Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad ynghylch Safleoedd Diwygiedig

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau.

Cyflwyniad

Mae a wnelo’r ymgynghoriad hwn â diwygiadau arfaethedig y Cyngor i rai safleoedd sydd wedi’u cynnwys o fewn Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Pen-y-bont ar Ogwr.

Dogfen gyfreithiol yw’r CDLl a fydd yn nodi’r polisïau cynllunio yn y fwrdeistref sirol hyd at 2021. Bydd y CDLl yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio ac i arwain a hybu datblygiad sydd er lles y cyhoedd. Mae’r polisïau yn y cynllun yn adnabod tir ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad – megis tai, cyflogaeth, adwerthu, addysg a mannau agored. Mae gan y cynllun y potensial i gael effaith uniongyrchol ar fywydau pob un o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n dwyn goblygiadau mawr i dirfeddianwyr a datblygwyr.

Fe hoffem glywed eich safbwyntiau chi am y newidiadau cyfyngedig y mae’r Cyngor yn cynnig eu gwneud i’r CDLl.

Cefndir

Cyflwynodd y Cyngor Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Pen-y-bont ar Ogwr i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2012.

Mae arolygydd annibynnol wrthi ar hyn o bryd yn cynnal archwiliad i benderfynu a yw’r cynllun yn gadarn. Mae ei ganfyddiadau rhagarweiniol yn nodi bod angen safleoedd ychwanegol i ddiwallu anghenion tai’r Fwrdeistref Sirol hyd at 2021. Mae hefyd yn ystyried, gyda rhai dyraniadau tybiannol a ddangosir â symbol ar y Map Cynigion sy’n cyd-fynd â’r Cynllun, bod angen dangos terfynau diffiniol.

Fel rhan o’r ymateb i ganfyddiadau rhagarweiniol yr Arolygydd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynhyrchu dogfen ymgynghori sy’n cynnwys atodlen o’r Safleoedd Defnydd Cymysg PLA3 hynny yn y Cynllun y cynigir eu diwygio.

Yn ogystal, mae’r ddogfen yn nodi sut y mae’r Cyngor yn bwriadu dangos terfynau diffiniol y safleoedd hynny yn y Cynllun a ddangosir â symbol tybiannol yn y Cynllun a gyflwynwyd. Mae Arfarniadau o Gynaliadwyedd safle-benodol wedi cael eu paratoi hefyd i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Yn ogystal, mae’r ddogfen yn nodi sut y mae’r Cyngor yn bwriadu dangos terfynau diffiniol y safleoedd hynny yn y Cynllun a ddangosir â symbol tybiannol yn y Cynllun a gyflwynwyd. Mae Arfarniadau o Gynaliadwyedd safle-benodol wedi cael eu paratoi hefyd i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Mae dogfennau diwygiedig sy’n manylu ar yr Arfarniadau o Gynaliadwyedd (sy’n cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol) a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi cael eu paratoi i gyd-fynd â’r newidiadau arfaethedig gan gynnwys y Safleoedd Amgen hynny y mae’r Cyngor bellach yn eu cefnogi i ddarparu datblygiadau tai ychwanegol (ond nid ydynt yn cael sylw yn yr ymgynghoriad hwn).

Ble allaf weld y Cynigion?

Dulliau Ymgynghori

Fe hoffem wybod beth ydych chi’n ei feddwl am y diwygiadau arfaethedig i’r CDLl. Mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwch weld y ddogfennaeth ymgynghori a gwneud sylwadau.

Bydd y cyfnod ymgynghori’n rhedeg o 21 Chwefror 2013 tan 9 Ebrill 2013 .

Ble allaf weld y cynigion yn llawn?

Mae’r ddogfennaeth lawn ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Ar-lein, gan ddefnyddio’r dolenni uchod.
  • Yn unrhyw lyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol.
  • Yng Nghanolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr.

Sut allaf roi fy safbwyntiau?

Mae nifer o ffyrdd y gallwch roi eich safbwyntiau ar y cynigion:

  • Gallwch gwblhau ffurflen ar-lein, ac mae’r cyfleuster hwn yn eich galluogi i lanlwytho dogfennau ategol os oes angen
  • Gallwch lawrlwytho a chwblhau ffurflen sylwadau, a fydd hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd lleol, neu yn yr arddangosfeydd a’r sesiynau galw heibio
  • Gallwch e-bostio eich sylwadau’n uniongyrchol i: ldp@bridgend.gov.uk
  • Gallwch ffacsio’ch sylwadau i 01656 643190
  • Gallwch ysgrifennu at y Rheolwr Grŵp dros Ddatblygu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB.

Sylwer bod yn rhaid i’r holl ymatebion ein cyrraedd erbyn 5pm ar ddydd Mawrth 9 Ebrill 2013.

Beth yw’r camau nesaf?

Unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, bydd yr holl sylwadau’n cael eu trosglwyddo i’r Arolygydd sy’n cynnal yr archwiliad. Bydd yn ystyried y sylwadau a wnaed ac yn penderfynu a oes unrhyw sesiynau ychwanegol yn ofynnol fel rhan o’r gwrandawiad Archwilio i drafod y materion a godwyd mewn mwy o fanylder i’w alluogi i benderfynu a yw’r Cynllun fel y’i diwygiwyd yn ‘gadarn’ ac i gyflwyno’i adroddiad i’r Cyngor, y disgwylir iddo wneud yn haf 2013.

Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.

Chwilio A i Y