Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Coed

Cyngor Datblygu

Mae gan rywogaethau penodol o blanhigion ac anifeiliaid yng Nghymru warchodaeth arbennig. Y rheswm am hyn fel rheol yw oherwydd eu statws cadwraeth bregus, a all fod oherwydd y canlynol:

  • maent mewn perygl
  • maent yn dirywio mewn niferoedd neu amrediad naill yn y DU neu yn y Gymuned Ewropeaidd
  • gallant ddioddef o erlid neu greulondeb, fel moch daear, neu adar, fel drwy gasglu eu wyau 

Mae’r rhywogaethau’n cael eu gwarchod o dan ddeddfwriaeth annibynnol ond yn gysylltiedig yn agos â deddfwriaeth cynllunio gwlad a thref yng Nghymru.

Y prif ddeddfau ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth yng Nghymru a Lloegr yw:

Fodd bynnag, mae haen arall o ddeddfwriaeth yn cael ei llunio ar lefel Ewropeaidd. Mae Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol) 1994 (y Rheoliadau Cynefinoedd) yn gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau yn atodiadau IV a V y Gyfarwyddeb. Mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 yn cadarnhau’r holl ddiwygiadau amrywiol i Reoliadau 1994 ar gyfer Cymru a Lloegr.

Yn ychwanegol at rywogaethau dan warchodaeth gyfreithiol, mae gan y broses gynllunio a datblygu rôl sylfaenol i’w chwarae mewn rheoli a lleddfu’r pwysau hwn. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn dweud bod rhaid i awdurdodau lleol warchod bywyd gwyllt a nodweddion naturiol yn yr amgylchedd ehangach. Rhaid i gynlluniau gweithredu bioamrywiaeth roi pwys priodol i gynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth.

Os yw’n rhesymol debygol y bydd datblygiad yn effeithio ar safle penodol neu gynefin/ rhywogaeth flaenoriaeth neu dan warchodaeth, gwnewch asesiad o’r effaith debygol.        

Dywed Polisi Cynllunio Cymru: “mae presenoldeb rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod gan gyfraith Ewrop neu’r DU yn ystyriaeth sylfaenol pan mae awdurdodau cynllunio lleol yn ystyried cynnig datblygu a fyddai’n debygol o darfu ar neu niweidio rhywogaeth neu ei chynefin”.

Felly, rhaid gweld a oes rhywogaeth dan warchodaeth yn bresennol ac i ba raddau fydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio arni cyn dyfarnu caniatâd cynllunio. Hefyd dylai asesiad cynefin a gwaith arolygu gael eu cynnal i weld a oes rhywogaeth yn bresennol ai peidio a beth yw lefel y defnydd, cyn rhoi caniatâd. Mae’n arfer gorau cynnal arolwg o’r fath cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio. 

Os gall datblygiadau effeithio ar rywogaethau dan warchodaeth a bod awdurdod yn gofyn am arolwg, dylid ei gwblhau a gweithredu’r mesurau gwarchod angenrheidiol cyn rhoi caniatâd. Gall hyn gynnwys drwy amodau a/neu rwymedigaethau cynllunio.

O dan amgylchiadau priodol, gall y caniatâd orfodi amod sy’n atal y datblygiad rhag mynd rhagddo heb gael trwydded i ddechrau o dan y ddeddfwriaeth bywyd gwyllt briodol.

Mae cyfarwyddyd ychwanegol ar gyfer ystyried rhywogaethau dan warchodaeth mewn datblygiadau ar gael yn ‘Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio (2009)’. Mae’r ddogfen hon yn darparu cyngor am sut dylai’r system cynllunio defnydd tir helpu i warchod a gwella bioamrywiaeth a chadwraeth daearegol. Hefyd dylid ei darllen ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru.

Mae Atodiad 7 TAN 5 yn esbonio’r darpariaethau deddfwriaethol ar gyfer gwarchod adar, moch daear, ac anifeiliaid a phlanhigion eraill. Mae’n esbonio lle bydd angen trwyddedau i wneud rhai gweithrediadau penodol yn gysylltiedig â datbygiadau. Mae rhestr o’r holl rywogaethau dan warchodaeth o blanhigion ac anifeiliaid ar gael yn nhabl dau atodiad wyth TAN 5.

Mae rhagor o gyfarwyddyd am safleoedd a rhywogaethau dan warchodaeth yng Nghymru ar gael o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Rhan I Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yn gwarchod planhigion gwyllt y rhywogaethau a restrir yn Atodlen 8. Nid yw’r rhan fwyaf o’r rhain yn rhywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd.

Mae Adran 13 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yn rhoi gwarchodaeth gyfreithiol i rai planhigion gwyllt sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 8. Nid yw gwarchodaeth lai i blanhigion gwyllt eraill wedi’i rhestru. Heb drwydded nac amddiffyn perthnasol, mae’n drosedd gwneud y canlynol:

  • casglu, dadwreiddio neu ddinistrio’n fwriadol blanhigyn gwyllt sydd wedi’i restru yn Atodlen 8
  • dadwreiddio’n fwriadol unrhyw blanhigyn gwyllt heb fod yn Atodlen 8 heb fod yn berson awdurdodedig
  • gwerthu, cynnig neu arddangos ar gyfer gwethu, neu feddu ar neu gludo ar gyfer gwerthu unrhyw blanhigyn gwyllt byw neu farw, neu unrhyw ran ohonynt neu unrhyw beth yn deillio o blanhigion gwyllt yn Atodlen 8
  • cyhoeddi neu achosi cyhoeddi unrhyw hysbyseb sy’n debygol o gael ei deall fel rhywun yn prynu, gwerthu neu fwriadu prynu neu werthu eitemau’r pwynt diwethaf

Mae torri’r gyfraith berthnasol i rywogaethau dan warchodaeth yn drosedd gyfreithiol yn aml. Nid yw dyfarnu caniatâd cynllunio yn rhyddhau datblygwyr o gydymffurfiaeth â’r gyfraith berthnasol i rywogaethau dan warchodaeth. Gellir cyflawni troseddau wrth ddatblygu tir hyd yn oed pan mae’r datblygiad yn unol â chaniatâd cynllunio dilys (TAN 5, 2009).

Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006, Adran 42

Mae gwarchod a gwella bioamrywiaeth yn elfennau allweddol o ddatblygiad cynaliadwy.

Mae colli bioamrywiaeth a’r effaith amgylcheddol negyddol o ganlyniad yn mynd yn groes i amcanion a nodau datblygiad cynaliadwy. Mewn egwyddor, ni ddylai datblygiad cynaliadwy arwain at golled net ar fioamrywiaeth neu adnoddau naturiol.

Mae llawer o’r pwysau ar fioamrywiaeth yn berthnasol i ddatblygiadau a defnydd tir. O ganlyniad, mae gan y broses gynllunio a datblygu rôl sylfaenol i’w chwarae mewn rheoli a lleddfu’r pwysau yma. Gall methu rhoi sylw i faterion bioamrywiaeth achosi gwrthod cais cynllunio.

Deddf NERC 2006, Adran 40

Mae hyn yn rhoi i holl awdurdodau cyhoeddus Cymru a Lloegr ddyletswydd i ystyried yr amcan o warchod bioamrywiaeth yn eu gwaith. Pwrpas allweddol y ddyletswydd hon yw ymgorffori ystyriaeth i fioamrywiaeth yn rhan greiddiol o bolisïau a phenderfyniadau ar draws y sector cyhoeddus.

Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (UK BAP) yn disgrifio adnoddau biolegol y DU a’r cynllun ar gyfer ei warchod. Dyma ymateb y DU i’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Ymrwymodd y DU iddo yn 1992 a thrwy hynny ymrwymo i atal dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2010.

Mabwysiadodd llywodraethau pedair gwlad y DU argymhellion yr arbenigwyr a chyhoeddwyd rhestr y DU o rywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth ym mis Awst 2007. Mae’r rhestr hon yn cynnwys y dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr erioed yn y DU. Mae’n cynnwys 1,150 o rywogaethau a 65 o gynefinoedd sydd wedi cael eu rhestru fel blaenoriaethau ar gyfer cadwraeth.

Mae UK BAP wedi datgan rhaglen ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth yn y DU, ac mae hyn yn cynnwys y rhestr o gynefinoedd sy’n flaenoriaethau cadwraeth.

Yn unol ag adran 42 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (2006), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r cynefinoedd mae’n eu hystyried fel rhai allweddol ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth Cymru. Mae’r rhestr yn cynnwys 51 allan o’r cyfanswm o 65 o gynefinoedd UK BAP gyda thrin chynefin morol ychwanegol penodol i Gymru. Y rhestr hon yw’r rhestr gyfeirio benodol ar gyfer pob corff statudol ac anstatudol sy’n gysylltiedig â gweithrediadau sy’n effeithio ar fioamrywiaeth Cymru. Hefyd, dylid ei defnyddio i lywio penderfyniadau gan awdurdodau lleol a rhanbarthol wrth ystyried gwarchod bioamrywiaeth yn eu gwaith wrth gyflawni dyletswyddau statudol.

Gallai anwybyddu a rhoi sylw annigonol i botensial datblygiad i effeithio ar gynefinoedd neu rywogaethau bywyd gwyllt pwysig arwain at oedi gyda phrosesu’r cais neu wrthod caniatâd. Yn achlysurol, gallai arwain at oedi neu hyd yn oed atal gweithredu caniatâd cynllunio. Er enghraifft, gallai hyn ddigwydd os canfyddir rhywogaeth dan warchodaeth ar safle datblygu ar ôl dechrau ar waith.

Mae’r grwpiau canlynol o gynefinoedd yn cael eu hadnabod fel cynefinoedd UKBAP. Maent i’w gweld ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac wedi’u cynnwys yn y cynllun gweithredu bioamrywiaeth lleol, sy’n datgan blaenoriaethau ar lefel sirol.

Cynlluniau Gweithredu Cynefinoedd

Datblygwyd Cynlluniau Gweithredu Cynefinoedd Perthnasol (CGCau) er mwyn rhoi sylw i’r camau gweithredu gofynnol i helpu i warchod llawer o rywogaethau allweddol y fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, nid yw rhai rhywogaethau’n cael eu gwarchod yn ddigonol gan y Cynlluniau Gweithredu Cynefinoedd, a lluniwyd Cynlluniau Gweithredu Rhywogaethau (CGRhau) ar gyfer y rhywogaethau hyn.

Cynlluniau Gweithredu Rhywogaethau

Cafodd CGRhau eu creu ar gyfer rhywogaethau sy’n wynebu bygythiad mawr neu’n dirywio’n gyflym, fel bod rhaid gweithredu ar frys i osgoi diflannu yn lleol. Mae glöynnod byw prin fel y fritheg yn un esiampl. Maent yn berthnasol lle mae dosbarthiad rhywogaeth yn eang, neu i’w gweld mewn amrywiaeth o gynefinoedd, ond ni fydd y gwaith cyffredinol ar gynefin yn darparu ar ei chyfer. Hefyd maent yn berthnasol i rywogaethau sydd wedi’u cyfyngu i gynefin penodol sydd â gofynion ecolegol anarferol nad yw rheolaeth arferol ar gynefin yn darparu ar eu cyfer. Mae’r Gardwenynen Feinlais yn un esiampl o hyn.

Os bydd cynigion datblygu’n effeithio ar gynefinoedd neu rywogaethau lleol neu genedlaethol CGB, mae’r un egwyddorion yn berthnasol ag i safleoedd a ddynodir yn lleol (TAN 5; 5.5.4).

Mae gan safleoedd lleol ran bwysig i’w chwarae mewn cyrraedd targedau bioamrywiaeth ac ychwanegu at ansawdd bywyd a lles y gymuned. Mae’r buddiannau cadwraeth natur y maent wedi cael eu creu ar eu cyfer yn ystyriaeth sylfaenol mewn penderfyniadau cynllunio (TAN 5). Hefyd, mae polisïau Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu gwarchod.

Felly, fel gyda safleoedd dynodedig, mae TAN 5 yn disgwyl i ddatblygwyr nodi sut gall eu cynigion effeithio ar gynefinoedd a rhywogaethau’r CGB, a naill ai’n bositif neu’n negyddol. Os yw hynny’n berthnasol, dylai datblygwyr nodi sut mae’r safleoedd datblygu arfaethedig yn cyfrannu at y rhwydweithiau neu’r mosaig ecolegol ehangach.

Cynefinoedd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Pen-y-bont ar Ogwr: coetiroedd

Mae’r cynefinoedd o goetiroedd a gwrychoedd yn cynnwys y canlynol:

  • gwrychoedd hynafol sydd â chyfoeth o rywogaethau
  • coetiroedd hynafol ar dir isel
  • coetiroedd derw yr ucheldir
  • coetiroedd ynn cymysg yr ucheldir
  • coetiroedd gwlyb
  • parcdir a phorfa goed ar dir isel
  • coetiroedd ffawydd ac yw
  • coetiroedd collddail cymysg ar dir isel
  • perllanau traddodiadol

Mae’r cynefinoedd glaswelltir yn cynnwys y canlynol:

  • dolydd gwair a hen borfeydd
  • glaswelltiroedd asid sych ar dir isel
  • glaswelltiroedd calchaidd
  • ymylon caeau grawn

Mae’r cynefinoedd corstir yn cynnwys y canlynol:

  • glaswellt y gweunydd a phorfa o frwyn
  • corsydd pori arfordirol a gorlifdir
  • corslwyni
  • ffeniau a llaciau
  • gorgorsydd

Mae’r cynefinoedd rhostir yn cynnwys y canlynol:

  • rhostiroedd

Mae’r cynefinoedd arfordirol, morol a chraig yn cynnwys y canlynol:

  • twyni tywod arfordirol
  • corsydd halen
  • esgeiriau o ro
  • clogwyni a llethrau arfordirol
  • palmentydd calchfaen

Mae’r cynefinoedd dŵr yn cynnwys y canlynol:

  • dyfroedd llonydd ewtroffig a phyllau
  • cyrff o ddŵr yn amrywio’n naturiol a fwydir gan ddyfrhaen
  • afonydd
  • llynnoedd mesotroffig
  • llynnoedd oligotroffig a dystroffig

Mae’r cynefinoedd eraill yn cynnwys y canlynol:

  • cynefinoedd mosaig agored ar dir wedi’i ddatblygu’n flaenorol
  • gofod gwyrdd trefol fel parciau, rhandiroedd, ymylon ffyrdd llawn blodau a chloddiau rheilffyrdd
  • ogofâu a thwnelau a mwyngloddiau segur
  • tomenni glo

Nodyn cyfarwyddyd pedwar:

Nid yw rhai o’r cynefinoedd hyn yn cael eu gwarchod yn statudol, ond maent yn cael eu gwarchod gan bolisi cynllunio. Byddant i’w gweld oddi mewn i safleoedd dynodedig a’r tu allan iddynt. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis statws cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth fel prif ddangosydd i fesur y cynnydd cenedlaethol tuag at ddatblygiad cynaliadwy. Bydd datblygiadau yn y dyfodol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau bod statws cynefinoedd a rhywogaethau yn gwella.

I helpu i fonitro cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth, dylid cofnodi’r holl weithiau datblygu sy’n effeithio arnynt ar wefan System Cofnodi Gweithredu dros Fioamrywiaeth (BARS).

Pryd i gynnal arolwg ar gyfer rhywogaethau neu gynefinoedd blaenoriaeth

Nodyn cyfarwyddyd pump:

Os yw’n rhesymol debygol y bydd datblygiad yn effeithio ar gynefin neu rywogaeth flaenoriaeth, rhaid cynnal asesiad o’r effaith debygol. Dylai’r asesiad fod yn arolwg neu adroddiad ecolegol.

Mae’n bwysig cofio y bydd cyfyngiadau tymhorol ar y gwaith arolygu sy’n ofynnol fel sail i asesiadau o’r fath. Edrychwch ar y daflen gyfarwyddyd, ‘gofynion arolygu’. Gall trafod yr anghenion o ran arolwg bioamrywiaeth yn y cam cyn-ymgeisio helpu i leihau’r tebygolrwydd o oedi oherwydd canfod gofynion am arolygon yn nes ymlaen.

Fel rheol, mae datblygiad a fyddai’n cael effaith niweidiol ar gynefin neu rywogaeth flaenoriaeth yn annerbyniol.

Nodyn cyfarwyddyd chwech:

Dim ond mewn achosion arbennig, lle mae pwysigrwydd datblygiad yn fwy na’r effaith ar y nodwedd, fyddai effaith niweidiol yn cael ei chaniatáu. Mewn achosion o’r fath, bydd amodau neu rwymedigaethau cynllunio’n cael eu defnyddio i liniaru’r effaith.

Dylid gwneud iawn am golli neu ddifrodi unrhyw gynefinoedd neu rywogaethau ar sail dim colled net. Gellir gwneud iawn ar sail tebyg am debyg ar neu oddi ar y safle fel rhan o gynllun gwneud iawn ar gyfer bioamrywiaeth.

I adlewyrchu colli ansawdd cynefin, efallai y bydd angen gwneud iawn gydag ardal fwy na’r un a gollwyd gan y datblygiad, er mwyn cyflawni dim colled net ar fioamrywiaeth.

Penderfynu ar faint neu ansawdd cynefin newydd    

Y tair ffactor allweddol i’w hystyried wrth fanylu ar y cymarebau perthnasol yw:

  1. Gwerth cynefin, yn cyfrif am yr elfennau nodedig cymharol ac ansawdd yr hyn a gollwyd a’r hyn a ddarperir yn ei le.
  2. Risg ac ansicrwydd. Mae’r ffactor hon yn ystyried ein bod yn gwybod pa fioamrywiaeth sy’n cael ei cholli oherwydd datblygiad. Fodd bynnag, mae creu neu adfer cynefin bob amser yn achosi risg y bydd y gwneud iawn yn methu darparu cynefin o’r ansawdd a ddisgwylir.
  3. Dewis amser, o ran y byddem yn ffafrio elfen benodol o fioamrywiaeth nawr yn hytrach na rywdro yn y dyfodol. Er bod y colli cynefin oherwydd datbygiad yn digwydd ar unwaith, gall creu neu adfer cynefinoedd gymryd blynyddoedd lawer. 

Cyngor ar gynefin newydd

Dylid trafod yn fanwl unrhyw golled neu wneud iawn sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y cynefinoedd uchod gyda ni cyn ymgeisio, fel mae polisi cenedlaethol (PPW 5.5.1) yn ei argymell. Byddwn yn gallu eich cynghori.

Argymhellir trafodaethau cyn-ymgeisio gydag ymgynghoreion statudol fel Cyfoeth Naturiol Cymru. Hefyd rydym yn argymell siarad ag ymgynghoreion anstatudol fel Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a’r RSPB os yw hynny’n briodol. Dylid gwneud hyn ar ddechrau’r broses gynllunio. Bydd gofyn am gyngor yn caniatáu digon o fesurau lliniaru a gwneud iawn addas i’w cynnwys yn y cynllun, a chynorthwyo gyda’r broses ymgeisio am ganiatâd cynllunio.

Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) swyddogaeth reoleiddiol ar gyfer yr amgylchedd dŵr. Gellir cael cyngor ar wefan CNC am ganiatadau a thrwyddedau y bydd rhaid i ddatblygwyr eu cael gan CNC. 

Ystyriaethau pwysig

Nid yw’n bosib gwneud iawn am goetiroedd hynafol ac ni ddylid eu dinistrio na’u tynnu. Mae gwrychoedd yn dod o dan y Rheoliadau Gwrychoedd. Gall y cynefinoedd hyn gynnwys neu gael eu defnyddio gan anifeiliaid dan warchodaeth, a fydd yn destun arolygon a mesurau lliniaru / gwneud iawn penodol.

Nodyn cyfarwyddyd saith

Rhaid i ddatblygwyr/ymgeiswyr gael digon o dystiolaeth i ddangos bod osgoi yn amhosib cyn ystyried lliniaru neu wneud iawn fel opsiynau eraill posib.

Gall cynnwys mesurau osgoi mewn cynigion datblygu ddileu’r angen am waith arolygu manwl. Byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol gan CNC wrth benderfynu ar achosion lle mae hyn yn berthnasol.

Mesurau osgoi yw’r rhai y gellir eu gweithredu’n rhesymol er mwyn osgoi trosedd. O’r herwydd, gall y Mesurau Osgoi Rhesymol (MORhau) hyn osgoi’r angen am drwydded yn aml. MORhau yw’r dull a ffafrir wrth ystyried dyluniad y cynllun. Gall MORhau gynnwys mesurau fel y canlynol:

  • adolygu cynllun safle i osgoi colli nodwedd bwysig
  • gwneud gwaith ar amser sy’n llai tebygol o arwain at darfu
  • diwygio dulliau gweithio i leihau’r effeithiau i lefelau derbyniol

Os yw MORhau yn ymarferol ar gyfer cynllun, rhaid eu nodi mewn Datganiad Dull a anfonir atom ni ar gyfer cymeradwyaeth. Bydd gweithredu mesurau’r Datganiad Dull MORhau yn debygol o fod yn amod ar y caniatâd cynllunio a geir o ganlyniad.

Os yw’r MORhau yn osgoi’r holl effeithiau disgwyliedig i rywogaethau blaenoriaeth a’u cynefinoedd i lefelau annerbyniol, nid yw’n debygol y bydd angen trwydded gan CNC. Yn aml gall hyn osgoi neu leihau’r oedi gyda dechrau datblygiad a bydd yn lleihau costau yn aml hefyd. Felly mae’n bwysig creu sianelau cyfathrebu rhwng eich penseiri, tirlun neu fel arall, a’r ecolegydd cymwys rydych chi wedi’i ddewis wrth gynllunio ar y dechrau. Bydd hyn yn cynorthwyo gyda llywio’r cynllun a’r rhaglen yn ddigon cynnar er mwyn gweld pa MORhau sy’n ddull gweithredu addas. 

Bydd dewis a chynnwys asedau seilwaith gwyrdd mewn datblygiad yn gynnar yn helpu i leihau effaith datblygu cynllun. Bydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer MORhau ac yn osgoi cynlluniau lliniaru a gwneud iawn cymhlethach a fydd angen trwydded efallai.

Nodyn cyfarwyddyd wyth:

Os nad oes modd osgoi niwed, dylid ei leihau gyda mesurau lliniaru.

Efallai y bydd yn amhosib dibynnu ar MORhau yn unig i roi sylw i’r holl effeithiau posib ar rywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth dan warchodaeth. Mae hyn yn dibynnu ar raddfa’r datblygiadau a’r effeithiau a ragwelir. Os oes rhywogaethau Ewropeaidd a than warchodaeth yn bresennol, efallai y bydd angen mesurau gwneud iawn. Mae cyfathrebu cynnar ar draws y tîm dylunio’n hybu gwell dealltwriaeth o’r holl gyfyngiadau ac yn galluogi dull cytbwys o weithredu ar gyfer cynllunio datblygiadau.

Os nad yw MORhau yn gallu osgoi effeithiau negyddol yn foddhaol, bydd angen mesurau lliniaru i atal niwed ac i sicrhau nad oes unrhyw golled net ar gynefinoedd. Bydd yr union fesurau gofynnol yn dibynnu ar y rhywogaeth, ei chynefin, maint y boblogaeth, ei dosbarthiad a’r agosrwydd at y gwaith, a hefyd graddfa, amseriad a hyd y gwaith.

Bydd y datganiad dull yn manylu ar y mesurau lliniaru i’w gweithredu. Os oes gweithgareddau trwyddedig, rhaid eu cwblhau gan gadw’n llym at y datganiad dull.

Nodyn cyfarwyddyd naw:

Dim ond os yw datblygwyr/ymgeiswyr wedi dangos yn foddhaol bod osgoi neu liniaru yn amhosib fydd gwneud iawn yn cael ei ystyried, a’r mesurau gwneud iawn ddim yn arwain at golled net ar gynefin.

Os nad yw lliniaru’n gallu lleihau’r holl effeithiau negyddol posib yn foddhaol, bydd angen mesurau gwneud iawn ychwanegol mae’n debyg. Os oes Rhywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd yn bresennol, efallai y bydd angen trwydded ar gyfer mesurau gwneud iawn.

Gan amlaf, mae mesurau gwneud iawn yn cynnwys colli cynefinoedd. Mae colli cynefinoedd yn gofyn am wneud iawn fel bod digon o gynefin i’r boblogaeth sydd wedi’i heffeithio allu magu, canfod bwyd a gwasgaru. Hefyd, rhaid cynnal maint y boblogaeth a’i hamrediad naturiol. Felly bydd yn bwysig ystyried cysylltedd rhwng cynefinoedd cadw, cynefinoedd newydd a chynefinoedd presennol yn yr ardal ehangach.

Rhai gwneud iawn am gynefin cyn eithrio safle a dal rhywogaeth dan warchodaeth. Mae hyn yn galluogi trosglwyddo rhywogaeth dan warchodaeth ac anifeiliaid eraill i’r ardal(oedd) gwneud iawn cyn i’r datblygiad darfu arnynt.

Fel rhan o ddull gweithredu’r seilwaith gwyrdd, dylid nodi, gwarchod a gwella cynefinoedd os yw hynny’n bosib. Er enghraifft, cynnwys asedau naturiol presennol fel pyllau, coed neu goetir a byffer yn y cynllun a lliniaru’n briodol os bydd y datblygiad yn dinistrio asedau naturiol. Gellir gwneud gwelliannau drwy gynnwys nodweddion naturiol mewn datblygiadau newydd priodol a sicrhau bod gan ffyrdd sy’n cael eu hadeiladu ar draws llwybrau mudo dwnelau neu bontydd i fywyd gwyllt.

Gall safleoedd datblygu mawr wella cynefinoedd cyfagos a choridorau cysylltu ar gyfer rhywogaethau dan warchodaeth a phlanhigion ac anifeiliaid eraill. Hefyd maent yn creu diddordeb naturiol i drigolion.

Ar hyn o bryd, rydym yn symud tuag at ddull gweithredu integredig ar raddfa tirlun gyda chadwraeth bioamrywiaeth. Y nod yw adfer cynefinoedd a rhywogaethau, a hefyd yr ecosystemau a’r gwasanaethau maent yn eu cefnogi. Bydd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwybodaeth a mapiau o gynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth.

Mae cyfraniad datblygiad yn dibynnu ar gymeriad y lleoliad, y math o ddatblygiad, y cyfraniad y gall ei wneud at eco-gysylltedd a gwasanaethau rheoleiddiol a darparu. Gall datblygwyr nodi’r ddarpariaeth o gyfleoedd seilwaith gwyrdd, a’u cymeriad a’u dosbarthiad, drwy fapiau gwasanaethau ecosystemau. Rydym wedi creu’r rhain gyda’n gilydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

Nodyn cyfarwyddyd deg:

Yn ogystal â gwarchod cynefinoedd blaenoriaeth, dylai datblygiadau sicrhau cymaint o gyfraniad â phosib at y seilwaith gwyrdd ac ystyried sut maent yn ychwanegu at wasanaethau ecosystemau.

Bydd gwella’r ddealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol yn arwain at gyhoeddi deddfwriaeth a chyfarwyddyd pellach. Cyfrifoldeb y datblygwyr yw sicrhau bod eu cynigion yn bodloni’r polisi a’r cyfarwyddyd presennol.

Nodyn cyfarwyddyd un ar ddeg:

Bydd gwella’r ddealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol yn arwain at gyhoeddi deddfwriaeth a chyfarwyddyd pellach. Cyfrifoldeb y datblygwyr yw sicrhau bod eu cynigion yn bodloni’r polisi a’r cyfarwyddyd presennol.

Credyd llun: 'Lonely tree in a field' gan sagesolar a'r credyd trwydded.

Chwilio A i Y