brodorol ac mae pedair o’r rhain yn gynhenid i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y rhain yw:

  • broga (rana temporaria)
  • llyffant dafadennog (bufo bufo)
  • madfall ddŵr neu fadfall ddŵr gyffredin (lissotriton vulgaris)
  • madfall ddŵr balfog (lissotriton helveticus)
  • madfall ddŵr gribog neu ddafadennog (triturus cristatus)

Am wybodaeth am fadfallod dŵr cribog, gweler hefyd ‘Daflen Gyfarwyddyd B5: Madfallod Dŵr Cribog a Datblygiadau’.

Mae brogaod, llyffantod a madfallod dŵr yn byw mewn isdyfiant yn aml ac yn darparu gwasanaeth rheoli plâu am ddim. Dyma pam mae rhandiroedd yn elwa’n fawr o fod â phwll bywyd gwyllt.

O blith y chwe rhywogaeth frodorol o ymlusgiaid yn y DU, mae pedair yn bresennol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y rhain yw:

  • neidr ddefaid (anguis fragilis)
  • neidr y gwair (natrix natrix)
  • gwiber neu wiber Ewropeaidd (vipera berus)
  • madfall neu fadfall fywhiliog (zootoca vivipara)

Mae herpetoffawna yn byw mewn cynefinoedd amrywiol yn Ne a Gorllewin Cymru. Y ffactorau pwysicaf o ran cynefin addas ar gyfer amffibiaid yw mynediad i ddŵr ar gyfer magu a lloches ddiogel ar dir. Mae ymlusgiaid angen ardaloedd sy’n cael llawer o haul a strwythur cymhleth o uchder amrywiol.

Mae herpetoffawna yn wynebu pwysau cynyddol ledled Prydain am resymau amrywiol, fel colli cynefinoedd, ynysu poblogaethau ac ymlediad pobl.

Dyma gynefinoedd nodweddiadol i herpetoffawna:

  • pyllau a’u hamgylchedd
  • rhostir
  • llennyrch ac ymylon coetir
  • cloddiau o fieri ac eithin
  • llwybrau arfordirol a thwyni tywod

Gellir dod o hyd i ymlusgiaid mewn cynefinoedd amrywiol, yng nghefn gwlad ac mewn rhai ardaloedd trefol. Mae cynefinoedd nodweddiadol i ymlusgiaid yn cynnwys y canlynol:

  • safleoedd tir llwyd
  • rhandiroedd
  • tomenni compost
  • cloddiau rheilffyrdd/ffyrdd
  • glannau yn wynebu tua’r de
  • glaswelltir sialc
  • glaswelltir garw
  • ardaloedd lle ceir strwythur amrywiol fel glaswelltir gydag ymylon o lwyni

Bydd nadroedd y gwair yn ffafrio cynefin ger ardaloedd gwlyb a phyllau. Mae safleoedd coetir yn ardaloedd gaeafgysgu pwysig i ymlusgiaid.

Mae Adrannau 9 (1) a (5) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981 (fel y’i diwygiwyd) yn gwarchod rhywogaethau o ymlusgiaid fel nadroedd y gwair, gwiberod, nadroedd defaid a madfallod. Mae hyn yn golygu ei bod yn drosedd lladd, anafu neu gymryd aelod o rywogaeth o ymlusgiaid yn fwriadol neu’n ddiofal.

Mae amffibiaid eang sy’n cynnwys y fadfall ddŵr balfog, y fadfall ddŵr gyffredin, y broga a’r llyffant dafadennog wedi’u rhestru yn Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Maent wedi’u gwarchod (adran 9[5]) ond dim ond o ran masnachu fel gyda gwahardd gwerthu neu hysbysebu ar gyfer gwerthu.

Madfallod dŵr cribog sydd â’r lefel uchaf o warchodaeth. Mae gan yr unigolion, eu safleoedd magu a’u mannau cysgodol warchodaeth statudol lawn o dan y canlynol:

Mae hyn yn golygu ei bod yn drosedd lladd, anafu, cymryd neu darfu ar unrhyw fadfall ddŵr gribog, neu ddifrodi neu darfu ar unrhyw safle magu neu lecyn cysgodol.

Y gosb fwyaf am beidio â chydymffurfio â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) am bob trosedd yw:

  • dirwy o £5000 a/neu chwe mis o garchar yn y Llys Ynadon
  • dirwy o £5000 a dwy flynedd o garchar yn Llys y Goron

Efallai y cymerir unrhyw offer a ddefnyddir i gyflawni trosedd. Gall cwmnïau ac unigolion fod yn atebol. Hefyd mae cosbau ychwanegol am drosedd yn erbyn y neidr lefn, madfall y tywod a llyffant y twyni, yn debyg i’r fadfall ddŵr gribog. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn bresennol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Nodyn cyfarwyddyd un:

Gall gweithgareddau fel clirio safleoedd, gwaith daear neu weithrediadau adeiladu ladd neu anafu ymlusgiaid. Gallai cynnal gweithgareddau o’r fath heb liniaru priodol gael ei weld yn gyfreithiol fel lladd neu anafu bwriadol neu ddiofal. Felly, dylai ymgeiswyr gael cyngor gan ecolegydd cymwys addas cyn i unrhyw waith ddechrau, a lliniaru yn unol â hynny.

Dylid ystyried asesiad o ymlusgiaid mewn cam cynnar ar unrhyw safleoedd sy’n gartref iddynt.

Gall presenoldeb ymlusgiaid effeithio ar raglennu gwaith a chwmpas datblygiadau. Gall ystyriaeth gynnar ddatrys y rhan fwyaf o wrthdaro posib ac osgoi oedi drud. Mae’n ddoeth gwneud hyn cyn prynu safle hyd yn oed, oherwydd gallai presenoldeb ymlusgiaid effeithio ar y cwmpas ar gyfer datblygiad. Dylai arolwg maes gadarnhau a oes ymlusgiaid yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol. Dylai asesu pa mor bwysig yw safle i ymlusgiaid.

Os oes gwybodaeth leol am bresenoldeb ‘ymlusgiaid’ ac os oes gan safle gynefin i ymlusgiaid, rhaid i chi roi cynlluniau arolygu a lliniaru i ni cyn i ni benderfynu am geisiadau cynllunio. Gall amodau cynllunio neu gytundebau eraill gael eu gorfodi ar ganiatadau er mwyn sicrhau cadwraeth effeithiol ymlusgiaid.

Weithiau mae angen asesiadau amgylcheddol ffurfiol cyn ystyried caniatâd cynllunio. Mae hyn yn bennaf ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr.

Os nad oes angen arolygon

Fodd bynnag, efallai na fydd angen arolwg os yw eich cynghorwyr ecolegol yn sicr mai ychydig o effaith gaiff y datblygiad yn seiliedig ar yr wybodaeth bresennol ac asesiad o’r cynefin. Hefyd, rhaid iddynt fod yn fodlon na fyddai rhagor o wybodaeth o arolwg yn newid y farn hon nac yn addasu cynigion lliniaru yn sylweddol.

Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, efallai y bydd angen asesiadau llai ffurfiol i benderfynu ar yr effaith ar ymlusgiaid. Os oes angen lliniaru a gwneud iawn, dylech gyflwyno’r cynlluniau hyn gyda’r cais. Bydd hyn yn galluogi gwerthusiad llawn o effeithiau real datblygiad a mesurau gwarchod ymlusgiaid, a gallant hefyd helpu gyda chyflymu’r broses benderfynu.

Gellir cael rhagor o gyngor yn ‘Natural England: Reptiles: Survey and Mitigation for Development Projects’.

Cyngor ar gyfer cynlluniau

Gellir cynnwys nodweddion cyfeillgar i ymlusgiaid yng nghynllun y dirwedd. Drwy eu cyfuno â lliniaru, gall y rhain osgoi effeithio ar amffibiaid ac ymlusgiaid a sicrhau budd.

Pan mae gwaith yn dechrau

Os dyfernir caniatâd cynllunio, mae’r gyfraith sy’n gwarchod ymlusgiaid yn berthnasol o hyd, hyd yn oed os nad oes amodau cysylltiedig ag ymlusgiaid. Oherwydd hyn, rhaid i ddatblygwyr wneud pob ymdrech resymol i ddiogelu ymlusgiaid. Efallai na fydd rhai gweithgareddau niweidiol fel ymchwiliadau archeolegol angen caniatâd cynllunio, ond gallant fod yn anghyfreithlon hefyd heb ofal priodol.

Yr angen am gynnal arolygon ar amffibiaid

Dylid ystyried asesiad o amffibiaid mewn cam cynnar ar unrhyw safle sy’n gartref iddynt o bosib.

Bydd presenoldeb madfallod dŵr cribog yn effeithio ar raglennu gwaith a chwmpas datblygiadau.

Bydd angen adolygu ystyriaethau eraill hefyd. Er enghraifft, mae’r llyffant dafadennog yn:

Mae ein Polisi Cynllun Datblygu Lleol ENV6 ar gadwraeth natur yn disgwyl i ddatblygwyr osgoi neu oresgyn niwed i asedau cadwraeth natur. Mae hyn yn cynnwys bywyd gwyllt sy’n byw ar y safle efallai, neu os oes modd dangos bod gan fywyd gwyllt gynefinoedd ar y safle ar sail fudol.

Gwella a gwarchod

Fel rhan o’r seilwaith gwyrdd, dylid datgan, gwarchod a gwella cynefinoedd os yw hynny’n bosib. Ymhlith yr esiamplau mae cynnwys pyllau presennol a byffer yng nghynllun y datblygiad neu drwy sicrhau lliniaru priodol os collir pyllau oherwydd datblygiadau. Gellir gwneud gwelliannau drwy hybu creu pyllau mewn datblygiadau newydd priodol, a sicrhau bod ffyrdd sy’n cael eu hadeiladu ar draws y llwybrau mudo hysbys yn cynnwys twnelau bywyd gwyllt.

Partneriaid defnyddiol

Gofynnwch i Ganolfan Cofnodion Biolegol De Ddwyrain Cymru chwilio am amffibiaid neu ymlusgiaid fel sail i’r ymdrech arolygu. Hefyd, gall sefydliadau perthnasol eraill fod â data defnyddiol, gan gynnwys CNC a grwpiau amffibiaid ac ymlusgiaid lleol.

Os yw’r datblygiad arfaethedig o fewn wyth metr i ddyfrffordd, cysylltwch â CNC.

Nodyn cyfarwyddyd dau:

Dim ond gwaith arolygu/asesu sydd wedi cael ei wneud gan berson cymwys, yn unol â’r canllawiau arolygu cydnabyddedig, fyddwn ni’n ei dderbyn.

Pryd i gynnal arolwg

Mae gweithgarwch ymlusgiaid yn hynod dymhorol ac yn dibynnu ar y tywydd. Mae hyn yn golygu bod cyfleoedd cyfyngedig i wneud gwaith arolygu a lliniaru, y mae’n rhaid i ddatblygwyr ganiatáu ar eu cyfer wrth ddatblygu rhaglen.

Misoedd Ebrill, Mai a Medi yw’r amseroedd mwyaf effeithiol i arolygu ymlusgiaid. Peidiwch â chynnal arolygon yn ystod cyfnodau segur, sydd rhwng misoedd Tachwedd a Chwefror fel rheol, yn gynwysedig, ac weithiau yn ystod tywydd poeth a sych iawn ym misoedd Gorffennaf ac Awst. Gall yr amseroedd hyn amrywio oherwydd patrymau tywydd lleol neu wahaniaethau mewn rhywogaethau.

Bydd asesiadau safle gan berson cymwys am fadfallod, nadroedd defaid, gwiberod a nadroedd y gwair yn rhoi syniad da o debygolrwydd presenoldeb ymlusgiaid. Bydd hefyd yn awgrymu eu heffaith ar weithgareddau arfaethedig. Gall arolygwyr profiadol gynnal asesiadau safle o addasrwydd cynefinoedd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Asesiadau poblogaeth

Os credir ei fod yn angenrheidiol, dylid cynnal arolwg am bresenoldeb ymlusgiaid neu absenoldeb tebygol ymlusgiaid gan gadw at ganllawiau cymeradwy. Os cadarnheir eu presenoldeb, rhaid cynnal asesiad poblogaeth i lywio’r strategaeth lliniaru.

Efallai na fydd angen arolygon na mesurau lliniaru a gwneud iawn eraill ar gyfer ymlusgiaid a rhywogaethau eraill dan warchodaeth o dan amgylchiadau penodol. Byddai hyn yn gofyn am gynnwys a gwella asedau seilwaith gwyrdd yn y cynllun, sy’n integredig yn yr amgylchedd, yn ogystal â mesurau osgoi. Rydym yn disgwyl budd i fioamrywiaeth ym mhob cynllun.

Yn ogystal ag effeithiau uniongyrchol ar ymlusgiaid a’u safleoedd magu neu orffwys, gall gweithgareddau datblygu achosi effeithiau anuniongyrchol. Dylid ystyried y rhain yn llawn yn y cam ymgeisio.

Un esiampl o effaith anuniongyrchol yw effaith ar gysylltedd cynefinoedd. Gall colli neu dorri cyswllt rhwng cynefinoedd allweddol, fel gwrychoedd, coetiroedd, lleiniau cysgodi, glaswelltir garw, rhostir a llwyni gael effaith anuniongyrchol ar boblogaeth/au o ymlusgiaid. Gallai gyfyngu ar eu mynediad i rannau eraill o’u cynefin, hyd yn oed os cedwir y cynefin hwnnw.

Gallai’r datblygiad dorri safleoedd haf a gaeafgysgu i ymlusgiaid. Gan fod llawer o’r ymdrech arolygu ar gyfer ymlusgiaid yn canolbwyntio ar safleoedd haf, mae’n bwysig ystyried safleoedd gaeafgysgu posib hefyd.

Hefyd, ni ddylid ystyried y datblygiad yn ynysig. Dylai sicrhau mynediad at yr holl adnoddau gofynnol, fel tiroedd bwydo dros yr haf neu ardaloedd gaeafgysgu, a all fod oddi ar y safle, ac o faint sylweddol. Gallai datblygu safle o’r fath greu rhwystr sy’n atal symudiad.

Os yw arolygon yn dangos y bydd cynigion datblygu’n effeithio ar ymlusgiaid, bydd angen datganiad dull gyda’r cais cynllunio cyn gellir ei gofrestru. Os credir bod y mesurau osgoi, lliniaru neu wneud iawn arfaethedig yn anfoddhaol, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod y cais cynllunio.

Ac eithrio madfallod dŵr cribog, nid oes angen trwyddedau ar gyfer dal neu darfu ar wiberod, nadroedd y gwair, nadroedd defaid, madfallod nac amffibiaid. Er hynny, mae’r ymlusgiaid eu hunain yn cael eu gwarchod o hyd. Felly mae risg i chi gyflawni troseddau gan fod difrodi cynefinoedd yn difrodi ymlusgiaid. Rydym yn disgwyl i’r holl liniaru gynnal safonau uchel.

Nodyn cyfarwyddyd pedwar:

Efallai y bydd cynnwys mesurau osgoi mewn cynigion datblygu’n cael gwared ar yr angen am waith arolygu manwl. Byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol gan CNC wrth benderfynu ar achosion lle mae hyn yn berthnasol.

Mesurau osgoi yw’r rhai y gellir eu gweithredu’n rhesymol er mwyn osgoi trosedd. O’r herwydd, gall Mesurau Osgoi Rhesymol osgoi’r gofyniad am drwydded yn aml. Mesurau Osgoi Rhesymol yw’r dull a ffafrir wrth ystyried cynllun, a gallant gynnwys mesurau sy’n amrywio o:

  • adolygu cynllun y safle i osgoi colli nodwedd bwysig
  • gwneud gwaith pan mae’n llai tebygol o achosi tarfu
  • diwygio dulliau gweithio i leihau effeithiau i lefelau derbyniol

Os yw Mesurau Osgoi Rhesymol yn ymarferol mewn cynllun, rhaid i ddatganiad dull fanylu arnynt a dylech ei anfon atom ar gyfer cymeradwyaeth. Bydd gweithredu’r mesurau yn y datganiad dull yn debygol o fod yn amod ar y caniatâd cynllunio o ganlyniad.

Os bydd y Mesurau Osgoi Rhesymol yn osgoi pob effaith ddisgwyliedig ar fadfallod dŵr cribog a’u cynefinoedd i lefelau derbyniol, nid yw’n debygol y bydd angen trwydded. Gall hyn yn aml osgoi neu leihau’r oedi gyda dechrau datblygiad, ac mae’n lleihau’r costau yn aml hefyd.

Felly mae’n bwysig creu sianelau cyfathrebu rhwng eich penseiri, trwedd neu fel arall, a’ch ecolegydd cymwys fel rhan o’r cynllun meistr. Bydd hyn o help i lywio’r gwaith o gynllunio a rhaglennu mewn cam digon cynnar i weld a yw Mesurau Osgoi Rhesymol yn ddull addas o weithredu.

Mae adnabod cynnar a chynnwys asedau seilwaith gwyrdd mewn datblygiad yn helpu i leihau effaith datblygu cynllun. Mae’n darparu cyfleoedd ar gyfer Mesurau Osgoi Rhesymol ac yn osgoi cynlluniau lliniaru a gwneud iawn cymhlethach a fydd angen trwydded efallai.

Dim ond pan maent yn weithredol y gellir rheoli ymlusgiaid, sef rhwng misoedd Ebrill a Hydref. Yn ystod y gwanwyn, yr haf a dechrau’r hydref, dylid torri glaswelltau fesul cam drwy’r safle at lochesi sydd wedi’u gadael ar y safle neu gerllaw iddo. Gall hyn arwain at wrthdaro drwy glirio safle pan mae adar yn nythu. I osgoi gwrthdaro, gall y datganiad dull canlynol ar gyfer clirio safle helpu i osgoi niwed i’r rhywogaethau dan warchodaeth hyn.

Datganiad Dull ar gyfer Clirio Safle

Gellir cael gwared ar gyfleoedd nythu cyn canol mis Chwefror drwy dorri’r glaswelltau a’r llwyni ynysig i gyd i uchder o ddim mwy na 150mm. Bydd hyn yn gadael llwyni mwy sylweddol heb eu cyffwrdd, oherwydd efallai bod ymlusgiaid yn gaeafgysgu ar y tir o amgylch. Dylid datgan safleoedd gaeafgysgu posib a dylai ecolegydd cymwys eu marcio cyn i’r gwaith ddechrau.

Yn ystod y gwanwyn, yr haf a dechrau’r hydref yn y flwyddyn ganlynol, dylid clirio’r glaswelltau fel bod ymlusgiaid yn gallu symud yn rhwydd i gynefin/coridor bywyd gwyllt arall addas, os ydynt yn bresennol. Gan gadw at ‘Evaluating Local Mitigation and Translocation Programmes: Maintaining Best Practice and Lawful Standards (HGBI)’, dylid torri rhimyn 2m o led o lystyfiant i 10 i 5cm, er enghraifft. Bydd hyn yn osgoi niweidio ymlusgiaid, ond yn eu gwneud yn llai croesawus iddynt.

Ar ôl aros am ddiwrnod o leiaf, dylid torri’r rhimyn hwn i lawr gymaint â phosib, a thorri rhimyn 2m cyfagos i 10 i 15cm. Dylid parhau â hyn i gyfeiriad y cynefin addas, ac oddi wrth unrhyw ffyrdd. Gall llygrwyr arwyneb fel asbestos gael eu claddu drwy orchuddio’r ardaloedd wedi torri gyda haenen denau o bridd.

Dylid cael gwared ar y deunydd wedi’i dorri rhag gadael cysgod i ymlusgiaid. Os cânt eu canfod ar y safle, dylai ecolegydd cymwys fod ar gael i ddal unrhyw ymlusgiaid ac amffibiaid, a’u hadleoli i ardal ddiogel.

Ar ôl i dymor nythu’r adar ddod i ben, gellir cael gwared ar y darnau o lwyni sydd ar ôl. Gellir defnyddio’r un dull o glirio llystyfiant i annog ymlusgiaid i symud o’r safle datblygu rhwng misoedd Medi a Hydref. Efallai y bydd rhaid clirio’r holl safle yn ystod tymor nythu’r adar. Os felly, dangoswch bod adar nythu’n absennol drwy roi arolwg priodol i’r awdurdod cynllunio lleol ar unwaith, cyn i unrhyw waith ddechrau. Fel dewis arall, dylid cynnwys datganiad dull ym methodoleg y gwaith clirio, a chytuno arno’n ysgrifenedig gyda’r awdurdod cynllunio lleol, yn ogystal â’i weithredu yn llawn.

Gall dulliau clirio llystyfiant, fel clirio safleoedd fesul camau, annog rhywogaethau fel ymlusgiaid i symud o’r safle os oes cynefin addas ar gael iddynt wasgaru iddo.

Felly, argymhellir bod amod ar y caniatâd, sef bod yr awdurdod lleol yn derbyn dull clirio safle. Rhaid iddo ystyried ymlusgiaid ac adar yn nythu a chael ei weithredu’n llawn.

Byddai’r dull o weithredu uchod yn cydymffurfio â Pholisi ENV6 Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (2006 i 2021).

Os oes cyfleoedd am gynefinoedd i adar ac ymlusgiaid, gellir addasu’r dull clirio safle i fod yn addas, ond rhaid ei ystyried yn gynnar yn y datblygiad.

Os oes rhywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd ar y safle, dim ond o dan drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y gellir ei glirio. Gweler y rhestr wirio am rywogaethau a all fod yn bresennol ar eich safle.

Os canfyddir llochesi posib ar safle datblygu trefol, gall rhai anifeiliaid gael eu symud gyda llaw i leihau’r niwed iddynt. Yn yr amgylchedd hwnnw, mae llochesi posib yn cynnwys strwythurau fel pentyrrau o gerrig, pentyrrau o goed, estyll pren a haenau metel sy’n gorwedd ar y llawr.

Nodyn cyfarwyddyd pump:

Rhaid i ddatblygwyr/ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ddigonol i ddangos bod osgoi yn amhosib cyn ystyrir lliniaru neu wneud iawn fel opsiynau eraill ymarferol.

Gall mesurau lliniaru sy’n cael eu cynnwys mewn cynigion leihau faint o waith arolygu sydd ei angen hefyd, gan gynnwys ymdrech arolygu a graddfa ofodol. Er hynny, rhaid cyflwyno gwybodaeth ddigonol o hyd i ddeall y natur a’r effeithiau, a’u heffaith debygol ar statws cadwraeth y rhywogaeth.

Nodyn cyfarwyddyd chwech:

Os nad oes modd osgoi niwed, mae angen lliniaru er mwyn lleihau unrhyw niwed. Rhaid i’r lliniaru gael ei sefydlu gan ecolegydd cymwys ac mewn cytundeb â ni.

Mesurau Osgoi Rhesymol a’r datganiad dull

Gan ddibynnu ar raddfa’r datblygiad a’i effeithiau disgwyliedig, gall fod yn amhosib dim ond defnyddio Mesurau Osgoi Rhesymol i roi sylw yn llawn i’r holl effeithiau posib sy’n effeithio ar ymlusgiaid neu eu cynefinoedd. Mae cyfathrebu cynnar ar draws y tîm cynllunio’n hybu gwella dealltwriaeth o’r holl gyfyngiadau, boed ecolegol neu fel arall, ac mae’n galluogi dull cytbwys o gynllunio’r datblygiad.

Os nad yw Mesurau Osgoi Rhesymol yn gallu osgoi’r effeithiau ar ymlusgiaid yn foddhaol, mae angen mesurau lliniaru er mwyn sichrau nad ydynt yn cael unrhyw niwed ac nad oes unrhyw gynefinoedd yn cael eu colli. Bydd yr union fesurau gofynnol yn dibynnu ar faint y boblogaeth, ei dosbarthiad a’i hagosrwydd at waith, a graddfa, amseriad a hyd y gwaith. Ymhlith eraill, gallai’r mesurau gynnwys cau’r safle ar gyfer symud unrhyw ymlusgiaid ac amffibiaid. Gallai hefyd olygu gosod ffens yn ei lle i atal ymlusgiaid ac amffibiaid rhag dod yn ôl i mewn i’r safle yn ystod y gwaith adeiladu.

Manylir ar y mesurau lliniaru i’w gweithredu yn y datganiad dull. Felly rhaid gweithredu cynlluniau yn unol â’r datganiad dull yn llym.

Gall y cynlluniau lliniaru gynnwys cyfuniad o ddal ymlusgiaid gyda llaw mewn llochesi ac adleoli’r anifeiliaid i gynefin derbyn ar/oddi ar y safle. I gael safle ‘clir’, efallai y bydd angen systemau ffensio ar gyfer eithrio, a hefyd trin y cynefin er mwyn cyfyngu ar symudiad anifeiliaid. Rhaid i gynlluniau lliniaru gynnwys gwaith gwella ac ymrwymiadau rheoli cynefin tymor hir, yn enwedig gyda phoblogaethau mawr o anifeiliaid.

Dylid cynnwys ymlusgiaid ac amffibiaid mewn cynefinoedd presennol a/neu newydd ar y safle datblygu, sy’n cael ei ffafrio ar draul adleoli i safle arall. Mae hyn yn hynod bwysig i rywogaethau fel y wiber, sy’n ffyddlon iawn i lecyn gaeafgysgu ac adnoddau eraill, gan wneud adleoli’n anos.

Os yw’r cynllun yn cynnwys adleoli, rhaid i’r datblygwr nodi ac arolygu’r safle datblygu a’r safle derbyn. Hefyd rhaid iddo greu strategaeth adleoli y mae’n rhaid ei hanfon atom ni a rhaid i ni gytuno iddi. Yr amser mwyaf effeithiol i adleoli ymlusgiaid yw rhwng mis Ebrill a diwedd mis Mehefin ac eto rhwng mis Awst a diwedd mis Medi. Gellir trosglwyddo y tu allan i’r cyfnodau pwysicaf hyn hefyd.

Dim ond fel opsiwn olaf un fydd adleoli’n cael ei ystyried, pan nad oes modd creu lle i ymlusgiaid ar y safle. Rhaid i’r strategaeth drosglwyddo gynnwys cynllun rheoli tymor hir ar gyfer y safle derbyn.

Dylai unrhyw gynigion ar gyfer lliniaru a throsglwyddo ddilyn cyngor a chyfarwyddyd ynghylch arfer gorau. Efallai y cewch chi hyd i rywfaint o wybodaeth am hyn yn:

Nodyn cyfarwyddyd saith:

Dim ond os yw’r datblygwr/ymgeisydd wedi dangos yn foddhaol bod osgoi a lliniaru yn amhosib fydd gwneud iawn yn cael ei ystyried. Hefyd rhaid dangos nad yw’r mesurau gwneud iawn yn arwain at golli unrhyw gynefin.

Os nad yw lliniaru’n gallu lleihau’r holl effeithiau posib yn foddhaol, i lefelau digonol, mae’n debygol y bydd angen mwy o fesurau gwneud iawn.

Mae mesurau gwneud iawn yn cynnwys colli cynefin gan amlaf. Er enghraifft, os nad oes modd osgoi colli pwll fel rhan o’r datblygiad arfaethedig, dylid creu pwll/pyllau i wneud iawn am hynny cyn colli’r pwll.

Mae angen gwneud iawn am golli cynefinoedd tir hefyd. Rhaid darparu cynefinoedd tir digonol er mwyn cynnal swyddogaethau magu, chwilio am fwyd, llochesu a gwasgaru ar gyfer y boblogaeth sy’n cael ei heffeithio. Hefyd rhaid cynnal maint y boblogaeth a’i hamrediad naturiol. Felly bydd yn bwysig ystyried cysylltedd rhwng cynefinoedd a gedwir, cynefinoedd newydd a chynefinoedd presennol yn yr ardal ehangach.

Rhaid gwneud iawn am gynefinoedd cyn eithrio’r safle, a dal ymlusgiaid ac amffibiaid. Mae hyn yn galluogi trosglwyddo anifeiliaid i ardaloedd gwneud iawn cyn i ddatblygiad darfu arnynt.

Dylai’r gwneud iawn, ar ôl ei gwblhau, sicrhau na fydd colledion o ran safleoedd magu a gorffwys. Yn wir, os oes disgwyl effeithiau sylweddol, dylai’r gwneud iawn wella cynefinoedd o ran ansawdd neu arwynebedd o gymharu â’r hyn a gollwyd. Hefyd dylai’r gwneud iawn ofalu am unrhyw golli cysylltedd sy’n cael ei greu gan y datblygiad.

Mae gan safleoedd datblygu mawr gyfle i wella cynefinoedd a choridorau cysylltu ar gyfer amffibiaid, ymlusgiaid, anifeiliaid eraill a phlanhigion. Hefyd maent yn darparu diddordeb naturiol ar gyfer y trigolion.

Gall yr esiamplau o wella gynnwys y canlynol:

  • ymgorffori pyllau bywyd gwyllt gan gynnwys cynefin tiriogaethol cyfagos addas mewn datblygiadau newydd, hyd yn oed os nad yw’r datblygiad yn effeithio ar herptilau
  • creu rhwydweithiau o byllau sy’n cael eu cysylltu gan gynefin tiriogaethol addas
  • creu/gwella llochesi/safleoedd gaeafu yn y cynefin presennol yn ogystal â’r cynefin newydd

Os effeithir ar herptilau, dylai’r mesurau lliniaru ail-greu pyllau ar sail dau am un.

Credyd llun: 'Frogger' gan Chad Hordwel. Credyd trwydded.

Chwilio A i Y