Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Madfallod dŵr cribog

Cyngor datblygu

 

Madfallod dŵr cribog (GCN) (triturus cristatus) yw'r mwyaf o’r tair rhywogaeth madfall ddŵr sydd i’w gweld yn y DU. Maent yn cyrraedd uchafswm hyd oedolyn o 17cm, ac maent i’w gweld ar draws y rhan fwyaf o'r tir mawr.

Gellir adnabod oedolyn y fadfall ddŵr gribog yn ôl ei faint a'i liw o'i gymharu â’r ddwy rywogaeth frodorol arall, lai, sef y fadfall ddŵr gyffredin a’r fadfall ddŵr balfog). Yn y tymor bridio, mae modd adnabod gwrywod sy'n oedolion yn ôl eu crib finiog a'r streipen arian/glas, sydd bron yn fflworoleuol, i lawr canol eu cynffonnau.

Mae angen cynefinoedd amrywiol ar fadfallod dŵr drwy gydol eu cylch bywyd. Fel penbyliaid mae arnynt angen pyllau dŵr croyw gyda llawer o lystyfiant, a phan maent yn oedolion mae angen cynefinoedd sy'n amrywio o bentyrrau pren i laswelltir a choetir.

Mae gan safleoedd bridio nodweddiadol nifer o byllau canolig i fawr gydag ardaloedd o ddŵr clir, cyfoethog ac yn ddyfnach na 30cm gyda dim ond ychydig o ysglyfaethwyr pysgod. Mae pyllau o'r fath fel arfer wedi'u hamgylchynu gan gynefin daearol gyda digonedd o orchudd dros y tir fel prysgwydd, coed, neu laswellt hir. Maent yn cynnwys llochesau llaith fel pentyrrau pren, creigiau neu falurion eraill y mae madfallod yn treulio eu hamser ynddynt yn ystod y dydd.

Nid yw'r fadfall ddŵr gribog yn hoffi pyllau gardd, gan fod y rhain yn aml yn fach a heb fod yn gynefinoedd delfrydol o bell ffordd. Fodd bynnag, maent wedi’u gweld mewn pyllau mwy lle rydym yn gwybod eu bod yn bridio.

Mae’r fadfall ddŵr gribog yn gyffredin yn Ewrop, ond mae dan fygythiad ac mae’r niferoedd yn gostwng drwy lawer o’i gwasgariad. Mae'r gostyngiad hwn wedi para sawl blwyddyn gyda’r madfallod dŵr cribog yn mynd yn fwy ac yn fwy prin neu absennol mewn rhai ardaloedd. Y rheswm am hyn yw gostyngiad yn nifer y pyllau bridio addas, yr amrywiaeth o gynefinoedd sydd eu hangen ar gyfer eu hanghenion cylch bywyd, llygredd ac esgeulustod.

Mae'n debyg mai gan y DU y mae'r boblogaeth fwyaf o fadfallod dŵr cribog yn Ewrop ac felly mae'n bwysig iawn eu bod yn parhau i oroesi.

Mae gan fadfallod dŵr cribog, eu safleoedd bridio a'u mannau cysgodi warchodaeth statudol lawn o dan:

Mae'n drosedd lladd, anafu, cymryd neu darfu ar unrhyw fadfall ddŵr gribog, neu ddifrodi neu darfu ar unrhyw safle bridio neu fan cysgodi.

Effaith gyfunol y ddeddfwriaeth genedlaethol ac Ewropeaidd yw rhoi amddiffyniad llawn i holl gyfnodau bywyd y fadfall ddŵr gribog a’i chynefinoedd yn y dŵr ac ar y tir. Mae hyn yn cynnwys cynefinoedd a ddefnyddir i fudo neu wasgaru rhwng safleoedd bridio, fforio a lloches.

Dylai datblygwyr a thirfeddianwyr sy'n dymuno ymgymryd â gweithgareddau a allai effeithio ar fadfallod dŵr cribog gael cyngor safle-benodol cyn creu cynlluniau a rhaglen.

Rhaid i gynigion neu weithgareddau datblygu sy'n effeithio ar y fadfall ddŵr gribog neu ei chynefin ddarparu ar gyfer cadwraeth y rhywogaeth a'i chynefinoedd dan drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Os oes angen unrhyw ganiatâd ar gynigion fel caniatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig, neu drwyddedau echdynnu, rhaid iddo fod yn weithredol a’i ddarparu i CNC gyda'r cais am drwydded.

Dylai datblygwyr a thirfeddianwyr nodi bod angen trwyddedau gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn aml i wneud gwaith datblygu a chlirio llystyfiant sy'n effeithio ar fadfallod dŵr cribog. Mae hyn yn cynnwys unrhyw rywogaethau eraill a warchodir gan Ewrop, ac nid yw'n ystyried p’un ai a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith hwnnw ai peidio. Gallai methu cael trwydded cyn dechrau gwaith datblygu neu waith clirio safle arwain at gyflawni troseddau. Gallai hyn arwain at oedi, erlyn, dirwyon, atafaelu offer, ffioedd cyfreithiol ac, o bosib, dedfryd o garchar.

Mae trwydded yn cael ei rhoi o dan y darpariaethau a nodir yn y Rheoliadau Cynefinoedd. I roi trwydded, rhaid i CNC fod yn fodlon bod y gweithgaredd arfaethedig yn bodloni meini prawf y Rheoliadau Cynefinoedd, sy'n cael eu hadnabod fel "y tri phrawf".

Y tri phrawf

Mae’r profion hyn yn ymwneud â’r canlynol:

  • yr angen am y datblygiad/gweithgarwch arfaethedig
  • ystyriaeth i ddewisiadau amgen posib fel ar gyfer gweithgaredd, dull, amseru, cyflwyno'n raddol, lleoliad
  • cynnal statws cadwraeth ffafriol poblogaeth y fadfall ddŵr gribog yr effeithir arni

Yn yr un modd, mae'r Rheoliadau Cynefinoedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried effaith datblygiad arfaethedig ar fadfallod dŵr cribog cyn penderfynu ar geisiadau cynllunio a allai effeithio arnyn nhw neu eu cynefinoedd. Felly, rhaid i ni fod yn fodlon hefyd y bydd y cynigion yn bodloni meini prawf tri phrawf y Rheoliadau Cynefinoedd cyn rhoi caniatâd cynllunio. Mae'r ddyletswydd hon yn wir p'un ai a yw'r cais yn un ar gyfer cais amlinelliad, materion a gedwir yn ôl neu gais cynllunio llawn.

Rhaid i'r datblygwr neu'r tirfeddiannwr roi digon o wybodaeth i'n helpu i asesu cynigion yn erbyn y Rheoliadau Cynefinoedd ac, os oes angen trwydded, helpu Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:

  • data arolwg presenoldeb/absenoldeb diweddaraf
  • amcangyfrif o'r boblogaeth, os yw ar gael
  • asesiad cynefin
  • asesiad effaith
  • strategaeth lliniaru a gwneud iawn
  • cynllun rheoli a monitro

Cosbau:

Y gosb uchaf am beidio â chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth uchod ar gyfer pob trosedd yw dirwy o £5000 a/neu chwe mis o garchar. Gellir fforffedu unrhyw offer a ddefnyddir i gyflawni'r drosedd. Gellir dal y cwmni a'r unigolion yn atebol.

Nodyn cyfarwyddyd un:

Bydd angen arolwg o'r fadfall ddŵr gribog arnom:

  • os oes unrhyw gorff o ddŵr ar ffin y safle datblygu, neu o fewn 500m iddo, ac eithrio afonydd neu nentydd sydd â llif amlwg
  • os oes cofnodion presennol o’r fadfall ddŵr gribog ar safle datblygu neu o fewn 500m i ffin y safle

Mae angen i ecolegydd sydd â phrofiad a chymwysterau addas ymgymryd â'r arolwg hwn.

Gellir dod o hyd i’r fadfall ddŵr gribog mewn pyllau dŵr dros dro tan o leiaf mis Awst.

Chwilio am gofnodion o’r fadfall ddŵr gribog

Pan fydd cyrff dŵr addas yn bresennol ar safle neu o fewn 500m iddo, dylid chwilio am gofnodion i nodi poblogaethau lleol o'r fadfall a nodwyd yn flaenorol. Dylai'r broses o chwilio am gofnodion gael ei gwneud i hyd at 500m o safle'r cynnig o leiaf, ac ymhellach weithiau yn dibynnu ar raddfa'r datblygiad. Ystyriwch effeithiau tebygol y datblygiad a p’un ai a allai dull asesu poblogaeth ar raddfa tirwedd fod yn fuddiol.

Gofynnwch i Ganolfan Cofnodion Biolegol De ddwyrain Cymru chwilio. Hefyd, gall sefydliadau perthnasol eraill fod â data defnyddiol, gan gynnwys CNC a grwpiau amffibiaidd ac ymlusgiaid lleol.

Bydd dal angen i ddatblygwyr safleoedd gyfeirio at daflenni canllaw sy'n ymwneud ag ymlusgiaid, amffibiaid ac ystlumod os:

  • nad oes cofnodion o’r fadfall ddŵr gribog o fewn 500m i safle'r datblygiad ar gael
  • nad yw'r arolwg yn cadarnhau bod y fadfall ddŵr gribog yn bresennol, ond bod cyrff dŵr ar y datblygiad ac wrth ei ymyl

Nodyn cyfarwyddyd dau:

Os yw'r datblygiad arfaethedig o fewn wyth metr i gwrs dŵr, holwch Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nodyn cyfarwyddyd tri:

Dim ond gwaith arolygu/asesu wedi'i gwblhau gan rywun sydd â chymwysterau addas o fewn canllawiau'r arolwg cydnabyddedig y byddwn yn ei dderbyn.

Mae canllawiau cyffredinol ar yr arolwg ar gyfer rhywogaethau a warchodir ar gael yn ‘Nhaflen Canllaw B9: Gofynion yr Arolwg’. Ar ben hynny, mae’r Llawlyfr ar y Fadfall Ddŵr Gribog yn rhoi canllawiau manwl ar gyfer arolygu’r fadfall ddŵr gribog. Dylai'r ecolegydd sy'n cael ei benodi wneud asesiad o unrhyw byllau ar y safle neu gerllaw hyd yn oed os mai dim ond yn dymhorol mae dŵr ynddynt. Dylent fod o fewn tua 500m ar yr amod nad ydynt yn cael eu gwahanu gan rwystrau sylweddol i wasgaru, fel cefnffordd fawr neu draffordd.

Gall y fadfall ddŵr gribog ddefnyddio pyllau dŵr a ffosydd mwdlyd, sy'n cael eu defnyddio gan wartheg ac yn llawn llystyfiant neu dan gysgod, yn ogystal â phantiau dros dro.

Dylid arolygu/diogelu safleoedd sydd â llochesau fel pentyrrau coed neu rwbel, glaswelltir, prysgwydd, coetir neu wrychoedd o fewn 500m i bwll. Mae hyn ar yr amod na chânt eu gwahanu gan rwystrau gwasgaru sylweddol fel cefnffordd neu draffordd fawr.

Dylid cynnal arolwg cynefin hefyd yn safle’r cynnig i bennu gwerth y safle i amffibiaid ar y tir ac er mwyn iddynt fridio.

Gellir defnyddio'r Mynegai Addasrwydd Cynefinoedd i nodi pyllau bridio posib ar gyfer y fadfall ddŵr gribog. Fodd bynnag:

  • dim ond amcangyfrif o’r tebygrwydd y gallai pwll gael ei ddefnyddio gan y fadfall ddŵr gribog sy’n cael ei nodi yn y Mynegai Addasrwydd Cynefinoedd.
  • dim ond gyda phyllau mae'n gweithio, ac nid yw'n addas i'w ddefnyddio gyda llynnoedd, ffosydd neu ddyfroedd rhedegog
  • ni ellir ei ddefnyddio i bennu presenoldeb neu absenoldeb tebygol y fadfall ddŵr gribog
  • ni ellir ei ddefnyddio yn lle arolwg llawn

Dylai pob pwll addas a nodir yn ystod yr arfarniad rhagarweiniol fod yn amodol ar arolwg i ganfod presenoldeb y fadfall ddŵr gribog. Arolwg pwll yw'r unig ffordd effeithiol a hyderus o gadarnhau a yw’r fadfall ddŵr gribog yn bresennol ai peidio, a oes digon ohonynt ac, mewn llawer o achosion, eu dosbarthiad o ran poblogaeth. Dyma'r ffordd sicraf o roi digon o wybodaeth i ni a Chyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, mae arolygon pyllau yn dymhorol iawn. Mae'n rhaid eu cynnal ar yr adeg gywir o'r flwyddyn, neu fe allant fod yn annigonol i ddilysu ceisiadau cynllunio neu drwyddedau, neu fod yn destun her.

Gall arolygon ar y tir fod o gymorth i asesiadau ar y fadfall ddŵr gribog, ond ni allant ddarparu gwybodaeth gadarn am y boblogaeth heb amser, ymdrech a chost sylweddol.

I benderfynu a oes madfallod dŵr cribog yn bresennol ai peidio, rhaid cynnal arolwg o'r pwll ar bedwar achlysur gwahanol. Os gwelir bod madfallod dŵr cribog yn bresennol, rhaid cynnal o leiaf dau arolwg pellach i sefydlu dosbarth o faint y boblogaeth. Mae arolygon o fadfallod dŵr cribog yn weithgareddau trwyddedadwy a rhaid iddynt gael eu gwneud gan ecolegydd sydd â chymwysterau a phrofiad addas ac sydd wedi'i drwyddedu i gyflawni’r dulliau arolygu a ddewiswyd.

Nodyn cyfarwyddyd pedwar:

Lle mae arolygon yn dangos y bydd y cynnig datblygu yn effeithio ar fadfallod dŵr cribog, dylid anfon datganiad dull gyda'r cais cynllunio atom er mwyn i ni allu cofrestru'r cais. Os nad yw'r mesurau osgoi, lliniaru, gwneud iawn arfaethedig yn foddhaol, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwrthod y cais cynllunio.

Mae'n rhaid defnyddio’r data a geir o arolygon o’r fadfall ddŵr gribog i lunio datganiad dull a gaiff ei gyflwyno i ni er mwyn llywio ein penderfyniad cynllunio.

Dylai'r datganiad dull nodi manylion ardal yr arolwg, cynigion y prosiect, dulliau a chanlyniadau'r arolwg. Dylai'r datganiad dull gyflwyno'r asesiad effaith sy'n manylu ar sut y gellid effeithio ar gynefinoedd yn y dŵr ac ar y tir yn ogystal â'r amffibiaid. Dylid ystyried effeithiau fel rhai dros dro, tymor byr neu dymor hir a dylid nodi graddfa pob effaith. Dylai'r datganiad dull gynnwys mesurau osgoi ymarferol a, lle mae osgoi yn amhosib, darparu strategaeth liniaru fanwl gydag amserlen.

Dylai'r datganiad dull hefyd nodi a oes angen trwydded cyn dechrau ar weithgareddau datblygu ai peidio.

Dylai datblygwyr a thirfeddianwyr nodi na fyddwn yn rhoi amod ar lunio'r datganiad dull. Mae angen yr wybodaeth yn y datganiad dull i'n helpu ni i wneud ein penderfyniad ynghylch y Rheoliadau Cynefinoedd. Ni fydd ceisiadau sy'n rhagweld effaith ar y fadfall ddŵr gribog oherwydd y cynigion, ond nad oes ganddynt ddatganiad dull priodol, yn debygol o gael eu dilysu.

Os caiff y cais ei ddilysu, ond y gwelir bod gwybodaeth am fadfallod dŵr cribog yn annigonol yn ddiweddarach yn ystod y penderfyniad, gallai hyn effeithio ar y penderfyniad cynllunio.

Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddull safonol o wneud cais am drwyddedau ar gyfer datblygiadau. Yn fyr, mae cais am drwydded yn golygu bod yn rhaid i'r datblygwr neu'r tirfeddiannwr sy'n ymgymryd â’r gwaith arfaethedig benodi ecolegydd profiadol, cymwys y mae ei enw wedi'i nodi yn y cais am drwydded. Yr ecolegydd a benodir fydd fwyaf tebygol o fod yn gyfrifol am gydlynu'r cais am drwydded, sy'n gofyn cael ffurflen gais wedi'i chwblhau a datganiad dull. Rhaid i'r datganiad dull fod ar fformat cymeradwy CNC, sydd wedi ei ddarparu gyda'r wybodaeth am y cais am drwydded. Bydd yn cynnwys llawer o’r un wybodaeth i ni â honno sydd ei hangen arnom ar gyfer y cais cynllunio.

Fel arfer, mae ceisiadau am drwydded yn cymryd hyd at 30 diwrnod i gael penderfyniad.

Bydd amodau ynghlwm wrth y drwydded a roddir a dim ond gyda'r datganiad dull cymeradwy y bydd yn ddilys. Mae'r drwydded yn caniatáu'r gweithgareddau hynny a nodir yn y datganiad dull yn unig. Felly mae'n bwysig bod datblygwyr a thirfeddianwyr yn adolygu ac yn cytuno ar y datganiad dull yn ofalus cyn ei gyflwyno.

Torri amodau trwydded

Nod y gweithgareddau a'r mesurau a nodir mewn trwydded yw osgoi niwed diangen i'r rhywogaeth a warchodir. Gall methu dilyn union fesurau'r drwydded arwain at erlyniad. Gallai unrhyw weithgaredd a gynhelir sy'n gwyro'n sylweddol oddi wrth y datganiad dull trwyddedig gael ei ystyried yn achos o dorri’r drwydded. Mae hyn yn cynnwys gwaith a wneir mewn gwahanol leoliadau, gan ddefnyddio gwahanol ddulliau neu ar adeg wahanol i'r hyn a nodwyd yn y datganiad dull. Gellir ystyried bod amodau’r drwydded wedi'u torri os na fydd y gwaith yr ymrwymwyd iddo ac a nodwyd yn y datganiad dull yn cael ei wneud fel y nodir, fel:

  • archwilio a chynnal ffensys gwahardd
  • gwneud gwaith monitro a rheoli
  • mesurau lliniaru sy'n cael eu goruchwylio gan yr ecolegydd

Mae torri amodau’r drwydded yn anghyfreithlon. Dan y gyfraith bresennol, gall unrhyw un sydd wedi'i awdurdodi i gyflawni gweithgareddau dan y drwydded gael ei ystyried yn gyfrifol am dorri telerau ac amodau'r drwydded.

Felly, mae angen briffio'r holl staff a chontractwyr yn llawn ar y safle am y drwydded a'i goblygiadau ar gyfer gweithio ar y safle cyn caniatáu iddynt ddechrau ar y safle. Dylid cadw’r canlynol ar y safle bob amser:

  • copi wedi'i ddiweddaru o'r drwydded a'r datganiad dull cysylltiedig
  • unrhyw daflenni adnabod a allai fod o gymorth i weithwyr y safle
  • manylion cyswllt yr ecolegydd a benodwyd

Pan ddaw’r drwydded i ben

Mae gan drwyddedau ddyddiad dod i ben. Os oes angen i waith barhau y tu hwnt i'r dyddiad dod i ben, rhaid i chi wneud cais am estyniad. Does dim modd rhoi estyniad ar gyfer trwydded sydd wedi dod i ben. Unwaith y bydd trwydded wedi dod i ben, rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd. Yn dibynnu ar yr amser sydd wedi mynd heibio ers i’r drwydded ddod i ben, efallai y bydd angen arolygon ychwanegol i sicrhau bod gwybodaeth gywir a diweddar yn cefnogi'r cais am drwydded.

Nodyn cyfarwyddyd pump:

Rhaid i ddatblygwyr/ymgeiswyr roi digon o dystiolaeth i ddangos bod osgoi yn amhosib cyn ystyried mesurau lliniaru neu wneud iawn fel dewisiadau amgen ymarferol.

Gallai mesurau osgoi sy'n rhan o gynigion datblygu ddileu'r angen am waith arolygu manwl. Byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol gan CNC wrth benderfynu ar achosion pan allai hyn fod yn berthnasol.

Mesurau osgoi yw'r mesurau hynny y gellir eu dilyn yn rhesymol i osgoi trosedd. Fel y cyfryw, gall y Mesurau Osgoi Rhesymol hyn yn aml osgoi'r angen am drwydded. Mesurau Osgoi Rhesymol yw'r dull a ffefrir wrth ystyried dyluniad cynllun. Gall Mesurau Osgoi Rhesymol gynnwys mesurau sy'n amrywio o:

  • adolygu cynllun y safle i osgoi colli nodwedd bwysig
  • gwneud gwaith ar adeg sy'n llai tebygol o arwain at aflonyddwch
  • newid ffyrdd o weithio i leihau effeithiau i lefel dderbyniol

Os yw’r Mesurau’n ymarferol mewn cynllun, rhaid nodi'r rhain o hyd mewn datganiad dull a gaiff ei anfon atom i'w gymeradwyo. Bydd gweithredu'r mesurau a amlinellir yn natganiad dull y Mesurau Osgoi Rhesymol yn debygol o fod yn un o amodau'r caniatâd cynllunio sy'n deillio o hynny.

Os bydd y Mesurau Osgoi Rhesymol yn osgoi pob effaith ddisgwyliedig ar fadfallod dŵr cribog a'u cynefinoedd, mae'n annhebygol y bydd angen trwydded. Yn aml mae hyn yn osgoi neu'n lleihau oedi wrth ddechrau datblygu, ac yn lleihau costau yn rheolaidd hefyd. Felly, yn ystod y broses uwchgynllunio, mae'n bwysig sicrhau dulliau cyfathrebu rhwng eich penseiri, boed y rheini'n rhai tirlun neu fel arall, a'r ecolegydd o’ch dewis sydd â chymwysterau addas. Bydd hyn yn tywys y cynllun a'r rhaglen yn ddigon buan i weld a allai’r Mesurau Osgoi Rhesymol fod yn ddull addas.

Bydd adnabod ac ymgorffori asedau seilwaith gwyrdd fel gwrychoedd, coed neu byllau mewn datblygiad yn gynnar yn helpu i leihau effaith datblygu cynllun. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd ar gyfer Mesurau Osgoi Rhesymol, ac yn osgoi cynlluniau lliniaru a gwneud iawn mwy cymhleth y gall fod angen trwydded ar eu cyfer.

Er enghraifft, gallai'r datblygiad gadw pwll bridio madfallod dŵr cribog yn ei gynllun, gyda chlustogfa llystyfiant addas a chysylltiad â phyllau eraill. Gallai hyn ddangos bod y datblygiad yn osgoi'r effaith ar fadfallod dŵr cribog. Gallai adeiladu pyllau ychwanegol a phlannu gwrychoedd ar gyfer cysylltiad gwell sicrhau budd net.

Nodyn cyfarwyddyd chwech:

Os na all Mesurau Osgoi Rhesymol osgoi effeithio ar fadfallod dŵr cribog yn foddhaol, bydd angen mesurau lliniaru er mwyn sicrhau nad yw madfallod dŵr cribog yn cael niwed ac nad oes unrhyw golled net o ran eu cynefinoedd.

Gweler y canllawiau lliniaru ar gyfer madfallod dŵr cribog ar wefan Natural England. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Llawlyfr Rheoli Cynefin y Fadfall Ddŵr Gribog, Froglife.

Yn dibynnu ar raddfa'r datblygiad a'r effeithiau a ragfynegir, gall fod yn amhosib dibynnu ar ddim ond Mesurau Osgoi Rhesymol i ddatrys pob effaith bosib. Bydd cyfathrebu cynnar ar draws y tîm dylunio yn annog mwy o ddealltwriaeth o'r holl gyfyngiadau, boed hynny'n ecolegol neu fel arall, ac yn caniatáu dull cytbwys o ddylunio datblygiad.

Bydd yr union fesurau sydd eu hangen yn dibynnu ar faint y boblogaeth, ei dosbarthiad a pha mor agos yw hi at y gwaith, ei raddfa, amseriad a’i hyd. Gallai'r mesurau gynnwys trapio'r safle i gael gwared ar unrhyw fadfallod dŵr cribog a gosod ffensys i atal madfallod ac anifeiliaid eraill rhag dychwelyd i'r safle yn ystod y cyfnod adeiladu.

Dylai'r datganiad dull nodi manylion mesurau lliniaru ar gyfer gweithredu. Gan y byddant yn weithgareddau trwyddedig, rhaid eu cynnal yn unol â'r datganiad dull.

Nodyn cyfarwyddyd saith:

Dim ond os yw'r datblygwr/ymgeisydd wedi dangos yn foddhaol nad oes modd osgoi na lliniaru ac nad yw'r mesurau gwneud iawn yn achosi colled net i unrhyw gynefin y gellir ystyried gwneud iawn.

Os na all mesurau lliniaru leihau pob effaith bosib yn foddhaol, mae'n debyg y bydd angen cymryd camau gwneud iawn ychwanegol. Bydd mesurau gwneud iawn yn rhai o ofynion y drwydded. Rhaid cadw at bob mesur gwneud iawn a amlinellir yn y drwydded ac mae methu gwneud hynny yn anghyfreithlon.

Fel arfer, mae mesurau gwneud iawn yn gysylltiedig â cholli cynefinoedd. Er enghraifft, os na all y datblygiad arfaethedig osgoi colli pyllau dŵr, dylid creu pwll/pyllau i wneud iawn cyn colli'r pwll gwreiddiol yn unol â'r hyn a nodir yn y drwydded. Rhaid creu o leiaf dau bwll newydd i wneud iawn am golli pwll bridio madfallod dŵr cribog.

Mae angen gwrthbwyso cynefinoedd ar y tir a gaiff eu colli hefyd, fel bod digon o gynefinoedd ar y tir yn cael eu darparu i gynnal swyddogaethau bridio, fforio, lloches a gwasgaru ar gyfer y boblogaeth yr effeithir arni. Rhaid cynnal maint y boblogaeth a’i gwasgariad naturiol hefyd. O ganlyniad, dylid ystyried y cysylltiad rhwng cynefinoedd wrth gefn, cynefinoedd newydd a chynefinoedd presennol yn yr ardal ehangach.

Rhaid gwneud iawn am gynefin cyn gwahardd y safle a dal madfallod dŵr cribog. Bydd hyn yn golygu bod modd trosglwyddo amffibiaid a ffawna eraill i'r ardal/ardaloedd gwneud iawn cyn i'r datblygiad darfu arnynt.

Gall safleoedd datblygu mawr wella cynefinoedd o'u hamgylch. Gall y preswylwyr gael budd naturiol o'r coridorau cysylltu ar gyfer madfallod dŵr a phlanhigion ac anifeiliaid eraill.

Gall gwelliannau gynnwys y canlynol:

  • ymgorffori pyllau bywyd gwyllt gan gynnwys cynefin cyfagos ar y tir mewn datblygiadau newydd hyd yn oed os nad yw'r datblygiad yn effeithio ar fadfallod dŵr cribog
  • creu ‘rhwydweithiau; o byllau sy'n cael eu cysylltu gan gynefinoedd addas ar y tir
  • creu/gwella safleoedd llochesau/gaeafu gormod mewn cynefinoedd presennol a chynefinoedd newydd

Pan fydd colli pwll yn effeithio ar y fadfall ddŵr gribog, dylai mesurau lliniaru gynnwys ail-greu pyllau ar sail dau i un.

Credyd delwedd: 'Great Crested Newt' gan Chris H. Credyd trwydded.

Chwilio A i Y