Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghori ynghylch y Drefn Ddrafft i Asesu Safleoedd Posibl

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau.

Un elfen allweddol wrth ddatblygu CDLl Pen-y-bont ar Ogwr yw nodi safleoedd addas ar gyfer tai, cyflogaeth, cynigion trafnidiaeth, manwerthu a defnyddiau tir eraill o bwys megis hamdden ac adloniant a chyfleusterau cymunedol yn y dyfodol. Fel rhan o’r broses hon, rhwng 9 Tachwedd 2006 a 31 Ionawr 2007 gwahoddodd y Cyngor gynigion gan dirfeddianwyr, datblygwyr ac eraill a oedd â diddordeb i awgrymu safleoedd posibl i’w datblygu yn y dyfodol. O ganlyniad, cyflwynwyd nifer sylweddol o safleoedd posibl (dros 400) i’r Cyngor iddo eu hystyried drwy broses y CDLl.

Mae’r safleoedd a awgrymwyd wedi cael eu crynhoi’n ‘Gofrestr Safleoedd Posibl’, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2007.

Er mwyn asesu’r safleoedd sydd wedi cael eu cynnig i’w cynnwys o bosibl yn y CDLl adnau, mae’r Cyngor wedi datblygu trefn asesu safleoedd (gweler y cysylltiadau isod). Bydd y drefn hon yn cael ei chymhwyso i’r holl Safleoedd Posibl sydd ar y Gofrestr Safleoedd Posibl, ynghyd ag unrhyw safleoedd ychwanegol a ddaw i’r amlwg efallai yn sgil y gwaith casglu tystiolaeth sy’n dal i fynd rhagddo, astudiaethau technegol yr ymgymerir â nhw gan neu ar ran y Cyngor, a’r safleoedd hynny na weithredwyd arnynt sydd wedi’u dyrannu yng Nghynllun Datblygu Unedol (CDU) mabwysiedig cyfredol Pen-y-bont ar Ogwr.

Nid yw’n ofynnol yn ôl y rheoliadau CDLl i’r Cyngor ymgynghori ynghylch y Drefn Asesu Safleoedd Posibl. Fodd bynnag, tybir ei bod yn briodol cynnal ymarferiad ymgynghori anffurfiol cyfyngedig er mwyn bod yn dryloyw ynglŷn â’r drefn asesu a chanfod barn pobl. Bydd y farn honno’n dylanwadu ar y broses a bydd yn cael ei haddasu os credir bod hynny’n briodol.

Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.

Chwilio A i Y